Semanteg

Gwyddor ystyr iaith yw semanteg[1][2][3] neu ystyreg.[2] Gellir ei ystyried yn gyd-ddisgyblaeth neu'n is-faes i semioteg, sef astudiaeth symbolau ac arwyddion o bob math a'u hystyr. Mae astudiaethau semantig yn pontio ieithyddiaeth a rhesymeg ac athroniaeth.

Ieithyddiaeth

Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Seineg
Ffonoleg
Morffoleg
Cystrawen
Semanteg
Semanteg eiriadurol
Arddulleg
Pragmateg
Ieithyddiaeth hanesyddol
Ieithyddiaeth gymdeithasegol
Ieithyddiaeth gymharol
Caffael iaith
Ieithyddiaeth gymhwysol
Ieithyddiaeth wybyddol

Yn ieithyddiaeth hanesyddol, agwedd empiraidd yw semanteg sy'n dadansoddi datblygiad geiriau a'u diffiniadau. Gall astudiaethau semantig gan ieithyddion modern gymryd ffurf debyg iawn i'r maes athronyddol: asesir sut mae ystyron geiriau unigol yn cyfrannu at ystyr yr ymadrodd a'r frawddeg, a deall y berthynas rhwng geiriau a'r pethau maent yn cyfeirio atynt. Dechreuodd semanteg dynnu sylw ieithyddion yn Ffrainc a'r Almaen yn y 1820au. Ymhlith semantyddion yr 20g mae Gustaf Stern, Jost Trier, B. L. Whorf, Uriel Weinreich, Stephen Ullmann, Thomas Sebeok, Noam Chomsky, Jerrold Katz, a Charles Osgood.

Un o'r prif ddulliau yw semanteg adeileddol sy'n defnyddio egwyddorion ieithyddiaeth adeileddol i astudio ystyr drwy ystyried y berthynas rhwng gwahanol fathau o eiriau.[4] Datblygwyd semanteg gynhyrchiol gan George Lakoff a James McCawley, cangen o ddamcaniaeth gramadeg drawsffurfiol sy'n pwysleisio swyddogaeth ystyr mewn dadansoddiad ieithyddol.

Athroniaeth a rhesymeg

I'r athronydd, astudiaeth ystyron haniaethol mewn iaith a rhesymeg symbolaidd yw semanteg. Yn y cyd-destun hwn mae semanteg yn ymwneud ag ystyr a gwirionedd, ystyr a'r meddwl, a'r berthynas rhwng arwyddion a'u hystyron. Gan fabwysiadu geirfa'r ieithydd, gelwir y berthynas ffurfiol rhwng arwyddion neu ymadroddion yn gystrawen gan resymegwyr.

Y rhesymegydd Pwylaidd Alfred Tarski a arloesoedd semanteg resymegol yn y 1930au. Archwiliodd Tarski i gysyniad y gwirionedd, gan wadu bod yn rhaid amgyffred pob problem ym meysydd rhesymeg ac athroniaeth drwy gystrawen resymegol.[4] Ymhlith y prif feddylwyr eraill yn y maes hwn mae Gottlob Frege, Victoria'r Fonesig Welby, Bertrand Russell, Otto Neurath, Rudolf Carnap, Alonzo Church, Alfred Tarski, C. I. Lewis, Ludwig Wittgenstein, J. L. Austin, W. V. Quine, P. F. Strawson, Steven Schiffer, John Searle, H. P. Grice, Saul Kripke, Donald Davidson, a Gilbert Harman.

Gwyddorau cymdeithas a'r dyniaethau

Nod semanteg gyffredinol yw astudio'r effaith sydd gan ystyron geiriau ar ymddygiad dynol. Datblygwyd y ddisgyblaeth hon gan Alfred Korzybski a'i ddilynwyr Stuart Chase, S. I. Hayakawa, a H. L. Weinberg. Dylanwadodd semanteg ieithyddol ar ddamcaniaethau'r anthropolegwyr W. H. Goodenough, F. G. Lounsbury, a Claude Lévi-Strauss. Cafwyd dylanwad gan semanteg ar sawl pwnc arall, gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg, ethnomethodoleg ac ôl-adeileddaeth.

Cafwyd dylanwad ar feirniadaeth lenyddol ac arddulleg gan The Meaning of Meaning (1925), llyfr gan C. K. Ogden ac I. A. Richards. Mae'r maes hwn yn ymwneud ag effaith y trosiad a'r gwahaniaethau rhwng iaith arferol ac iaith lenyddol.

Cyfrifiaduro

Mewn ieithoedd cyfrifiaduro, y rhan o'r iaith sy'n nodi ystyr neu effaith testun yn ôl y rheolau cystrawen yw'r semanteg.[5]

Cyfeiriadau