Baglan, Castell-nedd Port Talbot

tref yng Nghastell-nedd Port Talbot

Pentref mawr a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Baglan.[1][2] Mae'n hen bentref a phlwyf cynt sydd nawr yn rhan o dref Porth Afan ar ochr ddwyreiniol Bae Abertawe. Mae gan ardal cymuned Baglan 6,488 o drigolion, 10% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Baglan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBaglan Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,819 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd901.86 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6166°N 3.8115°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001020 Edit this on Wikidata
Cod OSSS746924 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDavid Rees (Llafur)
AS/auStephen Kinnock (Llafur)
Map

Enwyd y pentref ar ôl Sant Baglan. Bu Sant Baglan yn cael ei ddysgu ym mynachlog Llanilltud Fawr gan Illtud, fel Dewi Sant a llawer o seintiau eraill. Fel nhw aeth allan i sefydlu mynachdai eraill. Mae ei enw ar bentrefi Baglan a Llanfaglan.

Maes Clwb Rygbi Baglan

Mae Baglan ar lethrau Mynydd Baglan. Rhwng Baglan a'r môr mae ardal Bae Baglan, ardal dywydog sydd wedi bod yn gartref i ddywidiant ers yr Ail Ryfel Byd. Roedd gweithfeydd cemegol BP Baglan Bay yn amlwg i bawb am ddegawdau ond nawr maen nhw wedi cael eu disodli gan ddiwydiannau amgen modern fel rhan o ddatblygiad Parc Ynni Baglan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[4]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Baglan, Castell-nedd Port Talbot (pob oed) (6,819)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (557)
  
8.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (6097)
  
89.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Baglan, Castell-nedd Port Talbot) (1,152)
  
39.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Cyfeiriadau