Blaendulais

pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaendulais[1] (Saesneg: Seven Sisters).[2] Saif tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd, ar y briffordd A4109 a ger Afon Dulais, sy'n tarddu ychydig i'r gogledd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,032.

Blaendulais
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,123 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,165.21 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7654°N 3.7113°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001029 Edit this on Wikidata
Cod OSSN820088 Edit this on Wikidata
Cod postSA10 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)
Map

Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gan Evan Evans-Bevan yn 1875, a chafodd yr enw Seven Sisters Colliery ar ôl saith merch Evans-Bevan. Yn 1945 roedd y lofa'n cyflogi 759 o ddynion. Agorwyd nifer o byllau glo eraill; Nant-y-Cafn neu Dillwyn yn 1884, Henllan 1911 a Brynteg yn 1885. Caewyd glofa'r Seven Sisters yn 1963.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[4]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Blaendulais (pob oed) (2,123)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Blaendulais) (469)
  
22.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Blaendulais) (1846)
  
87%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Blaendulais) (356)
  
41.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Cyfeiriadau