Anne Heche

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actores a aned yn Aurora yn 1969

Roedd Anne Celeste Heche (/heɪtʃ/ HAYTCH; [1] [2] 25 Mai 196912 Awst 2022) yn actores Americanaidd. Enillodd Wobr Emmy yn ystod y Dydd a dwy Wobr Digest Opera Sebon iddi am ei rhan yn yr opera sebon ''Another World''. Daeth i fwy o amlygrwydd ar ddiwedd y 1990s gyda rolau yn y ffilmiau Donnie Brasco (1997), Volcano (1997), I Know What You Did Last Summer (1997), Six Days, Seven Nights (1998) a Return to Paradise (1998).

Anne Heche
GanwydAnne Celeste Heche Edit this on Wikidata
25 Mai 1969 Edit this on Wikidata
Aurora, Ohio Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 2022 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Ocean City High School
  • Francis W. Parker School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
MamNancy Heche Edit this on Wikidata
PriodColeman Laffoon Edit this on Wikidata
PartnerEllen DeGeneres, James Tupper Edit this on Wikidata
Gwobr/auDaytime Emmy Award for Outstanding Younger Actress in a Drama Series, Gwobr Lucy, Soap Opera Digest Award for Outstanding Lead Actress in a Daytime Drama, National Board of Review Award for Best Supporting Actress, GLAAD Stephen F. Kolzak Award Edit this on Wikidata

Cafodd Heche ei geni yn Aurora, Ohio, yn ferch i Nancy Heche (née Prickett) a Donald Joseph Heche. Roedd hi'n bartner i Ellen DeGeneres rhwng 1997 a 2000. Priododd Coleman "Coley" Laffoon yn 2001.

Bu farw wythnos ar ôl damwain car yn Los Angeles, lle cafodd niwed i'w hymennydd.[3]

Cyfeiriadau