Gemau Olympaidd yr Haf 2020

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2020, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXII Olympiad ac a gynhelir yn Tokyo, Japan, o 23 Gorffennaf hyd 8 Awst 2021. Yn wreiddiol i fod i gael ei gynnal rhwng 24 Gorffennaf a 9 Awst 2020, gohiriwyd y digwyddiad ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[1] Cynhwyswyd tri deg tri o chwaraeon.

Gemau'r XXXII Olympiad
DinasTokyo, Japan
ArwyddairUnedig gan Emosiwn
Gwledydd sy'n cystadlu206
Athletwyr sy'n cystadlu11,326
Cystadlaethau339 mewn 33 o Chwaraeon Olympaidd
Seremoni AgoriadolGorffennaf 23, 2021
Seremoni GloiAwst 8, 2021
Agorwyd yn swyddogol ganNaruhito, Ymerawdwr Japan
Cynnau'r FflamNaomi Osaka

Yn y seremoni agoriadol ar 23 Gorffennaf, cafodd y tîm o Brydain Fawr ei hysgrifennu "EIKOKU" (英国) ar y placard ond cyflwynodd y cyhoeddwr NHK y tîm "IGIRISU" ("Lloegr"). Roedd y hwylwraig Cymreig Hannah Mills yn cario'r faner Prydain Fawr, gyda Mohamed Sbihi.[2]. Yn ystod y Gemau, gwnaeth ei chanlyniadau hi'r morwr benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[3]

Tîm nofio Prydain oedd y mwyaf llwyddiannus erioed, ar ôl ennill pedair medal aur, tair arian ac un efydd.[4]

Oherwydd cyfyngiadau COVID, roedd yn rhaid i'r holl gystadleuwyr ddychwelyd i'w mamwlad cyn pen dau ddiwrnod o'u digwyddiad olaf.

Medalyddion o dîm Prydain Fawr

Diwedd y Gemau

Stadiwm Olympaidd, Tokyo

Un o'r enillwyr medalau aur ar y diwrnod olaf oedd y bocsiwr Cymreig Lauren Price.[5] Ar yr un diwrnod, enillodd y seiclwr Jason Kenny seithfed medal aur Olympaidd ei yrfa.[6]

Gorffennodd Prydain Fawr yn bedwerydd yn y tabl medalau, gyda'r un cyfanswm nifer o fedalau ag y gwnaethon nhw ennill yn Llundain yn 2012.

Yn y seremoni gloi'r Olympaidd 2020 ar 8 Awst 2021, pasiodd maer Tokyo y faner Olympaidd i faer Paris, Anne Hidalgo.[7] Cafodd y gair "arigato" (Japaneaidd am "diolch") ei arddangos ar sgrîn anferth wrth i'r athletwyr adael y cae am y tro olaf.

Cyfeiriadau