Mynegai ansawdd aer
Defnyddir mynegai ansawdd aer (AQI) gan asiantaethau llywodraethau'r byd[1] i gyfathrebu i'r cyhoedd pa mor llygredig yw'r aer.[2][3] Ceir gwybodaethr am y AQI trwy gyfartaleddu darlleniadau o synhwyryddion ansawdd aer, a all gynyddu dros amser oherwydd traffig cerbydau, tanau coedwig ayb. Ymhlith y llygryddion a brofwyd mae gronynnau, osôn, nitrogen deuocsid, carbon monocsid, a sylffwr deuocsid.
Math | mesuriad, index |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r risg i iechyd y cyhoedd yn cynyddu wrth i'r AQI godi, yn enwedig pan effeithir ar blant, yr henoed, ac unigolion â phroblemau anadlol neu gardiofasgwlaidd. Yn ystod y cyfnod Covid, roedd llywodraethau'r byd, yn gyffredinol, yn annog pobl i leihau gweithgaredd corfforol yn yr awyr agored, neu hyd yn oed osgoi mynd allan yn gyfan gwbl. Roedd llawer yn argymell defnyddio masgiau wyneb hefyd.
Mae gan y gwahanol wledydd eu mynegeion ansawdd aer eu hunain, sy'n cyfateb i wahanol safonau ansawdd aer cenedlaethol.
Trosolwg
Er mwyn cyfrifo'r AQI mae angen crynodiad llygrydd aer dros gyfnod cyfartalog penodol, a gwneir hyn drwy fonitor aer neu fodelu. Gyda'i gilydd, mae crynodiad ac amser yn cynrychioli dos y llygrydd aer. Mae effeithiau iechyd sy'n cyfateb i ddos penodol yn cael eu sefydlu gan ymchwil epidemiolegol.[4] Mae llygryddion aer yn amrywio o ran cryfder, ac mae'r swyddogaeth a ddefnyddir i drawsnewid o grynodiad llygrydd aer i AQI yn amrywio yn ôl y llygrydd.
Gall yr AQI gynyddu oherwydd cynnydd mewn allyriadau i'r aer. Er enghraifft, yn ystod traffig oriau brig neu pan fydd tân coedwig neu oherwydd diffyg gwanhau llygryddion aer. Mae aer llonydd, a achosir yn aml gan antiseiclon, gwrthdroad tymheredd, neu gyflymder gwynt isel yn gadael i lygredd aer aros mewn un ardal leol, gan arwain at grynodiadau uchel o lygryddion, adweithiau cemegol rhwng halogion aer ac amodau niwlog neu fwrllwch.[5]
Yn ystod cyfnod o ansawdd aer gwael iawn, megis digwyddiad o lygredd aer, pan fo’r AQI yn nodi y gallai amlygiad acíwt achosi niwed sylweddol i iechyd y cyhoedd, gall asiantaethau ddefnyddio cynlluniau brys sy’n caniatáu iddynt archebu allyrwyr mawr (fel diwydiannau llosgi glo) cwtogi ar allyriadau nes bydd yr amodau peryglus yn lleihau.
Nid oes gan y rhan fwyaf o halogion aer AQI cysylltiedig. Mae llawer o wledydd yn monitro'r osôn ar lefel y ddaear, gronynnau, sylffwr deuocsid, carbon monocsid a nitrogen deuocsid, ac yn cyfrifo mynegeion ansawdd aer ar gyfer y llygryddion hyn.[6]
Ewrop
Mae'r Mynegai Ansawdd Aer Cyffredin (CAQI) yn fynegai ansawdd aer a ddefnyddiwyd yn Ewrop ers 2006. Yn Nhachwedd 2017, cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd Fynegai Ansawdd Aer Ewrop (EAQI) a dechreuodd annog ei ddefnyddio ar wefannau ac ar gyfer ffyrdd eraill o hysbysu'r cyhoedd am ansawdd aer.
Gwledydd Prydain
Y mynegai ansawdd aer a ddefnyddir amlaf yn y DU yw'r Mynegai Ansawdd Aer Dyddiol a argymhellir gan y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer (COMEAP).[7] Mae gan y mynegai hwn ddeg pwynt, sy'n cael eu grwpio ymhellach yn bedwar band: isel, cymedrol, uchel ac uchel iawn. Mae pob un o’r bandiau’n dod â chyngor ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl a’r boblogaeth yn gyffredinol.[8]
Cymru
Gellir canfod ansawdd aer yng Nghymru drwy ddefnyddio map ar wefan Llywodraeth yn fama a cheir adroddiad gan bob sir hefyd ar eu gwefan.