Cwpan y Byd Pêl-droed 2022
Cwpan y Byd FIFA 2022 (Arabeg: 2022 كأس العالم لكرة القدم) oedd yr 22ain gystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA, y bencampwriaeth pêl-droed dynion rhyngwladol a gynhelir bob pedair blynedd rhwng timau cenedlaethol sydd â chymdeithasau sy'n aelodau o FIFA. Er gwaethaf rhwystrau COVID-19, cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Gatar rhwng 20 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022. Hon oedd y gystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf erioed i gael ei chynnal yn y byd Arabaidd,[1] a hon oedd yr ail gystadleuaeth Gwpan y Byd i gael ei chynnal yn gyfan gwbl yn Asia ar ôl cynnal cystadeuaeth 2002 yn Ne Corea a Siapan.[a] Y pencampwyr byd cyn y gystadleuaeth hon (yn dilyn Cwpan y Byd Pêl-droed 2018) oedd Ffrainc.[2]
Cymru'n sgorio yn erbyn Unol Daleithiau America: Cwpan y Byd, 2022 | |
Enghraifft o'r canlynol | tymor chwaraeon, twrnamaint, cystadleuaeth bêl-droed |
---|---|
Dyddiad | 2022 |
Dechreuwyd | 20 Tachwedd 2022 |
Daeth i ben | 18 Rhagfyr 2022 |
Rhagflaenwyd gan | Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 |
Olynwyd gan | Cwpan y Byd Pêl-droed 2026 |
Lleoliad | Stadiwm Eiconig Lusail, Stadiwm Al Bayt, Stadiwm 974, Stadiwm Al Thumama, Stadiwm Dinas Addysg, Stadiwm Ahmad bin Ali, Stadiwm Rhyngwladol Khalifa, Stadiwm Al Janoub |
Enw brodorol | كأس العالم لكرة القدم 2022 Kaʾs al-ʿālam li-kurat al-qadam 2022 Qatar 2022 2022 قطر |
Gwladwriaeth | Catar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hon oedd y gystadleuaeth olaf i gynnwys 32 o dimau, gyda chynnydd i 48 tîm wedi'i drefnu ar gyfer cystadleuaeth 2026 yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada. Ar 12 Ebrill 2018, gofynnodd CONMEBOL i FIFA ehangu Cwpan y Byd 2022 FIFA o 32 i 48 tîm, bedair blynedd cyn Cwpan y Byd 2026 FIFA fel y cynlluniwyd i ddechrau.[3][4] Mynegodd Llywydd FIFA Gianni Infantino barodrwydd i ystyried y cais.[5] Fodd bynnag, gwrthododd cyngres FIFA y cais ychydig cyn dechrau Cwpan y Byd FIFA 2018 . Dywedodd Infantino na fyddai'r corff llywodraethu pêl-droed byd-eang yn trafod y posibilrwydd o gael 48 tîm, ac y byddent yn trafod y mater yn gyntaf gyda'r wlad sy'n ei chynnal.[6] Ym Mawrth 2019, daeth 'astudiaeth posibilrwydd FIFA' i'r casgliad ei bod yn bosibl ehangu'r twrnamaint i 48 tîm, gyda chymorth "un neu fwy" o wledydd cyfagos a "dau i bedwar lleoliad ychwanegol." Byddai FIFA a Qatar wedi archwilio cynigion posib ar y cyd i'w cyflwyno i Gyngor FIFA a Chyngres FIFA yn ddiweddarach ym mis Mehefin a phe bai cynnig ar y cyd wedi'i gyflwyno, byddai aelod-gymdeithasau FIFA wedi pleidleisio ar y penderfyniad terfynol yn 69ain Cyngres FIFA ym Mharis, erbyn 5 Mehefin.[7][8] Fodd bynnag, ar 22 Mai, cyhoeddodd FIFA na fyddai’n ehangu’r twrnamaint.[9]
Oherwydd y gwres llethol yn Qatar yn yr haf, cynhaliwyd y gystadleuaeth Cwpan y Byd hon rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, gan ei gwneud y gystadleuaeth gyntaf i beidio â chael ei chynnal ym mis Mai, Mehefin, neu Orffennaf; hefyd cynhaliwyd y gystadleuaeth mewn amserlen lai o 28 diwrnod.[10]
