Homo erectus

Homo erectus
Dyn Tautavel
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mammalia
Urdd:Primates
Teulu:Hominidae
Genws:Homo
Rhywogaeth:H. eretus
Enw deuenwol
Homo erectus
Dubois, 1892
Cyfystyron

Roedd Homo erectus (Lladin: ērigere; "Dyn cefnsyth"), gynt Pithecanthropus erectus, yn rhywogaeth o'r genws Homo oedd yn byw yn y Pleistosen, rhwng 1.9 miliwn a thua 117,000 o flynyddoedd yn ôl (neu CP).[1]

Ymddengys fod nifer o rywogaethau dynol, megis Homo heidelbergensis a Homo antecessor, wedi esblygu o H. erectus, ac ystyrir yn gyffredinol bod Neanderthaliaid, Denisovaniaid, a bodau dynol modern yn eu tro wedi esblygu o H. heidelbergensis.[2] H. erectus oedd yr hynafiad dynol cyntaf i ymledu ledled Ewrasia, gydag amrediad cyfandirol yn ymestyn o Benrhyn Iberia i Java.

Cafwyd hyd i'r ffosilau cyntaf o'r rhywogaeth yma gan Eugène Dubois o'r Iseldiroedd ar ynys Jawa yn y 1890au cynnar. Adnabyddir yr enghraifft yma fel "Dyn Jawa". Yn 1927, cafwyd hyd i fwy o ffosilau yn Zhoukoudian yn Tsieina. Yn ddiweddarach, cafwyd hyd i lawer o'r ffosilau hyn yn Affrica, er enghraifft un yn Ternifine, Algeria, gweddillion a ddyddir i rhwng 600,000 a 700,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i rai yn Nwyrain Affrica sydd tua 1 miliwn o flynyddoedd oed.[3][4]

Mae hyn yn peri i'r rhan fwyaf o Baleoanthropolegwyr gredu i Homo erectus ddatblygu yn Affrica, ac yna ymledaenu drwy Ewrasia mor bell a Georgia, India, Sri Lanca, Tsieina a Jafa, y rhywogaeth gyntaf o Homo i adael Affrica gan y rhan fwyaf o archaeolegwyr, ond cred eraill ei fod yn frodorol o Asia.[3][5][6]

Cymharu penglogau

Tarddiad

Ceir dwy farn ynghylch tarddiad H. erectus:

1. Mae'r gyntaf yn dweud iddynt esblygu o'r Australopithecine yn nwyrain Affrica ar ddechrau'r Pleistosen Cynnar: erbyn dwy filiwn o flynyddoedd CP, credir ei fod wedi ymfudo oddi yno i fannau eraill. Erbyn 1.8 CP roedd drwy Affrica[7], Dmanisi yng ngwlad Georgia, Indonesia, Jafa, Fietnam, Tsieina (Zhoukoudian ac India.[8]
2. Yr ail farn yw i H. erecus esblygu yn Ewrasia ac yna ymfudo i Affrica. Gwyddom iddynt fyw yn Dmanisi, Georgia (rhwng Rwsia a Thwrci) rhwng 1.85 a 1.77 miliwn o flynyddoedd CP, ychydig cyn unrhyw dystiolaeth ohonynt yn Affrica, neu o bosib - yr un pryd a'i gilydd.[9]
Siart 'Stringer' o esblygiad sawl rhywogaeth o'r genws Homo dros ddwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'r cysyniad "Allan o Affrica" i'w weld ar frig y siart.

Am ran helaeth o ddechrau'r 20g, credodd y rhan fwyaf o anthropolegwyr mai yn Asia yr esblygodd H erectus, yn bennaf oherwydd y darganfyddiadau yn Jafa a Zhoukoudian. Credodd llond dwrn ohonynt, gan gynnwys Charles Darwin, iddynt darddu o Affrica. Dadl Darwin oedd mai dim ond yn Affrica roedd (ac mae) perthnasau neu hynafiaid agosaf H. erectus: gorilas a Tsimpansîs.[10]

Homo erectus georgicus

Mae Homo erectus georgicus yn is-rywogaeth o Homo erectus a ystyriwyd ar un cyfnod yn rhywogaeth lawn, annibynnol.[11] Fe'i darganuwyd yn Dmanisi, Georgia yn 1991 gan David Lordkipanidze pan gloddiwyd i'r wyneb bum penglog. Daeth nifer o ffosiliau eraill i'r fei, gan gynnwys penglog cyfan yn 2005 a 73 o offer-llaw i dorri a naddu a 34 aswrn amryw o anifeiliaid. Fe'i dyddiwyd i 1.8 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Gweler hefyd

Cyfeiriadau