Planed allheulol

Planed sydd y tu allan i Gysawd yr Haul yw planed allheulol neu allblaned. Er gwaethaf yr enw Daear-ganolog, mae pob planed allheulog yn cylchu ei haul (seren) ei hun. Y cyntaf i'w darganfod oedd planed a oedd yn cylchu'r seren 51 Pegasi; gwelwyd hi gyntaf ar 6 Hydref, 1995 gan Michel Mayor a Didier Queloz o Brifysgol Geneva.

Planed allheulol
Enghraifft o'r canlynolmath o wrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Mathplaned, gwrthrych allheulol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun artist o'r blaned allheulol HD 69830 b gyda'i haul a'i gwregys asteroid

Mae dros 3,000 o allblanedau wedi eu darganfod ers 1988.[1] Mae HARPS (ers 2004) wedi darganfod tua cant o allblanedau tra fod y telesgôp gofod Kepler (ers 2009) wedi darganfod dros dwy fil. Mae Kepler hefyd wedi darganfod rhai miloedd o [2][3] nlanedau posib,[4][5] ond gallai fod tua 11% yn gadarnhad ffug.[6]Ar 10 Mai 2016, gwiriodd NASA 1,284 o allblanedau newydd a ddarganfuwyd gan Kepler; y casgliad mwyaf o ddarganfyddiadau mor belled.[7][8][9] Ar gyfartaledd, mae o leiaf un planed i bob seren, gyda canran yn sustemau aml-blaned.[10]Mae gan tua 1 mewn 5 seren tebyg i'r haul blaned "maint y Ddaear" yn y parth trigiadwy, gyda disgwyl i'r agosaf fod tua 12 blwyddyn-golau o'r Ddaear.[11][12] Gan gymryd fod 200 biliwn o sêr yng Ngalaeth y Llwybr Llaethog, fe fyddai hynny yn golygu tua 11 biliwn o blanedau posib maint y Ddaear a thrigiadwy yn yr Alaeth, yn codi i 40 biliwn o gynnwys planedau yn cylchdroi y nifer o sêr corrach coch[13]

Siart linell o blanedau a ddarganfuwyd yn flynyddol hyd at Ionawr 2015; mae'r lliwiau'n nodi y modd y cawsant eu darganfod: ("radial velocity" = glas tywyll, "transit" = gwyrdd tywyll, amseru = porffor tywyll, "astrometry" = melyn tywyll, delweddu uniongyrchol = coch tywyll, "microlensing" = oren tywyll, "pulsar timing" = porffor)

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.