Semioteg

Gwyddor arwyddion a symbolau yw semioteg[1] neu semioleg.[2] Ymwna'r maes â'r holl agweddau o ymddygiad dynol sydd yn defnyddio arwyddion ac yn dehongli eu hystyron. Diffiniodd un o'r semiotegwyr cyntaf, yr ieithydd Ferdinand de Saussure, yr wyddor yn astudiaeth "bywyd arwyddion o fewn cymdeithas".[3]

Gwyddor gysylltiedig yw semanteg, sef astudiaeth ystyr iaith, a ellir ei hystyried yn gyd-ddisgyblaeth neu'n is-faes i semioteg.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.