Nagarjuna

Athronydd Bwdhaidd oedd Nāgārjuna (tua 150 – tua 250 OC). Ystyrir ef yn un o'r athronwyr Bwdhaidd pwysicaf a hefyd mai ef, gyda'i ddisgybl Āryadeva, a sefydlodd ysgol Madhyamaka Bwdhaeth Mahāyāna.[1] Nāgārjuna a gaiff y clod am ddatblygu athroniaeth swtrâu Prajñāpāramitā a, gan rai, am ddatgelu'r ysgrythurau hyn i'r byd wedi iddo eu hachub gan y nāgas, ysbrydion dŵr a ddarlunir fel arfer fel dynion sarffaidd. Ar ben hynny, credir yn draddodiadol i Nāgārjuna ysgrifennu sawl traethawd ar bwnc rasayana yn ogystal â threulio tymor fel pennaeth mynachlog Nālandā.[2]

Nagarjuna
Ganwydc. 150 Edit this on Wikidata
South India Edit this on Wikidata
Bu farwc. 250 Edit this on Wikidata
India Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Nalanda Mahavihara Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, Bhikkhu, casglwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd2 g Edit this on Wikidata
SwyddZen Patriarch Edit this on Wikidata

Hanes

Ychydig iawn a wyddys yn bendant am fywyd Nāgārjuna oherwydd i'r hanesion amdano gael eu hysgrifennu yn Tsieineeg[3] a Thibeteg ganrifoedd wedi iddo farw. Yn ôl rhai, roedd Nāgārjuna yn enedigol o Dde India.[4] Cred rhai ysgolheigion mai cynghorwr i un o frenhinoedd Satavahana oedd Nāgārjuna. Os yw hyn yn wir, dengys tystiolaeth archaeolegol yn Amarāvatī ei bod yn bosibl mai Yajña Śrī Śātakarṇi oedd y brenin hwn, a deyrnasai rhwng 167 a 196 OC. Ar sail hyn, rhoddir y dyddiadau 150–250 OC i Nāgārjuna fel arfer.

Yn ôl bywgraffiad o'r 4ydd a'r 5g wedi ei gyfieithu gan Kumārajīva, ganwyd Nāgārjuna i mewn i deulu Brahmin[5] yn Vidarbha,[6][7][8] ardal ym Maharashtra, a daeth yn Fwdhydd yn nes ymlaen yn ei fywyd.

Honna rhai ffynonellau fod Nāgārjuna yn byw ar fynydd Śrīparvata ger y ddinas a elwid yn Nāgārjunakoṇḍa ("Bryn Nāgārjuna") ar ddiwedd ei oes[9] ac mae adfeilion Nāgārjunakoṇḍa yn rhanbarth Guntur, Andhra Pradesh, heddiw. Gwyddys bod gan ysgolion Caitika a Bahuśrutīya fynachlogydd yn Nāgārjunakoṇḍa[9] ond nid yw'r darganfyddiadau archaeolegol yno wedi dangos unrhyw dystiolaeth bod gan y safle gysylltiad â Nāgārjuna ei hun. Daw'r enw "Nāgārjunakoṇḍa" o'r Oesoedd Canol, ac mae'r arysgrifau o'r 3g a'r 4g yno yn egluro iddo gael ei alw'n Vijayapuri yn yr Oes Hynafol.[10]

Cyfeiriadau