Astroffiseg

Astroffiseg yw'r gangen o seryddiaeth sy'n delio â ffiseg a chemeg y bydysawd h.y. gwneuthuriad ffisegol y planedau, y sêr a gwrthrychau eraill yn hytrach na'u lleoliad neu symudiad drwy'r gofod. Mae hyn yn cynnwys priodweddau megis dwysedd, tymheredd, cyfansoddion cemegol a goleuedd o wrthrychau wybrennol e.e. galaethau, sêr, planedau, planedau allheulol, a'r cyfrwng rhyngserol, yn ogystal a'i rhyngweithiadau.[1][2]

Astroffiseg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, cangen o wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Mathseryddiaeth, ffiseg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgwyddoniaeth y planedau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Diagram o'r 20C cynnar yn dangos y sbectrwm elfennaol, solar a seryddol.

Astudir pelydriad (radiation) y gwrthrychau hyn; gwneir hynny ar draws y sbectrwm elecromagnetig, gyda nifer o briodweddau gan gynnwys disgleirdeb (luminosity), dwysedd, tymheredd a chyfansoddiadau cemegol. Gan fod astroffiseg yn faes mor eang astudir ystod eang o feysydd gan gynnwys mecaneg, electromagneteg, mecaneg ystadegol, thermodeinameg, mecaneg cwantwm, Damcaniaeth perthnasedd, ffiseg niwclear a gronynnol a ffiseg atomig, moleciwlar ac optegol.

Cyfeiriadau