Martin Luther King

gweithredwr ac arweinydd hawliau sifil Americanaidd (1929-1968)

Roedd Martin Luther King yr ieuengaf (15 Ionawr 19294 Ebrill 1968) yn weinidog ac actifydd Cristnogol Americanaidd a ddaeth yn llefarydd ac arweinydd mwyaf gweladwy'r Mudiad Hawliau Sifil o 1955 hyd at ei lofruddiaeth ym 1968. Mae King yn fwyaf adnabyddus am hyrwyddo hawliau sifil drwy ddulliau di-drais ac anufudd-dod sifil oedd wedi eu hysbrydoli gan ei gredoau Cristnogol a phrotestiadau di-drais Mahatma Gandhi.

Martin Luther King
LlaisMartin Luther King, Jr. speaks about Barry Goldwater at a press conference at Amsterdam Airport Schiphol, August 1964 (audio from Polygoon).oga Edit this on Wikidata
GanwydMichael King Jr. Edit this on Wikidata
15 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Atlanta Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1968 Edit this on Wikidata
Memphis, Tennessee Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Morehouse
  • Crozer Theological Seminary
  • Prifysgol Boston
  • Ysgol Uwchradd Washington
  • Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Boston
  • Ysgol Uwchradd David T. Howard
  • Ysgol Ddiwynyddol Candler Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Lotan Harold DeWolf Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd hawliau sifil, diwinydd, pregethwr, gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, gweinidog bugeiliol, heddychwr, dyngarwr, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd heddwch, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Dexter Avenue Baptist Church
  • Ebenezer Baptist Church
  • Prifysgol Vrije Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadReinhold Niebuhr, Howard Thurman, Walter Rauschenbusch, Henry David Thoreau, Mahatma Gandhi Edit this on Wikidata
Dydd gŵylMartin Luther King Jr. Day Edit this on Wikidata
Taldra168.9 centimetr Edit this on Wikidata
Mudiadmudiadau hawliau sifil, di-drais, undeb llafur yn UDA, mudiad Hawliau Sifil America Edit this on Wikidata
TadMartin Luther King Sr. Edit this on Wikidata
MamAlberta Williams King Edit this on Wikidata
PriodCoretta Scott King Edit this on Wikidata
PlantYolanda King, Martin Luther King III, Dexter Scott King, Bernice King Edit this on Wikidata
PerthnasauAlveda King Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr Pacem in Terris, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Gwobrau Margaret Sanger, Time Person of the Year, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, Dyngarwr y Flwyddyn, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Spingarn, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://thekingcenter.org Edit this on Wikidata
llofnod
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Arweiniodd King foicot bysiau Montgomery yn 1955 ac yn ddiweddarach daeth yn llywydd cyntaf Cynhadledd Arweinyddiaeth Gristnogol y De (Southern Christian Leadership Conference). Fel llywydd y Gynhadledd, arweiniodd frwydr aflwyddiannus yn 1962 yn erbyn arwahanu yn Albany, Georgia, a helpodd i drefnu protestiadau di-drais 1963 yn Birmingham, Alabama. Bu hefyd yn cynorthwyo â threfniadau’r Orymdaith i Washington, ym mis Mawrth 1963, lle traddododd ei araith enwog Mae gen i freuddwyd (I have a dream) ar risiau Cofeb Lincoln.

Ar 14 Hydref 1964, enillodd King Wobr Heddwch Nobel am frwydro yn erbyn anghydraddoldeb hiliol drwy wrthwynebiad di-drais. Ym 1965, helpodd i drefnu'r gorymdeithiau o Selma i Montgomery. Yn ei flynyddoedd olaf, ehangodd ei ffocws i gynnwys gwrthwynebiad i dlodi, cyfalafiaeth, a Rhyfel Fietnam. Gwelwyd ef gan Gyfarwyddwr yr FBI, J. Edgar Hoover, yn unigolyn radical, a bu King yn destun trafod rhaglen gwrthgynhadledd yr FBI o 1963 ymlaen. Roedd King yn destun ymchwiliadau cyson i ysbïwyr yr FBI oherwydd ei gysylltiadau comiwnyddol honedig, a chofnodwyd ei berthnasau tu allan i'w briodas ac adroddwyd arnynt i swyddogion y llywodraeth. Ym 1964, derbyniodd King lythyr anhysbys bygythiol, a ddehonglwyd ganddo fel ymgais i wneud iddo gyflawni hunanladdiad.[1]

