Deugotyledon

Deugotyledonau
Magnolia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ffylwm:Magnoliophyta
Dosbarth:Magnoliopsida*
Brongniart
Urddau

Llawer, gweler y rhestr

Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd dicotyledonau, deuhad-ddail, deugibogion). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau.[1] Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau o'u DNA a'u paill yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr ewdicotau yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.

Fel arfer, mae gan y deugotyledonau ddail llydan coesog gyda gwythiennau rhwydog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o bedwar neu bump.

Urddau

Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[2] Mae dosbarthiad cywir nifer o deuluoedd yn ansicr.

UrddEnghreifftiau
Amborellales
Nymphaealeslili'r dŵr
Austrobaileyalescoeden anis
Chloranthales
"Magnoliidau"
  Canellales
  Lauralesllawryfen
  Magnolialesmagnolia, nytmeg, afal cwstard
  Piperalespupur du, esgorlys
Ceratophyllalescyrnddail
"Ewdicotau"
  Ranunculalesblodyn ymenyn, pabi
  Teulu Sabiaceae
  Protealesprotea, planwydden, lotws
  Trochodendrales
  Buxalespren bocs
  "Ewdicotau craidd"
    Gunnerales
    Teulu Dilleniaceae
    Saxifragalestormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd
    Berberidopidsales
    Santalalesuchelwydd
    Caryophyllalescarnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot
    "Rosidau"
      Vitalesgwinwydden
      "Ewrosidau I"
        Zygophyllales
        Celastralesbrial y gors
        Oxalidalessuran y coed
        Malpighialesllaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled
        Cucurbitalescucumer, melon, pwmpen
        Fabalesffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen
        Fagalesffawydden, derwen, bedwen
        Rosalesrhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch
      "Ewrosidau II"
        Geranialespig yr Aran, mynawyd y bugail
        Myrtalesmyrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal
        Crossosomatales
        Picramniales
        Huerteales
        Brassicalesbresychen, mwstard, rêp
        Malvaleshocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn
        Sapindalesoren, lemon, mahogani
    "Asteridau"
      Cornalescwyrosyn
      Ericalesgrug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen
      "Ewasteridau I"
        Teulu Boraginaceaecyfardwf, sgorpionllys
        Teulu Vahliaceae
        Teulu Icacinaceae
        Teulu Metteniusaceae
        Teulu Oncothecaceae
        Garryales
        Gentianalescrwynllys, coffi
        Lamialesmintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden
        Solanalescodwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys
      "Ewasteridau II"
        Aquifolialescelynnen
        Asteralesblodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant y llew
        Escallonialesesgalonia
        Bruniales
        Paracryphiales
        Dipsacalescribau'r pannwr, gwyddfid
        Apialesmoronen, persli

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Magnoliidau, Ewdicotau, Rosidau, Asteridau, Ewrosidau, Ewasteridau o'r Saesneg "Magnoliids, Eudicots, Rosids, Asterids, Eurosids, Euasterids". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.