Salman, brenin Sawdi Arabia
Salman bin Abdulaziz Al Saud (Arabeg: سلمان ابن عبدالعزيز آل سعود, Salmān bin ʿAbd al-ʿAzīz ʾĀl Saʿūd [salˈmaːn bin ʕabdulʕaˈziːz ʔaːl saˈʕuːd]; ganwyd 31 Rhagfyr 1935) yw Brenin Sawdi Arabia, 'Ceidwad y Ddau Fosg' a phenteulu'r Sawdiaid. Bu'n Weinidog dros Amddiffyn ers 2011 ac yn Llywodraethwr Rhanbarth Riyadh rhwng 1963 a 2011. Cafodd ei orseddu ar 23 Ionawr 2015 yn dilyn marwolaeth ei hanner brawd, Abdullah.[1][2] Roedd yn frawd llawn i'r Brenin Fadh a fu'n ben ar y wlad rhwng 1982 a 2005.
Salman | |||||
---|---|---|---|---|---|
Brenin Sawdi Arabia 'Ceidwad y Ddau Fosg' | |||||
Brenin Sawdi Arabia | |||||
23 Ionawr 2015 – presennol | |||||
23 Ionawr 2015 | |||||
Rhagflaenydd | Abdullah | ||||
Etifedd eglur | Muqrin | ||||
Ganwyd | Riyadh, Sawdi Arabia | 31 Rhagfyr 1935 ||||
| |||||
Teulu | Teulu'r Saud | ||||
Tad | Abdulaziz of Saudi Arabia | ||||
Mam | Hassa Al Sudairi | ||||
Crefydd | Sunni Islam |
Bywyd cynnar
Fe'i ganwyd ar ddydd ola'r flwyddyn yn 1935[3] a dywedir mai ef yw 25ed mab y Brenin Ibn Saud.[3][4] Ei fam oedd Hussa Ahmad Al-Sudayri.[5] Gelwir y grŵp o chwe brawd yn "y Saith Sudairi".[6] Fe'i magwyd ym Mhalas Murraba.[7]
Gwaith
Tra'n Llywodraethwr Rhanbarth Riyadh cyflogodd pobl i'w gynghori, o Brifysgol y Brenin Saud.[8] Yn Ionawr 2011, gorchmynodd i'r heddlu weithredu yn erbyn cardotwyr Riyadh "sy'n cymryd mantais o ewyllus da pobl". Esdraddodwyd pob cardotyn estron a gorfodwyd cardotwyr Sawdi Arabia i ddilyn rhaglen ailhyfforddi gan Adran y Gweinidog Dros Faterion Cymdeithasol y wlad.[9]
Llinach
16. Turki bin Abdullah bin Muhammad | ||||||||||||||||
8. Faisal bin Turki bin Abdullah Al Saud | ||||||||||||||||
17. Hia bint Hamad bin Ali al-Faqih Angari Tamimi | ||||||||||||||||
4. Abdul Rahman bin Faisal | ||||||||||||||||
18. Mishari ibn Abdul-Rahman | ||||||||||||||||
9. Sarah bint Mishari bin Abdulrahman bin Hassan Al-Saud | ||||||||||||||||
2. Ibn Saud | ||||||||||||||||
20. Mohammed bin Turki bin Suleiman Al-Sudairy | ||||||||||||||||
10. Ahmed al-Kabir bin Mohammed bin Turki Al-Sudairy | ||||||||||||||||
5.Sarah bint Ahmed al-Kabir bin Mohammed Al-Sudairy | ||||||||||||||||
1. Sulayman bin Abdulaziz Al Saud | ||||||||||||||||
24. Ahmed al-Kabir bin Mohammed bin Turki Al-Sudairy | ||||||||||||||||
12. Muhammed bin Ahmed al-Kabir Al Sudairy | ||||||||||||||||
6. Ahmed bin Muhammed Al Sudairy | ||||||||||||||||
3. Hassa bint Ahmed Al Sudairy | ||||||||||||||||
28. Mohammed Al Suwaidi | ||||||||||||||||
14. Ali bin Mohammed Al Suwaidi | ||||||||||||||||
7. Sharifa bint Ali bin Mohammed Al Suwaidi | ||||||||||||||||
Tywysog a Brenin
Ar 18 Mehyefin 2012, yn dilyn marwolaeth y Tywysog Nayef bin Abdulaziz cafodd ei benodi'n Dywysog Sawdi Arabia; yr un diwrnod fe'i penodwyd yn Brif Weinidog y wlad. Cychwynodd gyfri trydaru ar 23 Chwefror 2013.[10] Ar 23 Ionawr 2015, yn dilyn marwolaeth ei hanner brawd y Brenin Abdullah fe'i wnaed yn Frenin. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd mai'r Tywysog newydd fyddai hanner brawd Salman, sef Muqrin bin Abdulaziz Al Saud, ac ef hefyd fyddai'r Prif Weinidog newydd.
Rhagflaenydd: Abdullah | Brenin Sawdi Arabia 13 Mehefin 1982 – 1 Awst 2005 | Olynydd: Muqrin |