Pan gafodd ei lofruddio ar 4 Ebrill 1968, ym Memphis, Tennessee, roedd King yn trefnu ac yn cynllunio ‘meddiant cenedlaethol’ o Washington, D.C., a fyddai’n cael ei alw’n Ymgyrch y Bobl Dlawd. Yn dilyn ei farwolaeth, bu terfysgoedd yn llawer o ddinasoedd yr Unol Daleithiau. Parhaodd honiadau am ddegawdau ar ôl y saethu bod James Earl Ray, y dyn a gafwyd yn euog o ladd King, wedi cael ei fframio neu ei fod wedi gweithredu ar y cyd ag asiantaethau’r llywodraeth.

Wedi ei farwolaeth dyfarnwyd y Fedal Rhyddid Arlywyddol a’r Fedal Aur Gyngresol i King. Sefydlwyd Diwrnod Martin Luther King Jr. fel dydd gŵyl mewn dinasoedd a gwladwriaethau ledled yr Unol Daleithiau, gan ddechrau ym 1971; deddfwyd y gwyliau ar lefel ffederal gan ddeddfwriaeth a lofnodwyd gan yr Arlywydd Ronald Reagan ym 1986. Mae cannoedd o strydoedd yn yr Unol Daleithiau wedi cael eu hailenwi er anrhydedd iddo, ynghyd â sir yn Washington. Cysegrwyd Cofeb Martin Luther King Jr ar y Rhodfa Genedlaethol yn Washington D.C yn 2011.[2]

Bywyd cynnar ac addysg

Derbyniodd King radd Baglor mewn Diwinyddiaeth yn Crozer Theological Seminary

Ganwyd King yn Michael King Jr. ar 15 Ionawr 1929, yn Atlanta, Georgia, yr ail o dri o blant i'r Parchedig Michael King Sr. ac Alberta King (Williams oedd ei chyfenw cyn priodi).[3] Ym 1934 aeth tad King ar daith o amgylch y byd gyda Chynghrair Bedyddwyr y Byd, gan gynnwys taith i Berlin lle daeth dan ddylanwad dysgeidiaeth arweinydd y Diwygiad Protestannaidd, Martin Luther.[4] Dychwelodd adref ym mis Awst 1934, ac yn yr un flwyddyn dechreuodd gyfeirio ato'i hun fel Martin Luther King Sr., a'i fab fel Martin Luther King Jr.[5] Newidiwyd tystysgrif geni King i ddarllen "Martin Luther King Jr." ar 23 Gorffennaf, 1957, pan oedd yn 28 oed.[6]

Yng nghartref ei blentyndod, byddai King, a’i frawd a’i chwaer, yn darllen y Beibl yn uchel yn unol â chyfarwyddyd eu tad. Gwelodd King fod ei dad yn sefyll yn erbyn arwahanu a gwahanol fathau o wahaniaethu. Unwaith, pan gafodd ei stopio gan heddwas a gyfeiriodd at King Sr. fel "boy", ymatebodd ei dad yn sydyn drwy ddweud bod King Jnr yn fachgen ond ei fod ef yn ddyn. Pan aeth tad King ag ef i mewn i siop esgidiau yn Atlanta, dywedodd y clerc wrthynt fod angen iddynt eistedd yn y cefn. Gwrthododd tad King, gan nodi "byddwn naill ai'n prynu esgidiau yn eistedd yma neu ni fyddwn yn prynu esgidiau o gwbl", cyn mynd â'i fab gydag ef a gadael y siop.[7]

Yn ystod ei ieuenctid, teimlai King ddrwgdeimlad yn erbyn pobl wyn oherwydd y "cywilydd hiliol" yr oedd yn rhaid iddo ef, ei deulu, a'i gymdogion ei ddioddef yn aml yn y De lle'r oedd arwahanu yn digwydd. Yn 1942, pan oedd King yn 13 mlwydd oed, daeth yn rheolwr cynorthwyol ieuengaf gorsaf ddosbarthu papur newydd yr Atlanta Journal. Y flwyddyn honno, hepgorwyd King rhag cwblhau’r nawfed radd a chofrestrwyd ef yn Ysgol Uwchradd Booker T. Washington. Yr ysgol uwchradd hon oedd yr unig un yn y ddinas ar gyfer myfyrwyr Americanaidd Affricanaidd. Fe’i ffurfiwyd ar ôl i arweinwyr du lleol, gan gynnwys taid King ar ochr ei fam, (Williams), annog llywodraeth dinas Atlanta i’w sefydlu. Daeth King yn adnabyddus am ei allu i siarad yn gyhoeddus ac roedd yn rhan o dîm dadlau'r ysgol.[8]

Pan oedd King yn yr ysgol uwchradd, cyhoeddodd Coleg Morehouse - coleg du uchel ei barch yn hanesyddol - y byddai'n derbyn unrhyw blentyn ysgol uwchradd a allai basio ei arholiadau mynediad. Bryd hynny, roedd llawer o fyfyrwyr wedi cefnu ar astudiaethau pellach i ymrestru yn yr Ail Ryfel Byd. Oherwydd hyn, roedd Morehouse yn awyddus i lenwi ei ystafelloedd dosbarth. Yn 15 oed, pasiodd King yr arholiad a mynd i Morehouse. Chwaraeodd bêl-droed glasfyfyrwyr yno. Yr haf cyn ei flwyddyn olaf yn Morehouse, ym 1947, dewisodd King, a oedd yn 18 oed ar y pryd, fynd i'r weinidogaeth. Drwy gydol ei gyfnod yn y coleg, astudiodd King o dan arolygiaeth llywydd y Coleg, sef gweinidog gyda’r Bedyddwyr, Benjamin Mays. Yn ddiweddarach, rhoddodd King deyrnged iddo am fod yn “fentor ysbrydol iddo.”[9] Graddiodd King o Morehouse gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau (BA) mewn Cymdeithaseg ym 1948 pan oedd yn bedair ar bymtheg oed.

Cofrestrodd King yng Ngholeg Diwinyddol Crozer yn Upland, Pennsylvania, ac ym 1951[10] dechreuodd astudiaethau doethuriaeth mewn diwinyddiaeth systematig ym Mhrifysgol Boston.[11] Tra’n dilyn astudiaethau doethuriaeth, bu King yn gweithio fel gweinidog cynorthwyol yn Neuddegfed Eglwys y Bedyddwyr, sef eglwys hanesyddol Boston, gyda'r Parchedig William Hunter Hester. Roedd Hester yn hen ffrind i dad Martin Luther King, a bu’n ddylanwad pwysig arno.

Priododd King â Coretta Scott ar Fehefin 18, 1953, ar lawnt tŷ ei rhieni yn ei thref enedigol yn Heiberger, Alabama.[12] Daethant yn rhieni i bedwar o blant: Yolanda King (1955-2007), Martin Luther King III (g. 1957), Dexter Scott King (g. 1961), a Bernice King (g. 1963). Yn ystod eu priodas, cyfyngodd King rôl Coretta yn y mudiad hawliau sifil, gan ddisgwyl iddi fod yn wraig tŷ ac yn fam.[13]

Protestio ac ymgyrchu

Boicot y Bysus, Montgomery, 1955

Rosa Parks efo King, 1955

Ym mis Mawrth 1955, gwrthododd Claudette Colvin - merch ysgol ddu bymtheg oed yn Montgomery - ildio ei sedd fws i ddyn gwyn. Roedd gweithred felly yn groes i gyfreithiau Jim Crow, deddfau cyffredin yn nhaleithiau deheuol America a oedd yn gorfodi arwahanu hiliol. Roedd King ar bwyllgor Affricanaidd-Americanaidd cymuned Birmingham a fu’n ymchwilio i'r achos. Penderfynodd E. D. Nixon a Clifford Durr aros am achos gwell i fynd ar ei drywydd oherwydd bod y digwyddiad yn cynnwys plentyn dan oed.

Naw mis yn ddiweddarach ar 1 Rhagfyr, 1955, bu digwyddiad tebyg pan arestiwyd Rosa Parks am wrthod ildio ei sedd ar fws dinas.[14] Arweiniodd y ddau ddigwyddiad at foicot bysus Montgomery, a gafodd ei annog a'i gynllunio gan Nixon a'i arwain gan King. Parhaodd y boicot am 385 diwrnod,[15] a throdd y sefyllfa mor ddwys fel bod tŷ King wedi cael ei fomio.[16] Arestiwyd King yn ystod yr ymgyrch, a ddaeth i ben yn y diwedd gyda dyfarniad Llys Dosbarth yr Unol Daleithiau yn Browder v. Gayle. Penderfyniad y dyfarniad oedd dod â gwahanu hiliol i ben ar holl fysus cyhoeddus Montgomery. Yn sgil Boicot y Bysus trawsnewidiwyd rôl King i fod yn ffigwr cenedlaethol ac yn llefarydd mwyaf adnabyddus y Mudiad Hawliau Sifil.[17]

SCLC

Ym 1957, sefydlodd King, Ralph Abernathy, Fred Shuttlesworth, Joseph Lowery, ac actifyddion hawliau sifil eraill Gynhadledd Arweinyddiaeth Gristnogol y De (SCLC). Cafodd y grŵp ei greu er mwyn harneisio awdurdod moesol a grym trefnu'r eglwysi duon er mwyn cynnal protestiadau di-drais fyddai’n hyrwyddo ymgyrchoedd a diwygiadau hawliau sifil. Ysbrydolwyd y grŵp gan yr efengylwr Billy Graham, a oedd yn gyfaill i King, yn ogystal â threfniant cenedlaethol y grŵp, In Friendship, oedd wedi cael ei sefydlu gan Stanley Levison ac Ella Baker, rhai o gefnogwyr King.[18] Arweiniodd King y SCLC hyd at ei farwolaeth.[19] Achlysur ‘Pererindod Gweddi dros Ryddid’ yr SCLC yn 1957 oedd y tro cyntaf i King annerch cynulleidfa genedlaethol.[20]

Yr Orymdaith i Washington, 1963

Anerchiad "Mae gen i freuddwyd" Martin Luther King yn ystod yr Ymdaith i Washington dros Swyddi a Rhyddid yn 1963.

Roedd King, a oedd yn cynrychioli'r SCLC, ymhlith arweinwyr sefydliadau hawliau sifil y "Big Six", a oedd yn allweddol yn nhrefniadaeth yr ‘Orymdaith i Washington ar gyfer Swyddi a Rhyddid’, a gynhaliwyd ar 28 Awst 1963. Ymateb cychwynnol yr Arlywydd Kennedy i'r orymdaith oedd ei wrthwynebu’n llwyr, oherwydd ei fod yn pryderu y byddai'n cael effaith negyddol ar yr ymgyrch i basio deddfwriaeth hawliau sifil. Fodd bynnag, roedd y trefnwyr yn bendant y byddai'r orymdaith yn mynd yn ei blaen.[21] Ar sail hynny, penderfynodd y Kennedys ei bod yn bwysig gweithio i sicrhau ei lwyddiant. Roedd yr Arlywydd Kennedy yn pryderu y byddai'r nifer a fyddai’n mynychu’r orymdaith yn llai na 100,000. Felly, aethpwyd ati i ddenu cymorth ychwanegol oddi wrth arweinyddion eglwysig eraill. Cafwyd cymorth hefyd oddi wrth Walter Reuther, Arlywydd Gweithwyr Moduron Unedig, wrth ymfyddino cefnogwyr ar gyfer yr achos.[22]

