Greenpeace
Mudiad annibynnol sy'n ymgyrchu dros gadwraeth ac amrywiaeth y Ddaear yw Greenpeace[3] Er mwyn cyrraedd y nod hwn mae'n ymgyrchu ar nifer o feusydd amgylcheddol. Mae gan y mudiad dros 40 o swyddfeydd ar hyd a lled y byd, gan gynnwys ei phrif swyddfeydd yn Amsterdam a'r Iseldiroedd.[4] Nodau ac amcanion Greenpeace yw: "sicrhau gallu'r ddaear i feithrin bywyd a chydoeth ei amrywiaeth.[5]
Logo Greenpeace | |
Protest Greenpeace yn erbyn cwmni olew Esso / ExxonMobil | |
Sefydlwyd | 1969 - 1972, Vancouver, British Columbia, Canada |
---|---|
Math | Mudiad annibynnol |
Pwrpas | Amgylcheddaeth, heddwch |
Pencadlys | Amsterdam, yr Iseldiroedd |
Rhanbarth a wasanethir | Byd-eang |
Prif Weithredwr-Gyfarwyddwr | Kumi Naidoo |
Cadeiydd y Bwrdd | Ana Toni |
Main organ | Bwrdd y Cyfarwyddwyr, etholwyd gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol |
Cyllid | €236.9 milion (2011) |
Staff | 2,400 (2008) |
Gwirfoddolwyr | 15,000[1] |
Gwefan | www.greenpeace.org |
Hen enw | Don't Make a Wave Committee (1969-1972)[2] |
Ymhlith y ffrynt mae'n eu hymladd y mae:
- newid hinsawdd
- difa fforestydd
- gorbysgota
- pysgota morfilod a'r
- ffrynt gwrth-niwclear
Yn ogystal â gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn cwmniau byd-eang, mae'r mudiad hefyd yn lobio ac yn ymchwilio. Nid yw'r mudiad yn derbyn ceiniog o nawdd gan yr un llywodraeth, cwmni na phlaid wleidyddol, er mwyn sicrhau ei hannibyniaeth. Yn 2015 roedd ganddi dros 2.9 miliwn o gefnogwyr.[6][7] Rhoddwyd iddo statws ymgynghorol gan Gyngor Cymdeithasol ac Economeg y Cenhedloedd Unedig[8] ac mae'n un o sefydlwyr[9] Siarter Digonolrwydd Rhyngwladol Mudiadau Di-Lywodraeth.