Gorgias

Athronydd, gwleidydd, a rhethregwr Groegaidd hynafol oedd Gorgias (tua 483375 CC) a oedd yn un o do cyntaf y Soffyddion.[1] Edrychid arno fel un o'r dysgedigion galluocaf yn perthyn i'r oes yr oedd llenyddiaeth Groeg yn ei gogoniant pennaf.[2]

Gorgias
Ganwydc. 483 CC, 485 CC Edit this on Wikidata
Leontini Edit this on Wikidata
Bu farwc. 375 CC Edit this on Wikidata
Lárisa Edit this on Wikidata
Galwedigaethsophist Edit this on Wikidata
Mudiadsophism, athroniaeth cyn-Socratig, sophist Edit this on Wikidata

Ganed yn Leontini, Sisili. Cyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl Ar Bwnc Natur neu'r Anfodol, yn yr hwn yr amcanai ddangos yn:

  1. Nad oes dim yn bodoli.
  2. Os oes rhywbeth yn bodoli, nis gellir ei wybod.
  3. Os oes rhywbeth yn bodoli ac y gellir ei wybod, nid ydyw yn bosibl ei draethu a'i fynegi i eraill.

Yn ganlynol i gyhoeddiad y llyfr uchod, troes Gorgias ei feddwl yn gwbl oll i astudio areitheg, ac yn hyn enillodd anrhydedd mawr. Meddai Cicero taw Gorgias oedd y cyntaf i draddodi anerchiadau cyhoeddus yn ddifyfyr, ar unrhyw destun. Roedd ei arddangosiadau o'r ddawn areithyddol, pa fodd bynnag, yn fwy nodedig am goethder ac addurniant barddonol yr iaith, a ffurfiad destlus y brawddegau, nag am ddyfnder a bywiogrwydd meddwl; ac fe ddaeth oeredd ei huodledd yn fuan i fod yn ddihareb ymhlith trigolion yr hen oesoedd. Mae ei enw wedi ei anfarwoli i raddau pell trwy iddo gael ei gysylltu ag un o ymddiddanion Platon. Dyrchafwyd cerflun o aer mewn lle amlwg yn Delphi i fod megis yn gofadail am ei goffadwriaeth. Yn ôl y traddodiad, bu fyw am 105 o flynyddoedd neu fwy.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.