Rhyngrwyd pethau

System lle mae dyfeisiau cyfrifiadurol, peiriannau mecanyddol a digidol, gwrthrychau, anifeiliaid neu bobl i gyd yn cydberthyn yw rhyngrwyd pethau[1] neu ryngrwyd y pethau. Mae gan y pethau hyn ddynodwyr unigryw (Saesneg: unique identifiers, UIDs) a'r gallu i drosglwyddo data dros rwydwaith heb angen rhyngweithio rhwng person a pherson neu berson a chyfrifiadur.[2][3][4][5]

Llun sy'n darlunio rhyngrwyd pethau

Mae diffiniad rhyngrwyd pethau wedi esblygu ers i wahanol dechnolegau, dadansoddeg amser real, dysgu gan beiriannau, synwyryddion nwyddau a systemau wedi'u mewnblannu gydfeirio. Mae meysydd traddodiadol rhwydweithiau synwyryddion di-wifr, awtomatiaeth (gan gynnwys awtomatiaeth mewn cartrefi ac adeiladau eraill), systemau wedi'u mewnblannu, systemau rheoli ac eraill wedi cyfrannu at alluogi rhyngrwyd y pethau. Bydd defnyddwyr yn adnabod technoleg rhyngrwyd pethau gan amlaf yng nghyd-destun y "tŷ clyfar", sydd yn cynnwys dyfeisiau ac offer (er enghraifft, goleuadau, thermostatau, systemau a chamerâu diogelwch cartref) sy'n cefnogi un neu fwy o ecosystemau cyffredin ac sy'n gallu cael eu rheoli gan ddyfeisiau o fewn yr ecosystem honno, megis ffonau a seinyddion clyfar.

Mae pryder mawr gan rai ynghylch peryglon twf rhyngrwyd y pethau, yn enwedig o ran preifatrwydd a diogelwch, ac felly mae'r diwydiant a llywodraethau yn awr wedi dechrau edrych ar y pethau hyn.

Mae amcangyfrifon y bydd 200 biliwn o ddyfeisiau 200 yn cael eu cysylltu yn y dyfodol agos. Rhagwelir mai 80 biliwn o ddoleri fydd gwerth y farchnad.[6]

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato