Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd
Corff rhynglywodraethol, a rhan o'r Cenhedloedd Unedig yw'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC). Ei waith yw datblygu gwybodaeth wyddonol am newid hinsawdd a achosir gan weithgareddau dynol.[1] Sefydlwyd yr IPCC gan Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO) a Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) yn 1988. Cymeradwyodd y Cenhedloedd Unedig greu'r IPCC yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[2] Mae'r ysgrifenyddiaeth yng Ngenefa, y Swistir, a gynhelir gan y WMO a cheir 195 o aelod-wladwriaethau sy'n ei llywodraethu.[3]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig, sefydliad rhynglywodraethol, environmental organization |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Prif bwnc | amrywioldeb yr hinsawdd |
Sylfaenydd | Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig |
Rhiant sefydliad | World Meteorological Organization, Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Genefa |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Gwefan | https://www.ipcc.ch/, https://www.ipcc.ch/languages-2/francais/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r aelod-wladwriaethau'n ethol bwrdd o wyddonwyr i wasanaethu i asesu'r maes newid hinsawdd, fel arfer am gyfnod o rhwng chwech a saith mlynedd. Eu cam cyntaf yw dewis arbenigwyr i baratoi adroddiadau'r IPCC.[4] Mae'n tynnu'r arbenigwyr o enwebiadau gan lywodraethau a sefydliadau arsylwi. Mae ganddyn nhw dri gweithgor a thasglu.[4]
Mae'r IPCC yn hysbysu llywodraethau o'r wybodaeth ddiweddaraf am newid hinsawdd. Gwna hyn drwy archwilio'r holl lenyddiaeth wyddonol berthnasol ar y pwnc. Mae hyn yn cynnwys yr effeithiau naturiol, economaidd a chymdeithasol a risgiau. Ymdrinia hefyd ag opsiynau ymateb posibl. Nid yw'r IPCC yn cynnal ei ymchwil gwreiddiol ei hun. Ei nod yw bod yn wrthrychol ac yn gynhwysfawr. Mae miloedd o wyddonwyr ac arbenigwyr eraill yn gwirfoddoli i adolygu'r cyhoeddiadau ar ffurf drafft, cyn eu cyhoeddi.[5] Maent yn crynhoi canfyddiadau allweddol yn "Adroddiadau Asesu" ar gyfer llunwyr polisi a'r cyhoedd yn gyffredinol;[4] Mae arbenigwyr wedi disgrifio'r gwaith hwn fel y broses adolygu cymheiriaid (peer review) fwyaf ar wyneb Daear. [6]
Mae'r IPCC yn awdurdod a dderbynnir yn rhyngwladol ar newid hinsawdd. Cymeradwyir ei waith gan wyddonwyr hinsawdd blaenllaw a phob aelod-lywodraeth.[7][6] Mae'r cyfryngau, llywodraethau, sefydliadau cymdeithas sifil a busnesau yn dyfynnu ei adroddiadau'n aml. Mae adroddiadau'r IPCC yn chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau hinsawdd blynyddol a gynhelir gan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC).[8][9] Roedd Pumed Adroddiad Asesiad yr IPCC yn ddylanwad pwysig ar Gytundeb Paris yn 2015.[10] Rhannodd yr IPCC Wobr Heddwch Nobel 2007 ag Al Gore am ei gyfraniadau at ddeall newid hinsawdd.[11]
Yn 2015 dechreuodd yr IPCC ei chweched cylch asesu. Bydd yn ei gwblhau yn 2023. Yn Awst 2021, cyhoeddodd yr IPCC ei gyfraniad Gweithgor I i'r Chweched Adroddiad Asesu (IPCC AR6) ar sail gwyddor ffisegol newid yn yr hinsawdd.[12] Disgrifiodd The Guardian yr adroddiad hwn fel y “rhybudd mwyaf eto” o “newid hinsawdd anochel ac anwrthdroadwy enfawr”.[13] Roedd llawer o bapurau newydd ledled y byd yn dweud yr un peth.[14]
Yn Chwefror 2022, rhyddhaodd yr IPCC ei adroddiad Gweithgor II ar effeithiau ac addasiadau.[15] Cyhoeddwyd cyfraniad Gweithgor III "lliniaru newid yn yr hinsawdd" i'r Chweched Asesiad yn Ebrill 2022. [16] Disgwylir i’r Chweched Adroddiad Asesu ddod i ben gydag Adroddiad Synthesis ym Mawrth 2023.
Gwreiddiau
Rhagflaenydd yr IPCC oedd y Grŵp Cynghori ar Nwyon Tŷ Gwydr (the Advisory Group on Greenhouse Gases; AGGG).[17] Sefydlodd tri sefydliad yr AGGG ym 1986: Cyngor Rhyngwladol yr Undebau Gwyddonol, Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP), a Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO). Gwaith yr AGGG oedd adolygu gwaith ymchwil wyddonol ar nwyon tŷ gwydr, a'i gynnydd. Ar y pryd, roedd gwyddoniaeth hinsawdd (hinsoddeg) yn dod yn gymlethach ac yn cwmpasu mwy o ddisgyblaethau. Nid oedd gan y grŵp bach hwn o wyddonwyr yr adnoddau i wneud y gwaith.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- IPCC Data Distribution Centre Archifwyd 2016-05-19 yn y Peiriant Wayback. Climate data and guidance on its use.