Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig a leolir yng Nghefnfor India yw Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India (Saesneg: British Indian Ocean Territory (BIOT)). Mae'n cynnwys chwech o atolau Ynysfor y Chagos â mwy na 1000 o ynysoedd unigol.

Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
ArwyddairIn tutela nostra Limuria Edit this on Wikidata
MathTiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
PrifddinasCamp Thunder Cove Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,000 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+06:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Arwynebedd60 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6°S 71.5°E Edit this on Wikidata
Map
Ariandoler yr Unol Daleithiau, punt sterling Edit this on Wikidata

Diego Garcia yw'r ynys fwyaf, sydd heddiw yn faes milwrol i'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Wedi i'r boblogaeth frodorol, y Chagossiaid, gael ei halltudio yn y 1960au, personél milwrol Prydeinig ac Americanaidd a chontractwyr yw'r unig drigolion.

Daearyddiaeth

Lleolir Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India rhyw 1,770 km i ddwyrain Mahé, prif ynys y Seychelles. Ynysfor o 55 o ynysoedd yw BIOT ac mae'n ymestyn dros 54,400 km² o Gefnfor India. Mae gan yr ynysoedd eu hunain arwynebedd tir o 60 km² yn unig, ac arfordir 698 km. Diego Garcia yw'r ynys fwyaf a mwyaf ddeheuol, a ganddi arwynebedd 44 km². Poeth a llaith yw hinsawdd yr ynysoedd a gwastad ac isel yw'r tir.

Gwleidyddiaeth

Statws cyfansoddiadol

Diffinnir statws cyfansoddiadol BIOT gan Orchymyn Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India (Cyfansoddiad) 2004 sy'n rhoi Comisiynydd Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India yr holl rym dros ddeddfu yn y Diriogaeth. Mae cytundebau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn rheoli materion parthed defnydd y Diriogaeth er amddiffyn, megis awdurdod dros bersonél milwrol Americanaidd.

Fe ddyfarnwyd gan Lys Cyfiawnder Rhyngwladol yn 2019 bod rheolaeth y Ddeyrnas Unedig dros Ynysoedd Chagos yn anghyfreithlon.[1]

Cysylltiadau tramor

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am gysylltiadau tramor BIOT. Mae BIOT yn cysylltu â San Steffan trwy Gyfarwyddiaeth Tiriogaethau Tramor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Economi

Oherwydd absenoldeb brodorion yr ynysoedd, nid oes gweithgarwch economaidd, diwydiannol, nac amaethyddol yn y Diriogaeth bellach. Cyflawnir gwaith adeiladu ar y canolfan milwrol yn Diego Garcia gan bersonél milwrol Prydeinig ac Americanaidd a gweithwyr sifil ar gontract, y mwyafrif ohonynt o Mawrisiws a'r Philipinas.

Cyfeiriadau