Gwnaed cyhuddiadau yn erbyn y modd yr enillodd Qatar yr hawl i gynnal y gystadleuaeth, ond cliriwyd Qatar gan adroddiad mewnol FIFA. Fodd bynnag, disgrifiodd y prif ymchwilydd, Michael J. Garcia, adroddiad FIFA ar ei waith ymchwil, fel un sy'n cynnwys "nifer o sylwadau sy'n anghyflawn ac yn sylweddol wallus." [11] Ar 27 Mai 2015, agorodd erlynwyr ffederal y Swistir ymchwiliad i gamweinyddu ariannol yn ymwneud â chynigion Cwpan y Byd 2018 a 2022.[12][13] Ar 6 Awst 2018, honnodd cyn-lywydd FIFA, Sepp Blatter, fod Qatar wedi defnyddio “black ops”, gan awgrymu bod y pwyllgor a wnaeth y cais gwreiddiol i gynnal y gystadleuaeth wedi twyllo i ennill yr hawliau i'w chynnal.[14] Yn ogystal, wynebodd Qatar feirniadaeth gref oherwydd y modd y cafodd gweithwyr o dramor (a fu'n ymwneud â'r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth) eu trin, gydag Amnest Rhyngwladol yn cyfeirio at "lafur gorfodol" ac yn nodi bod cannoedd (os nad miloedd) o weithwyr mudol wedi marw o ganlyniad i gamdrin hawliau dynol, ac amodau gwaith peryglus ac annynol, a hynny er i safonau lles gweithwyr gael eu drafftio gan lywodraeth Qatar yn 2014.[15]
Rhwng 2015 a 2021, mabwysiadodd llywodraeth Qatar ddiwygiadau llafur newydd[16] i wella amodau gwaith, gan gynnwys isafswm cyflog ar gyfer yr holl weithwyr [17] a chael gwared ar y system cafala (Saesneg: kafala system; Arabeg: نظام الكفالة). Cyfeiriodd Amnest Rhyngwladol at y mesurau hyn fel "cam sylweddol tuag at amddiffyn gweithwyr mudol".[18]
Bu honiadau o lwgrwobrwyo yn ymwneud â'r broses o ddethol aelodau i pwyllgor gweithredol FIFA. Yn Nhachwedd 2021 roedd FIFA'n ymchwilio i'r honiadau hyn.
Qatar yw'r genedl leiaf erioed i gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA a'r wlad ail leiaf yn ôl arwynebedd wedi'r Swistir, a gynhaliodd Cwpan y Byd FIFA 1954. Mae arwynebedd y Swistir deirgwaith yn fwy na Qatar ac 16 tîm oedd yn cystadlu yng Ngwpan y Byd 1954, ond roedd 32 o dimau yn cystadlu yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Rowndiau rhagbrofol
Mae chwe chydffederasiwn cyfandirol FIFA yn trefnu eu cystadlaethau rhagbrofol eu hunain. Mae holl aelod-gymdeithasau FIFA, ac mae 211 ohonynt ar hyn o bryd, yn gymwys i gael eu cynnwys. Enillodd Qatar eu lle i gystadleu, fel gwesteion, yn awtomatig ar gyfer y twrnamaint. Fodd bynnag, gorfododd yr AFC Qatar i gymryd rhan yn y rowndiau rhagbrofol Asiaidd, gan fod y ddwy rownd gyntaf hefyd yn rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan Asiaidd AFC 2023.[19] Aeth y pencampwyr presennol, sef Ffrainc, hefyd trwy'r rowndiau rhagbrofol.[20] Roedd ynysoedd Saint Lucia yn bwriadu cystadlu yn y gystadleuaeth i ddechrau ond tynnodd yr ynysoedd yn ôl cyn eu gêm gyntaf. Tynnodd Gogledd Corea yn ôl hefyd o'r rowndiau rhagbrofol oherwydd pryderon diogelwch yn ymwneud â phandemig COVID-19.
