Ffriseg

Iaith Germanaidd orllewinol a siaredir yn yr Iseldiroedd a'r Almaen yw Ffriseg. Tri amrywiad sydd i'r iaith: Ffriseg y Gorllewin, Ffriseg y Gogledd a Saterffriseg (Ffriseg y Dwyrain); mae nifer o ieithyddion yn eu hystyried yn dair iaith ar wahân.[1] Ynghyd â'r ieithoedd Angliaidd maent yn ffurfio'r grŵp Eingl-Ffrisiaidd.[2] Ffriseg yw'r iaith sy'n perthyn yn agosaf at y Saesneg, ac eithrio'r Sgoteg.[3]

Ffriseg
Frysk

Arwydd dwyieithog yn Almaeneg a Ffriseg y Gogledd yn Husum, yr Almaen.
Siaredir ynYr Iseldiroedd, Yr Almaen
RhanbarthFryslân, Groningen, Niedersachsen, Schleswig-Holstein
Cyfanswm siaradwyr480,000
Teulu ieithyddolIndo-Ewropeaidd
Tafodieithoedd
Ffriseg y Gorllewin
Saterffriseg
Ffriseg y Gogledd
System ysgrifennuYr wyddor Ladin
Statws swyddogol
Iaith swyddogol ynYr Iseldiroedd
Yr Almaen
Rheoleiddir ganFryske Akademy (Ffriseg y Gorllewin)
Codau ieithoedd
ISO 639-1Dim
ISO 639-2
ISO 639-3variously:
fry – Ffriseg y Gorllewin
frr – Ffriseg y Gogledd
stq – Saterffriseg
Wylfa Ieithoedd52-ACA

Dosbarthiad yr ieithoedd Ffriseg yn Ewrop:

     Ffriseg y Gorllewin     Saterffriseg     Ffriseg y Gogledd

Tybir gan ambell ysgolhaig i iaith Eingl-Ffriseg fodoli yn y cyfnod cyn i'r Eingl-Sacsoniaid gyrraedd Prydain yn y 5g pan oedd y Ffrisiaid yn ymfudo i Loegr.[3] Yn yr Hen Ffriseg mae cofnodion ysgrifenedig hynaf yr iaith, sy'n dyddio o ddiwedd y 13g, a pharhaodd y cyfnod hwn o'r iaith hyd ddiwedd y 16g. Dangosa Hen Ffriseg y nodweddion sy'n gwahaniaethu Ffriseg fodern a Saesneg oddi ar yr ieithoedd Germanaidd eraill. Yn hanesyddol fe'i siaredir ar draws ardal Ffrisia: o'r Isalmaen (heddiw Noord-Holland) ar hyd arfordir Môr y Gogledd i Schleswig, ac Ynysoedd Ffrisia yng Ngeneufor yr Almaen. Anaml y defnyddid Ffriseg yn iaith ysgrifenedig yn y tair canrif nesaf, ond gwelir adfywiad yr iaith yn y ganrif ddiwethaf yng Ngorllewin Ffrisia. Yno mae cadarnle'r iaith, a'i defnyddir ar y cyd â'r Iseldireg; fe'i disodlir yn raddol gan yr Almaeneg yn Nwyrain a Gogledd Ffrisia.[4]

Dosbarthiad

Ffriseg y Gorllewin

Ffriseg y Gorllewin yw'r iaith gryfaf o ran nifer ei siaradwyr: tua 470,000 a 467,000 ohonynt yn yr Iseldiroedd,[5] yn nhaleithiau Fryslân (gan gynnwys ynysoedd Schiermonnikoog a Terschelling)[4] a Groningen (yn bennaf bwrdeistref De Marne). Mae ganddi statws iaith daleithiol yn Fryslân ers 1996. Nifer isel sy'n llythrennog rugl, ond mae dros 70% o drigolion Fryslân yn medru siarad yr iaith. Ymhlith tafodieithoedd Ffriseg y Gorllewin mae Westerlauwers Fries, Súdhoeksk, Wâldfrysk, a Klaaifrysk.[5] Adfywiodd llenyddiaeth Ffriseg yn y 19g. Defnyddir y Ffriseg mewn ysgolion a llysoedd yn nhalaith Fryslân, a hyrwyddir yr iaith a'i diwylliant gan y mudiad iaith Ried fan de Fryske Beweging a'r Fryske Akademy.

Saterffriseg

Roedd ganddi tua 2000 o siaradwyr yn 2015, a'r rhan fwyaf ohonynt yn ganol oed neu'n hŷn. Fe'i chlywir yn nhalaith Niedersachsen yn yr Almaen: Saterland, Strücklingen, Ramsloh, a Scharrel yn ardal Cloppenburg.[6]

Ffriseg y Gogledd

Ym 1976 roedd 10,000 o siaradwyr, o boblogaeth o 60,000 o Ffrisiaid Gogleddol, yn nhalaith Schleswig-Holstein yng ngogledd yr Almaen. Yr arfordir rhwng Afon Eider ac Afon Wiedau ac Ynysoedd Gogledd Ffrisia yw ardal yr iaith (ynysoedd Föhr, Amrum, Sylt, Norstrand, Pellworm, grŵp Halligen, a Helgoland). Ymhlith y tafodieithoedd mae Mooringer (tir mawr, Mooringa), Ferring (Fohr-Amrum), Sölreng (Sylt), a Helgoland. Er nad oes fawr o agwedd negyddol tuag at yr iaith, fe'i siaredir yn bennaf gan yr hen bobl ac yn y cartref a dim ond ychydig sy'n ei darllen. Parheir i glywed tafodiaith Ferring, ond mae tafodiaith Sölreng bron wedi diflannu. Nid oes gan yr iaith droedle yn yr ysgol, yr eglwys neu'r farchnad.[7]

Rhennir nifer o eirfa rhwng Ffriseg y Gogledd â'r Almaeneg Safonol ac Isel Sacsoneg Dwyrain Ffrisia, ac felly mae'n bosib i ambell siaradwr dwyieithog sy'n rhugl yn Ffriseg y Gorllewin a'r Almaeneg i ddeall Ffriseg y Gogledd.[7]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Saterffriseg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Wikipedia