Y Blitz

Cyfnod o fomio parhaus gan Natsïaid yr Almaen rhwng y 7fed o Fedi 1940 a'r 10fed o Fai 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Blitz. Mae'r enw yn dalfyriad o Blitz, y gair Almaenig am "mellt".[1] Er i'r "Blitz" daro nifer o drefi a dinasoedd ledled Prydain, dechrau'r cyfan oedd bomio Llundain am 57 noson yn olynol. Erbyn diwedd mis Mai 1941, lladdodd y bomiau dros 43,000 o sifiliaid, gyda dros hanner ohonynt yn Llundain. Dinistriwyd dros filiwn o dai yn Llundain yn unig.

Y Blitz
Enghraifft o'r canlynolaerial bombing of a city Edit this on Wikidata
Rhan oHome front during World War II, strategic bombing during World War II Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Mai 1941 Edit this on Wikidata
Lleoliady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBarrow Blitz, Belfast Blitz, Birmingham Blitz, Brighton Blitz, Bristol Blitz, Cardiff Blitz, Clydebank Blitz, Coventry Blitz, Greenock Blitz, Hull Blitz, Leeds Blitz, Liverpool Blitz, Manchester Blitz, Newcastle Blitz, Nottingham Blitz, Plymouth Blitz, Sheffield Blitz, Southampton Blitz, Blitz Abertawe Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Blitz

Ond nid Llundain oedd yr unig ddinas i ddod o dan ymosodiadau'r Luftwaffe yn ystod y "blitz". Dioddefodd canolfannau milwrol a diwydiannol eraill ymosodiadau rheolaidd a nifer fawr o golledion. Roedd y trefi a'r dinasoedd yma'n cynnwys Abertawe a Chaerdydd yng Nghymru, Clydebank a Greenock yn yr Alban, Birmingham, Bryste, Coventry, Sheffield, Lerpwl, Hull, Manceinion, Portsmouth, Plymouth, Nottingham a Southampton yn Lloegr, a Belffast yng Ngogledd Iwerddon,.

Ni lwyddoddd yr ymosodiadau yn eu nod i chwalu morál Gweledydd Prydain i ildio. Erbyn mis Mai 1941, roedd y bygythiad go iawn o'r Almaen yn ceisio meddiannu'r DU wedi pasio a chanolbwyntiodd Hitler ar ddwyrain Ewrop. Er nad oedd yr Almaen wedi llwyddo i fomio Prydain eto ar raddfa mor eang, parhaodd i fomio mewn ymosodiadau llai trwy gydol y rhyfel, gan gynyddu'r nifer o sifiliaid a laddwyd i 51,509. Roedd datblygiad y bomiau hedfan di-beilot a'r rocedi V-2 ym 1944, wedi galluogi'r Almaen i ymosod ar Lundain unwaith eto gan ddefnyddio arfau a daniwyd ar gyfandir Ewrop. Yn gyfangwbl, lladdodd yr arfau V 8,938 o drigolion Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Cyflwyniad

Ar ôl yr ymladd yn Ffrainc, dechreuodd yr hyn a elwir yn Frwydr Prydain ym mis Gorffennaf 1940. O fis Gorffennaf tan fis Medi, ymosododd y Luftwaffe ar Reolaeth Frwydro'r RAF er mwyn ceisio cael rhagoriaeth ar y cynghreiriaid cyn iddynt geisio meddiannu tir. Roedd hyn yn cynnwys bomio meysydd awyr er mwyn cael gwared ar allu'r Rheolwyr Brwydro i'w hatal rhag meddiannu'r tir. Ar yr un pryd, cynhaliwyd ymosodiadau ar y diwydiant awyrennau er mwyn rhwystro Prydain rhag adnewyddu eu hadnoddau, ond roedd rhain yn aflwyddiannus; roedd newidiadau a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Beaverbrook wedi cynyddu effeithiolrwydd cyflymder cynhyrchu arfau ac offer. Allosodwyd peiriannau ar gyflymder o dair gwaith yn gynt nag y credai'r Almaenwyr. Roedd y pwysau i ddod o hyd i beilotiaid newydd yn fwy dwys, ac yn y pen draw defnyddiwyd peilotiaid o Wlad Pwyl, Tsiecoslofacia, Ffrainc a gwledydd eraill a oedd wedi'u meddiannu i frwydro ar flaen y gad.

Ar ddiwedd mis Awst 1940, cyn y dyddiad a gysylltir yn draddodiadol gyda deechrau'r blitz, ymosododd y Luftwaffe ar dargedau diwydiannol yn Birmingham a Lerpwl. Gwelwyd cynnydd yn y cyrchoedd bomio nos o ganlyniad i'r niferoedd uchel o golledion a wnaed i'r awyrennau bomio Almaenig yn ystod y dydd. Er i'r cyrchoedd yma frawychu'r boblogaeth, gwnaeth y bobl yn fwy penderfynol o faeddu'r Blaid Natsiaidd.

Yn ystod cyrch ar Borthladd y Tafwys ar y 24ain o Awst, hedfanodd rai awyrennau Almaenig dros Lundain, gan ollwng bomiau ar ardaloedd ddwyreinol a gogledd-ddwyrain y ddinas, yn cynnwys Bethnal Green, Hackney, Islington, Tottenham a Finchley. Arweiniodd hyn i Brydain yn trefnu cyrch ar Berlin dros y nosweithiau canlynol, gyda bomiau'n glanio yn Kreuzberg a Wedding, gan achosi 10 marwolaeth. Dywedir fod Hitler yn gandryll ac ar y 5ed o Fedi, ar gais uwch-reolwyr y Luftwaffe, rhoddodd gyfarwyddyd i gael "disruptive attacks on the population and air defences of major British cities, including London, by day and night". Dechreuodd y Luftwaffe ymosodiadau dydd a nos ar ddinasoedd Prydeinig, gan ganolbwyntio ar Lundain.