Trafodwyd dyraniad slotiau ar gyfer pob cydffederasiwn gan Bwyllgor Gweithredol FIFA ar 30 Mai 2015 yn Zürich ar ôl Cyngres FIFA.[21] Penderfynodd y pwyllgor y byddai'r dyraniadau a roddwyd yn 2006, yn parhau ar gyfer twrnamaint 2022, sef:[22]
- CAF (Affrica): 5
- AFC (Asia): 4.5 (heb gynnwys y wlad sy'n cynnal)
- UEFA (Ewrop): 13
- CONCACAF (Gogledd a Chanol America a Charibî): 3.5
- OFC (Oceania): 0.5
- CONMEBOL (De America): 4.5
Chwaraewyd y gemau rhagbrofol cyntaf ym Mehefin 2019 yn y twrnamaint rhagbrofol Asiaidd, gyda Mongolia yn trechu Brunei 2–0 ar 6 Mehefin, lle sgoriodd chwaraewr Mongolia, Norjmoogiin Tsedenbal y gôl gyntaf.[23]
Timau a fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA 2022
Tîm | Llwybr i'r gystadleuaeth | Pryd | Cystadlu o'r blaen | Cystadlu ddiwethaf | Perfformiad gorau yn y gystadleuaeth |
---|---|---|---|---|---|
Qatar | Gwesteion | 2 Rhagfyr 2010 | 1 | – | – |
Yr Almaen | Enillwyr Grŵp J UEFA | 11 Hydref 2021 | 20[b] | 2018 | Pencampwyr (1954, 1974, 1990, 2014) |
Denmarc | Enillwyr Grŵp F UEFA | 12 Hydref 2021 | 6 | 2018 | Rownd yr wyth olaf (1998) |
Brasil | Enillwyr CONMEBOL | 11 Tachwedd 2021 | 22 | 2018 | Pencampwyr (1958, 1962, 1970, 1994, 2002) |
Ffrainc | Enillwyr Grŵp D UEFA | 13 Tachwedd 2021 | 16 | 2018 | Pencampwyr (1998, 2018) |
Gwlad Belg | Enillwyr Grŵp E UEFA | 13 Tachwedd 2021 | 14 | 2018 | Trydydd safle (2018) |
Serbia | Enillwyr Grŵp A UEFA | 14 Tachwedd 2021 | 13[c] | 2018 | Pedwerydd safle (1930, 1962) |
Sbaen | Enillwyr Grŵp B UEFA | 14 Tachwedd 2021 | 16 | 2018 | Pencampwyr (2010) |
Croasia | Enillwyr Grŵp H UEFA | 14 Tachwedd 2021 | 6 | 2018 | Ail safle (2018) |
Y Swistir | Enillwyr Grŵp C UEFA | 15 Tachwedd 2021 | 12 | 2018 | Rownd yr wyth olaf (1934, 1938, 1954) |
Lloegr | Enillwyr Grŵp I UEFA | 15 Tachwedd 2021 | 16 | 2018 | Pencampwyr (1966) |
Yr Iseldiroedd | Enillwyr Grŵp G UEFA | 16 Tachwedd 2021 | 11 | 2014 | Ail safle (1974, 1978, 2010) |
Yr Ariannin | Ail safle CONMEBOL | 16 Tachwedd 2021 | 18 | 2018 | Pencampwyr (1978, 1986) |
Iran | Enillwyr Trydedd rownd AFC Grŵp A | 27 Ionawr 2022 | 6 | 2018 | Rownd grwpiau (1978, 1998, 2006, 2014, 2018) |
De Corea | Ail safle trydedd rownd Grŵp A AFC | 1 Chwefror 2022 | 11 | 2018 | Pedwerydd safle (2002) |
Sawdi Arabia | Enillwyr trydedd rownd Grŵp B AFC | 24 Mawrth 2022 | 6 | 2018 | Rownd yr 16 (1994) |
Japan | Ail safle trydedd rownd Grŵp B AFC | 24 Mawrth 2022 | 7 | 2018 | Rownd yr 16 (2002, 2010, 2018) |
Wrwgwái | Trydydd safle CONMEBOL | 24 Mawrth 2022 | 14 | 2018 | Pencampwyr (1930, 1950) |
Ecwador | Pedwerydd safle CONMEBOL | 24 Mawrth 2022 | 4 | 2014 | Rownd yr 16 (2006) |
Canada | Enillwyr trydedd rownd CONCACAF | 27 Mawrth 2022 | 2 | 1986 | Rownd grwpiau (1986) |
Ghana | Enillwyr trydedd rownd CAF | 29 Mawrth 2022 | 4 | 2014 | Rownd yr wyth olaf (2010) |
Senegal | Enillwyr trydedd rownd CAF | 29 Mawrth 2022 | 3 | 2018 | Rownd yr wyth olaf (2002) |
