Yr wyddor Ladin

Yr wyddor Ladin wreiddiol, tua'r 7g CC.
ABCDEFZ
HIKLMNO
PQRSTVX

Yr wyddor Ladin, neu'r Wyddor Rufeinig yw'r wyddor fwyaf cyffredin yn y byd heddiw. Datblygodd o fersiwn orllewinol o'r wyddor Roeg, a elwid yr wyddor Gumeaidd, a datblygwyd hi i ffurfio'r wyddor Etrwscaidd. Mabwysiadodd y Rhufeiniaid 21 o'r 26 llythyren Etrwscaidd i ysgrifennu Lladin.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, addaswyd hi i'w defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd gorllewin Ewrop, a rhai ieithoedd yn nwyrain Ewrop, er enghraifft rhai ieithoedd Slafig.

Y gwledydd sy'n denyddio'r wyddor Ladin. Gwyrdd tywyll: fel gwyddor swyddogol; gwyrdd golau: gwyddor swyddogol ar y cyd â gwyddorau eraill.

Mae rhai ieithoedd wedi newid o wyddorau eraill i'r wyddor Ladin. Newidiodd Romaneg o'r wyddor Gyrilig i'r wyddor Ladin yn y 18g. Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Ladin yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.

Amrywia'r defnydd o'r llythrennau yn yr wyddor Ladin o un iaith i'r llall. Ceir 28 o lythrennau yn yr wyddor Gymraeg (29 os cynnwys J), rhai ohonynt fel Ch neu Ll lle defnyddir dau symbol i gynrychioli un sain.

Yr wyddor elfennol

Gwyddor Ladin wreiddiol Teyrnas Rhufain
ABCDEFZHIKLMNOPQRSTVX
Gwyddor Ladin Yr Ymerodraeth Rufeinig
ABCDEFGHIKLMNOPQRSTVXYZ
Yr wyddor Ladin elfennol gyfoes
AaBbCcDdEeFfGgHhIiJjKkLlMmNnOoPpQqRrSsTtUuVvWwXxYyZz