La Marseillaise

La Marseillaise ("Cân Marseille") yw anthem genedlaethol Ffrainc. Cyfansoddwyd hi gan Rouget de Lisle yn Strasbourg fin nos y 25ain o Ebrill, wedi i Ffrainc gyhoeddi rhyfel yn erbyn Ymerawdwr Awstria. Y teitl gwreiddiol oedd Chant de guerre pour l'armée du Rhin ("Rhyfelgan i Fyddin Afon Rhein").

Rouget de l'Isle yn canu "La Marseillaise", 1849 ,Isidore Pils, Strasbourg, Musée des Beaux-Arts.
La Marseillaise (1907).

Cafodd y gân ei chanu am y tro cyntaf gan filwyr Marseille oedd wedi dod i Baris i gefnogi'r Chwyldro Ffrengig, a rhoddwyd yr enw La Marseillaise arni. Cyhoeddwyd La Marseillaise yn anthem genedlaethol ar 14 Gorffennaf, 1795. Dan ymerodraeth Napoleon ac ar ôl adfer y teulu brenhinol, gwaharddwyd y gân, ond wedi'r chwyldro yn 1830 fe'i gwnaed yn anthem genedlaethol eto dan y Drydedd Weriniaeth.

Defnyddiwyd y dôn ar gyfer Yr Internationale pan gyfansoddwyd geiriau y gân honno gyntaf, ond yn ddiweddarch cafodd dôn arall.

Er bod gan y gân wreiddiol nifer o benillion, dim ond y pennill cyntaf a genir yn Ffrainc fel rheol:

La Marseillaise
Allons, enfants de la PatrieDewch, blant y famwlad
Le jour de gloire est arrivé !Cyrhaeddodd diwrnod gogoniant!
Contre nous de la tyrannieYn ein herbyn, gormes
L'étendard sanglant est levé.Gododd ei baner waedlyd. (ailadrodd)
Entendez-vous dans les campagnesGlywch chi yn y caeau
Mugir ces féroces soldats ?Udo y milwyr ffyrnig?
Ils viennent jusque dans vos brasMaent yn dod i'ch plith
Égorger vos fils, vos compagnes !I dorri gyddfau'ch meibion, eich gwragedd!
 
Aux armes, citoyens !I'r gad, ddinasyddion!
Formez vos bataillons !Ffurfiwch eich bataliynau!
Marchons, marchons !Ymdeithiwn, ymdeithiwn!
Qu'un sang impurA boed i waed amhur
Abreuve nos sillons !Ddyfrhau ein rhychau!