Gemau Olympaidd yr Haf 1912

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1912, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad V, yn Stockholm, Sweden yn 1912. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Daeth cystadleuwyr i'r gemau o pob un o'r pum cyfandir am y tro cyntaf, a caiff hyn ei symboleiddio yn y cylchoedd Olympaidd. Cynhaliwyd y cytadlaethau athletau i gyd o fewn cyfnod cymharol fyr o fis am y tro cyntaf ers 1896, o ddiwedd mis mehefin tan ganol Gorffennaf. Dyma'r tro cyntaf i fedalau aur gael eu cyflwyno; mae medalau cyfoes fel arfer yn arian gyda gorchudd o aur. Stockholms Olympiastadion oedd y brif arena.

Gemau Olympaidd yr Haf 1912
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1912 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Mai 1912 Edit this on Wikidata
Daeth i ben27 Gorffennaf 1912 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1908 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1916 Edit this on Wikidata
LleoliadStockholm Olympic Stadium, Stockholm Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/stockholm-1912 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chwaraeon

Cystadlwyd 16 o chwaraeon yng Ngemau 1912.

Cystadleuwyr Cymreig

Roedd Irene Steer yn Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd, fel aelod o'r dîm ras gyfnewid nofio 4x100m Prydain Fawr.[1]

Cenhedloedd a gyfranogodd

Y cyfranogwyr

Roedd athletwyr yn cynyrchioli 28 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd.

Cyfanswm Medalau

Dyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.

 Safle CenedlAurArianEfyddCyfanswm
1  Unol Daleithiau America25191963
2  Sweden24241765
3  Prydain Fawr10151641
4  Y Ffindir98926
5  Ffrainc74314
6  Yr Almaen513725
7 De Affrica4206
8  Norwy4149
9  Canada3238
 Hwngari3238

Cyfeiriadau