Tonna, Castell-nedd

pentref yng Nghymru

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cymru, yw Tonna.[1][2] Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell-nedd, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,565.

Tonna
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,499 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd754.66 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000628 Edit this on Wikidata
Cod OSSS774990 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Roedd yn ardal wledig hyd nes i waith tunplat a phyllau glo gael eu hagor yma yn ystod y 19g. Ceir nifer o henebion yn y gymuned, yn cynnwys gwersyll cyrch Rhufeinig. Adeilad mwyaf adnabyddus yr ardal yw'r Ivy Tower, ffoledd a adeiladwyd gan Stad y Gnoll tua 1780.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[4]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tonna, Castell-nedd (pob oed) (2,499)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tonna, Castell-nedd) (292)
  
11.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tonna, Castell-nedd) (2235)
  
89.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Tonna, Castell-nedd) (360)
  
35.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau