Gwleidyddiaeth yr adain dde

Term cyffredinol sy'n cwmpasu pawb sydd â daliadau gwleidyddol ceidwadol yn hytrach na rhai rhyddfrydol yw adain dde.

Mae'n gysylltiedig â'r syniad o gyfrifoldeb yr unigolyn tuag at y gymdeithas; mae'n ffafrio buddion pobl gefnog ac yn derbyn trefn gymdeithasol elitaidd.

5 Mai 1789: Agoriad yr États généraux yn Versailles; eisteddai'r ceidwadwyr ar y dde.

Bathwyd y term yn y 1790au, pan eisteddai cynrychiolwyr ceidwadol yn senedd chwyldroadol Ffrainc ar ochr dde'r llywydd.[1] Ffurfiwyd adain Dde Ffrainc fel ymateb i'r adain Chwith, ac roedd yn cynnwys y gwleidyddion hynny a oedd yn cefnogi hierarchaeth, traddodiad a chlerigiaeth.[2] Daeth yr amadrodd la droite ('y dde') yn gyffredin yn Ffrainc wedi adfer y frenhiniaeth yn 1815 i gyfeirio at y Brenhinwyr.[3] Ni ddaeth y term i'r Saesneg na'r Gymraeg tan yr 20g.[4]

Cyfeiriadau