Canser serfigol

Canser yn deillio o'r serfics yw canser serfigol. Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[1] Yn ystod pennod gyntaf y cyflwr, fel rheol ni cheir symptomau amlwg. Wrth i’r cyflwr ddatblygu gall achosi gwaedu gweiniol annaturiol, poen ynghylch y pelfis, neu boen a gwaedu yn ystod cyfathrach rywiol.[2]

Canser serfigol
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y groth, clefyd ceg y groth, neoplasm ceg y groth, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arweinia’r Feirws Papiloma Dynol (HPV) at fwy na 90% o achosion;[3][4] fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o bobl a'r feirws HPV yn datblygu canser serfigol.[5] Mae ffactorau risg eraill yn cynnwys ysmygu, system imiwnedd gwan, defnydd o bils atal genhedlu, gweithgarwch rhywiol ifanc ac amryw o bartneriaid rhywiol, rhaid nodi serch hynny mai mân ffactorau yw'r rhain. Fel arfer datblygir canser serfigol o newidiadau cyn-canseraidd dros gyfnod o 10 i 20 mlynedd. Mae tua 90% o achosion canser serfigol yn gelloedd carcinomas cennog, 10% yn adenocarcinoma, a cheir nifer fechan o fathau eraill. Gwneir diagnosis fel arfer drwy sgrinio serfigol ac fe ddilynir gan biopsi. Yna, defnyddir delweddu meddygol i archwilio pennod a lledaeniad y canser.

Mae pigiad HPV yn driniaeth amddiffynnol amlwg ac yn lleihau rhwng dau a saith o'r straeniau risg uchel sydd ynghlwm a'r teulu hwn o firysau, gall y pigiad atal hyd at 90% o achosion canser serfigol.[6] Rhaid nodi nad yw'n dileu'r risg o ddatblygu canser yn gyfan gwbwl, felly argymhellir cynnal profion taeniad rheolaidd.[7] Ymhlith y dulliau gwarchodol eraill y mae lleihau niferoedd o bartneriaid rhywiol ynghyd â defnyddio condomau.[8] Wrth sgrinio canser serfigol drwy brawf taeniad neu asid asetig gellir canfod newidiadau cyn-canserol, ac wedi trin y newidiadau, gellir atal y canser rhag datblygu'n gyfan gwbl. Mae modd trin canser serfigol drwy gyfuniad o lawdriniaethau, rhaglenni cemotherapi a therapïau ymbelydredd.[2] Mae oddeutu 68% o ddioddefwyr yn byw am bum mlynedd o leiaf wedi eu diagnosis yn yr Unol Daleithiau.[9] Fodd bynnag, mae'r cyfnod goroesi'n gwbl ddibynnol ar ledaeniad y canser.[10]

Cyfeiriadau