Cyn dechrau'r Blitz, gwnaed amcangyfrifon erchyll am y nifer o bobl a fyddai'n cael eu lladd gan ymgyrch fomio'r Almaenwyr. Comisiynodd y Gweinyddiaeth Iechyd adroddiad yng ngwanwyn 1939, yn amcangyfrif y byddai 600,000 o farwolaethau a 1,200,000 o anafiadau yn ystod chwe mis cyntaf ymosodiadau'r Luftwaffe.[2] Sylweddodlwyd yn ddiweddarach fod y niferoedd hyn wedi cael eu gor-ddweud am eu bod yn seiliedig ar y ddamcaniaeth anghywir am y nifer o awyrennau bomio Almaenig a oedd ar gael a'r nifer o bobl a fyddai'n cael eu hanafu neu eu lladd gan bob bom. Fodd bynnag, arweiniodd y cyrchoedd bomio at dros 650,000 o blant yn cael eu symud i'r wlad i fyw.

Adeiladau a ddifrodwyd neu a ddinistrwyd

  • Abaty Sant Nicholas Cole
  • Abaty Westminster – 15 Tachwedd 1940
  • Yr Amgueddfa Brydeinig – 10 Mai 1941
  • Big Ben - 10 Mai 1941
  • Café de Paris – 8 Mawrth 1941
  • Central Telegraph Office – 29 Rhagfyr 1940
  • Christ Church, Newgate
  • Y Gyfnewidfa Frenhinol, Manceinion
  • Eglwys All Hallows by-the-Tower
  • Eglwys All Hallows-on-the-Wall
  • Eglwys All Saints Notting Hill
  • Eglwys Charles – 20-21 Mai 1941
  • Eglwys Gadeiriol Birmingham
  • Eglwys Gadeiriol Coventry
  • Eglwys Gadeiriol Manceinion - 24 Rhagfyr, 1940
  • Eglwys Gadeiriol Basilica St Chad, Birmingham – Tachwedd 1940
  • Eglwys Gadeiriol Sant Paul – 29 Rhagfyr 1940
  • Eglwys Sant Alban, Wood Street
  • Eglwys Sant Alfege, Greenwich – 19 Mawrth 1941
  • Eglwys Sant Andrew-by-the-Wardrobe
  • Eglwys Sant Andrew Holborn
  • Eglwys Sant Bartholomew the Less
  • Eglwys Sant Botolph Aldersgate
  • Eglwys Sant Clement Danes
  • Eglwys Sant Dunstan yn y Dwyrain
  • Eglwys Sant George yn y Dwyrain – Mai 1941
  • Eglwys Sant Iago Garlickhythe
  • Eglwys Sant Lawrence Jewry – 29 Rhagfyr 1940
  • Eglwys Sant Luc, Lerpwl
  • Eglwys Sant Vedast alias Foster
  • Eglwys Sant Tomas, Birmingham
  • Eglwys Santes Fair Abchurch
  • Eglwys Santes Fair Aldermanbury
  • Eglwys Santes Mary-le-Bow – 10 Ma1 1941
  • Eglwys y Santes Fair, Abertawe – Chwefror 1941
  • Gorsaf Balham – 14 Hydref 1940
  • Gorsaf Bank – 11 Ionawr 1941
  • Gorsaf Bounds Green – 13 Hydref 1940
  • Gorsaf reilffordd Euston – 15 Tachwedd 1940
  • Gorsaf reilffordd Victoria Manceinion
  • Gorsaf drenau tanddaearol Marble Arch – 17 Medi 1940
  • Gorsaf Reilffordd Harbwr Portsmouth
  • Guildhall Santes Fair, Coventry
  • Guildhall – 29 Rhagfyr 1940
  • Hen Eglwys Chelsea
  • Holland House
  • Lambeth Walk – 18 Medi 1940
  • Llyfrgell Llundain
  • Manchester Piccadilly
  • Neuadd y dref Leeds - 15 Mawrth 1941
  • Neuadd Farchnad y Bull Ring, Birmingham
  • Neuadd Masnach Rydd
  • Neuadd San Steffan – 10 Mai 1941
  • Old Bailey – 10 Mai 1941
  • Old Trafford - 11 Mawrth 1941
  • Yr Oriel Genedlaethol, Llundain – 15 Tachwedd 1940
  • Palas Buckingham
  • Palas Lambeth – 10 Mai 1941
  • Palas Sant Iago – 10 Mai 1941
  • Parc Trafford Park, Manceinion – 23 Rhagfyr 1940
  • Parc Villa Park, Birmingham
  • Paternoster Row – 29 Rhagfyr 1940
  • Portsmouth Guildhall
  • Prifysgol Nottingham Trent, Nottingham – Mai 1941
  • Shell Mex House – 15 Medi 1940
  • Stadiwm Highbury
  • Stryd Sant Augustine Watling
  • Stryd Sant Olave Hart
  • Synagog Uwch Llundain – 10 Mai 1941
  • The Temple
  • Temple Church
  • Tŷ'r Cyffredin – 10 Mai 1941
  • Theatr y Palas - Medi 1940
  • Ysbyty Coventry a Swydd Warwick
  • Ysbyty Sant Pedr, Bryste
  • Ysgol Sant Joseph, ysgol gynradd Catholig – 10 Mai 1941

Cyfeiriadau

Dolenni allanol