Roedd gan yr orymdaith ofynion penodol:

  • Diwedd ar wahanu hiliol mewn ysgolion cyhoeddus
  • Deddfwriaeth hawliau sifil ystyrlon, gan gynnwys deddf oedd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil mewn cyflogaeth
  • Amddiffyn gweithwyr hawliau sifil rhag creulondeb yr heddlu
  • Isafswm cyflog o $2 i holl weithwyr UDA (sy'n cyfateb i $17 yn 2019)
  • Hunanlywodraeth i Washington, D.C., oedd yn cael ei lywodraethu gan bwyllgor cyngresol ar y pryd.[23]

Er gwaethaf y tensiynau, roedd yr orymdaith yn llwyddiant ysgubol. Daeth mwy na chwarter miliwn o bobl o ethnigrwydd amrywiol i'r digwyddiad, gyda’r gynulleidfa yn ymledu o risiau Cofeb Lincoln i'r Rhodfa Genedlaethol ac o amgylch y Pwll Adlewyrchu. Ar y pryd, hwn oedd y cyfarfod mwyaf o brotestwyr yn hanes Washington D.C.[24]

Siaradodd King â'r dorf o risiau Cofeb Lincoln yn ystod yr Orymdaith i Washington. Hon oedd araith enwog King oedd yn cynnwys y geiriau "I have a dream". Yn yr araith roedd King mynnu cydraddoldeb hiliol a diwedd ar wahaniaethu yn yr Unol Daleithiau. Roedd dros 200,000 o gefnogwyr hawliau sifil yn y gynulleidfa[25].

Mae'r araith yn cyfeirio at Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau: "Mae gen i freuddwyd y gwelaf y genedl hon yn codi ryw ddydd i fyw yr hyn a ddywed un o erthyglau ei chyfansoddiad: 'Daliwn fod y gwirionedd hwn yn eglur, fod pob dyn yn gydradd'."

Yn ogystal, mewn darn adnabyddus o'r araith mae King yn cyfeirio at ei blant: "Mae gen i freuddwyd y bydd fy mhedwar plentyn yn medru byw, ryw ddydd, fel rhan o genedl lle bydd cymeriad yn bwysicach na lliw croen."[26].

Gwrthwynebiad i Ryfel Fietnam

King[dolen marw] yn siarad mewn rali yn erbyn rhyfel Fietnam ym Mhrifysgol Minnesota ar 27 Ebrill 1967

Roedd King wedi gwrthwynebu rôl America yn Rhyfel Fietnam[27] ers peth amser, ond ar y dechrau roedd wedi ceisio osgoi'r pwnc mewn areithiau cyhoeddus. Gwnaeth hyn er mwyn osgoi gwrthdaro â nodau hawliau sifil y gallai beirniadaeth o bolisïau'r Arlywydd Johnson fod wedi eu creu. Ar anogaeth cyn-Gyfarwyddwr Gweithredu Uniongyrchol SCLC, a oedd bellach yn bennaeth Pwyllgor Symudiad y Gwanwyn i Ddiweddu’r Rhyfel yn Fietnam, sef James Bevel, ac wedi ei ysbrydoli gan barodrwydd Muhammad Ali i fynegi ei farn ar y mater,[28] penderfynodd King yn y pen draw bod angen iddo ddatgan ei wrthwynebiad i’r rhyfel yn gyhoeddus. Digwyddodd hyn ar yr adeg roedd gwrthwynebiad tuag at y rhyfel yn cynyddu ymhlith y cyhoedd yn America.[27]