Gwlad Pwyl | Enillwyr gêm ail gyfle Llwybr B UEFA | 29 Mawrth 2022 | 9 | 2018 | Trydydd safle (1974, 1982) |
Portiwgal | Enillwyr gêm ail gyfle Llwybr C UEFA | 29 Mawrth 2022 | 8 | 2018 | Trydydd safle (1966) |
Tiwnisia | Enillwyr trydedd rownd CAF | 29 Mawrth 2022 | 6 | 2018 | Rownd grwpiau (1978, 1998, 2002, 2006, 2018) |
Moroco | Enillwyr trydedd rownd CAF | 29 Mawrth 2022 | 6 | 2018 | Rownd yr 16 (1986) |
Camerŵn | Enillwyr trydedd rownd CAF | 29 Mawrth 2022 | 8 | 2014 | Rownd yr wyth olaf (1990) |
Unol Daleithiau America | Trydydd safle trydedd rownd CONCACAF | 30 Mawrth 2022 | 11 | 2014 | Trydydd safle (1930) |
Mecsico | Ail safle trydedd rownd CONCACAF | 30 Mawrth 2022 | 17 | 2018 | Rownd yr wyth olaf (1970, 1986) |
Cymru | Enillwyr gêm ail gyfle Llwybr A UEFA | 5 Mehefin 2022 | 2 | 1958 | Rownd yr wyth olaf (1958) |
Awstralia | Enillwyr gêm ail gyfle AFC v CONMEBOL | 13 Mehefin 2022 | 6 | 2018 | Rownd yr 16 (2006) |
Costa Rica | Enillwyr gêm ail gyfle CONCACAF v OFC | 14 Mehefin 2022 | 6 | 2018 | Rownd yr wyth olaf (2014) |
- Nodiadau
Lleoliad y gemau
Yn Ebrill 2017, nid oedd FIFA wedi cwblhau rhestr o ba stadiymau fyddai'n barod ymhen pum mlynedd, dywedodd Goruchaf Bwyllgor Cyflenwi ac Etifeddiaeth Qatar ei fod yn disgwyl y byddai wyth yn Doha neu'n agos ato (ac eithrio Al Khor) [24][25]
Yn mis Ionawr 2019, dywedodd Infantino fod FIFA yn archwilio’r posibilrwydd o gael gwledydd cyfagos i gynnal rhai gemau yn ystod y twrnamaint, er mwyn lleihau tensiynau gwleidyddol.[26]
Y stadiwm a gaiff ei ddefnyddio fwyaf fydd Stadiwm Eiconig Lusail, bydd 10 o gemau yn cael eu cynnal yn y stadiwm, gan gynnwys y gêm derfynol. Bydd 9 o gemau yn cael eu cynnal yn Stadiwm Al Bayt yn Al Khor. Cynlhelir pob gêm ar wahân i'r 9 yn Al Khor o fewn radiws o 20 milltir (32km) i ganol Doha. Am y tro cyntaf erioed bydd pob stadiwm yn cael eu defnyddio ar gyfer gemau'r rowndiau sy'n dilyn rownd gyntaf y grwpiau.
Enwyd Stadium 974,a arferai gael ei alw'n Ras Abu Aboud, ar ôl nifer y cynwysyddion llongau a ddefnyddiwyd i adeiladu'r stadiwm a bydd y stadiwm yn cynnal saith o gemau yn ystod y gystadleuaeth.[27]
Lusail | Al Khor | Doha | |
---|---|---|---|
Stadiwm Eiconig Lusail | Stadiwm Al Bayt | Stadiwm 974 | Stadiwm Al Thumama |
Eisteddleoedd: 80,000 | Eisteddleoedd: 60,000[28] | Eisteddleoedd: 40,000[29] | Eisteddleoedd: 40,000[30] |
Al Rayyan | Al Wakrah | ||
Khalifa International Stadium | Stadiwm Dinas Addysg | Stadiwm Ahmad bin Ali | Al Janoub Stadium |
Eisteddleoedd: 45,416[31] | Yn dal: 45,350[32] | Eisteddleoedd: 44,740[33] | Eisteddleoedd: 40,000[34] |
Tîm Cymru
Ar 5 Mehefin 2022, cymhwysodd Cymru i Gwpan y Byd Pêl-droed, am y tro cyntaf ers 1958.[35] Bydd rhai swyddogion o Gymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymweld â Qatar ym mis Ionawr gan fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau "helpu i wneud y byd yn lle gwell", yn ôl eu prif weithredwr.[36] Chwaraeodd tîm Cymru eu gêm gyntaf ar 21 Tachwedd, yn erbyn y tîm o'r Unol Daleithiau America.[37]