Canser yr afu

Math o ganser sy'n cychwyn yn yr afu yw canser yr afu, a elwir hefyd yn ganser hepatig a chanser hepatig cynradd.[1] Mae canserau sydd wedi lledaeni i'r afu o lefydd eraill yn y corff (metastasis yr afu) llawer mwy cyffredin na chyflyrau sy'n cychwyn yn yr afu.[2] Gall canser yr afu achosi symptomau megis ymdeimlad o boen neu lwmp gweledol islaw'r gawell asennau ar yr ochr dde, chwyddo yn yr abdomen, croen melyn, cleisio hawdd, colli pwysau a gwendid cyffredinol.

Canser yr afu
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathtiwmor yr iau, clefyd yr afu, rare hepatic and biliary tract tumor, liver neoplasm, hepatobiliary system cancer, canser y chwarren endocrin, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achosir y rhan fwyaf o gyflyrau canser yr afu gan sirosis o ganlyniad i hepatitis B, hepatitis C, neu alcohol.[3] Ymhlith yr achosion eraill y mae afflatocsin, afiechyd afu brasterog di-alcohol, a llyngyr yr afu. Y mathau mwyaf cyffredin o'r cyflwr yw carsinoma hepatogellol neu HCC (80% o achosion), a cholangiocarcinoma. Ceir rhai llai cyffredin yn ogystal, er enghraifft neoplasm systig mwsinog a neoplasm bustlaidd papilaidd anhydradwyol. Gellir cadarnhau diagnosis drwy brawf gwaed a delweddu meddygol a chanfod tystiolaeth bellach o'r cyflwr drwy biopsi meinwe.

Ymhlith y dulliau gwarchodol posib y mae imiwneiddio yn erbyn hepatitis B ynghyd â chynnig triniaethau i'r rheini sydd wedi'u heintio â hepatitis B neu C. Argymhellir sgrinio unigolion â chlefyd cronig yr afu. Gellir trin y cyflwr drwy lawfeddygaeth, therapi targedu a therapi ymbelydredd. Mewn rhai achosion, defnyddir therapi abladu neu therapi gorymddwyn a chynhelir trawsblaniad o'r afu mewn achosion eithafol. Caiff lympiau bach yn yr afu eu harchwilio'n aml.

Cyfeiriadau