Ymgyrch y Bobl Dlawd, 1968

Ym 1968, trefnodd King a'r SCLC "Ymgyrch y Bobl Dlawd" i fynd i'r afael â materion cyfiawnder economaidd. Teithiodd King ar hyd y wlad i gasglu ynghyd "byddin aml-grefyddol y tlawd" a fyddai'n gorymdeithio i Washington i gymryd rhan mewn anufudd-dod sifil di-drais, ger Adeilad y Capitol nes byddai’r Gyngres yn creu "bil hawliau economaidd" i Americanwyr tlawd.[29]

Rhagflaenwyd yr ymgyrch gan lyfr olaf King, ‘Where Do We Go from Here: Chaos or Community?’, lle amlinellodd ei farn ar sut i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a thlodi. Dyfynnodd King lyfr Henry George a George, ‘Progress and Poverty’, yn enwedig wrth gefnogi’r ddadl dros warantu incwm sylfaenol. Penllanw'r ymgyrch oedd yr Orymdaith i Washington D.C., lle mynnwyd bod angen cymorth economaidd ar gymunedau tlotaf yr Unol Daleithiau.[30]

Gweledigaeth King oedd creu newid a oedd yn fwy chwyldroadol na diwygio yn unig: cyfeiriodd at ddiffygion systematig o "hiliaeth, tlodi, militariaeth a materoliaeth", a dadleuodd mai "ailadeiladu cymdeithas ei hun yw'r gwir fater i'w wynebu."[31]

Roedd Ymgyrch y Bobl Dlawd yn ddadleuol hyd yn oed o fewn y Mudiad Hawliau Sifil. Ymddiswyddodd Rustin o’r orymdaith, gan nodi bod nodau’r ymgyrch yn rhy eang, bod ei gofynion yn afrealistig, a’i fod yn credu y byddai’r ymgyrchoedd hyn yn cyflymu’r adwaith a’r gormes ar y tlawd a phobl dduon.

Llofruddiaeth a’r canlyniadau

Ar 29 Mawrth 1968, aeth King i Memphis, Tennessee, i gefnogi gweithwyr du oedd yn glanhau gweithfeydd cyhoeddus iechydol. Cynrychiolwyd hwy gan AFSCME Local 1733. Roedd y gweithwyr wedi bod ar streic ers 12 Mawrth am gyflogau uwch a thriniaeth well. Mewn un digwyddiad, derbyniodd atgyweirwyr stryd du eu croen dâl am ddwy awr pan gawsant eu hanfon adref oherwydd tywydd gwael, ond talwyd gweithwyr gwyn am y diwrnod llawn.[32]

Ar Ebrill 3, anerchodd King rali a thraddododd ei anerchiad Rwyf wedi bod i ben y mynydd (I've Been to the Mountaintop) yn Nheml Mason, pencadlys byd-eang Eglwys Duw yng Nghrist.

Saethwyd King yn angheuol gan James Earl Ray am 6:01 yr hwyr ar 4 Ebrill 1968, wrth iddo sefyll ar falconi ail lawr ei westy. Arweiniodd y llofruddiaeth at don o derfysgoedd hil yn Washington D.C., Chicago, Baltimore, Louisville, Kansas City, a dwsinau o ddinasoedd eraill.[33] Roedd ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, sef Robert F. Kennedy, ar ei ffordd i Indianapolis ar y pryd ar gyfer rali ymgyrchu pan gafodd wybod am farwolaeth King. Traddododd araith fer, fyrfyfyr i gynulleidfa o gefnogwyr a rhoi gwybod iddynt am y drasiedi a'u hannog i barhau â delfrydau King, sef protestio di-drais. Y diwrnod canlynol, siaradodd yn Cleveland. Galwodd James Farmer Jr, ac arweinwyr hawliau sifil eraill hefyd, am weithredu di-drais, tra bod Stokely Carmichael, oedd yn ffigwr mwy milwriaethus, wedi galw am ymateb mwy grymus.[34]

Llyfryddiaeth

  • Davies, T.J. Martin Luther King (Abertawe: Gwasg John Penry, 1969)

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.