Rhanwedd

Mae rhanwedd yn gynnyrch digidol a roddir am ddim; gall y cynnyrch fod yn feddalwedd, yn gêm gyfrifiadurol neu'n wasanaeth ar y we. Fel arfer, er fod y pris am ddim, codir am rannau atodol, ychwanegol. Defnyddir y math hwn o strategaeth prisio gan y diwydiant meddalwedd ers y 1980au, a manylir ar yr hawliau mewn trwydded meddalwedd penodol.[1][2]

Enghraifft o wasanaeth rhanwedd: y wefan rhwydweithio cymdeithasol LinkedIn.

Mae rhadwedd a "free-to-play" yn amrywiadau ar y math hwn o strategaeth marchnata. Er bod cynnyrch rhanwedd yn bodoli ers yr 1980au, ni fathwyd enw arno'n Saesneg tan 2006, mewn blog gan y cyfalafwr Fred Wilson a Jarid Lukin o'r cwmni Alacra,[3] a bathwyd y term Cymraeg yn y 2010au.

Gellir edrych ar feddalwedd a gwasanaeth rhanwedd fel abwyd a deflir i'r dŵr, am ddim, gyda'r gobaith o ddal pysgodyn, y cwsmer! Gair cyfansawdd sydd yma: 'rhan' a 'wedd' fel a geir yn y gair 'meddalwedd'.

Enghreifftiau:

  • gwasanaethau rhanwedd: The New York Times, 'LinkedIn' a 'Badoo'.[4][5][6]
  • gemau rhanwedd: Smurfs' Village (2011) gan gwmni Capcom ac Angry Birds, gêm fideo gan Rovio Entertainment.

Cyfeiriadau