Marine Le Pen
Cyfreithiwr a gwleidydd Ffrengig yw Marion Anne Perrine "Marine" Le Pen (Ffrangeg: [maʁin lə pɛn]; ganwyd 5 Awst 1968) a redodd am arlywyddiaeth Ffrainc, yn aflwyddiannus, yn 2012, 2017, a 2022. Ymunodd Le Pen â'r FN (Ffrynt Cenedlaethol, yn ddiweddarach y Rali Genedlaethol (RN), bu'n gwasanaethu fel ei llywydd o 2011 i 2021. Mae hi'n aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer 11eg etholaeth Pas-de-Calais ers 2017. Mae ei safiad gwleidyddol yn un dde eithaf ar y sbectrwm gwleidyddol.[1][2][3][4]
Marine Le Pen | |
---|---|
Ganwyd | Marion Anne Perrine Le Pen 5 Awst 1968 Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Addysg | Master of Laws |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | member of the regional council of Île-de-France, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod Senedd Ewrop, conseiller régional des Hauts-de-France, arweinydd plaid wleidyddol, member of the departmental council of Pas-de-Calais, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc |
Plaid Wleidyddol | National Rally |
Tad | Jean-Marie Le Pen |
Mam | Pierrette Lalanne |
Priod | Éric Iorio, Franck Chauffroy |
Partner | Louis Aliot |
Plant | Jehanne Chauffroy, Mathilde Chauffroy, Louis Chauffroy |
Perthnasau | Marion Maréchal, Nolwenn Olivier, Jany Le Pen, Philippe Olivier |
Llinach | Le Pen family |
Gwefan | https://mlafrance.fr |
llofnod | |
Cafodd Marine Le Pen ei geni yn Neuilly-sur-Seine, yn ferch i'r arweinydd blaenorol y blaid, Jean-Marie Le Pen[5] [6], a'i wraig gyntaf, Pierrette Le Pen. Mae gan Le Pen ddwy chwaer: Yann a Marie Caroline.
Roedd hi'n fyfyrwraig yn y Lycée Florent Schmitt yn Saint-Cloud. Gadawodd ei mam y teulu yn 1984 pan oedd Marine yn 16. Ysgrifennodd Le Pen yn ei hunangofiant mai'r effaith oedd "y mwyaf ofnadwy: nid oedd fy mam yn fy ngharu i."[7] Ysgarodd ei rhieni yn 1987.[8][9]