Stefanos Tsitsipas

Chwaraewr tenis o wlad Groeg yw Stefanos Tsitsipas (Groeg: Στέφανος Τσιτσιπάς; ganed 12 Awst 1998). Efe yw'r unig chwaraewr tenis Groegaidd, gwrywaidd neu fenywaidd, i ennill teitl senglau ar Gylchdaith Fyd yr ATP, a'r unig Roegwr i gyrraedd y safle uchaf ar restr dynion gorau'r byd yr ATP—rhif 3 yn Awst 2021—ar y cyd â Maria Sakkari ar restr merched yr WTA. Mae wedi cyrraedd y rownd gynderfynol mewn pencampwriaethau'r Gamp Lawn chwe gwaith, ac wedi ennill dwy o'r gornestau hynny i gyrraedd y rownd derfynol (Pencampwriaeth Agored Ffrainc yn 2021 a Phencampwriaeth Agored Awstralia yn 2023, gan golli i Novak Djokovic y ddau dro).[1]

Stefanos Tsitsipas
Ganwyd12 Awst 1998 Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
Man preswylMonte-Carlo Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr tenis Edit this on Wikidata
Taldra193 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau89 cilogram Edit this on Wikidata
PartnerPaula Badosa Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.stsitsipas.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ganed ef yn Athen, Gwlad Groeg, yn fab i'r chwaraewraig tenis Julia Apostoli (a aned yn yr Undeb Sofietaidd) a'r hyfforddwr tenis Apostolos Tsitsipas. Fel chwaraewr ifanc, daeth yn y trydydd chwaraewr Groegaidd (a'r cyntaf yn yr Oes Agored) i ennill un o deitlau iau y Gamp Lawn, a hynny yng nghystadleuaeth barau bechgyn Wimbledon yn 2016. Trodd yn broffesiynol yn 2016, a chwaraeodd fel oedolyn mewn un o dwrnameintiau'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc yn 2017.

Yn 2018, cyrhaeddodd Tsitsipas bedwaredd rownd Pencampwriaeth Agored Awstralia. Daeth i sylw pan gyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Barcelona, gan golli'r gystadleuaeth i Rafael Nadal, a phan gurodd Roger Federer yn y bedwaredd rownd ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia yn 2019, cyn colli'r ornest gynderfynol unwaith eto i Nadal. Bu Tsitsipas yn 20 oed ar y pryd, y chwaraewr ieuaf i chwarae mewn un o rowndiau cynderfynol y Gamp Lawn ers 2007. Yn Nhachwedd 2019 enillodd Tsitsipas Gystadleuaeth Derfynol yr ATP (Cwpan y Meistri), ei dro cyntaf i gystadlu yn yr honno, gan guro Dominic Thiem mewn tair set yn y rownd derfynol. Efe oedd y pencampwr ieuaf ers Lleyton Hewitt yn 2001, buddugoliaeth a sicrhaodd ei esgyniad i enwogion to iau'r byd tenis. Yn 2019 fe'i enwyd yn Fabolgampwr Gwrywaidd Groegaidd Gorau'r Flwyddyn gan Wobrau Chwaraeon PSAT. Cynrychiolodd Tsitsipas ei famwlad yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 (a gynhaliwyd yn 2021) yn Tokyo. Cyrhaeddodd y drydedd rownd yng y gystadleuaeth senglau, a chyrhaeddodd y rownd ogynderfynol yn y gystadleuaeth barau cymysg. Hyd yn hyn, mae Tsitsipas ond wedi cyrraedd y bedwaredd rownd ym Mhencampwriaeth Wimbledon (2018 a 2023), a'r drydedd rownd ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau (2020 a 2021).

O'r 30 o ddynion sydd wedi curo'r "Tri Mawr"—Federer, Nadal, a Djokovic—mewn gornestau proffesiynol, Tsitsipas yw'r ieuaf, gan drechu pob un ohonynt cyn iddo droi'n 21 oed.[1] Yn ogystal â'i ornestau â mawrion hŷn y gêm, mae Tsitsipas yn ymgystadlu'n aml â nifer o chwaraewyr eraill ar eu cynnydd, gan gynnwys Alexander Zverev, Dominic Thiem, a Daniil Medvedev. Saif Tsitsipas 193 cm (6 ft 4 in), ac mae'n pwyso 90 kg (14 st 2 lb). Chwaraewr llawdde ydyw, a nodir am ei drawiad gwrthlaw pwerus, ag un llaw. Mae ganddo symudiad athletaidd a'r gallu i gyrraedd pedwar ban y cwrt yn chwim. Mae'n tueddu i chwarae'n ymosodol o'r faslinell, ac hefyd yn barod i ddynesu at y rhwyd, ac felly fe'i ystyrir yn chwaraewr amlddoniog ar gyrtiau caled, clai, a glaswellt fel ei gilydd.

Yn ogystal â'i famiaith, Groeg, mae Tsitsipas yn medru'r ieithoedd Saesneg a Rwseg.[2] Ers haf 2023 mae Tsitsipas mewn perthynas â'r chwaraewraig tenis Sbaenaidd Paula Badosa.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol