Organyn

Rhannau hanfodol, microsgopig, o gelloedd byw yw organynnau (hefyd: organelle) [1]. Amgylchynir y rhan fwyaf o'r organyn gan bilen ffosffolipid; ond gelwir strwythurau eraill, megis y ribosom, hefyd yn organynnau. Bathwyd y term gan ei fod yn creu syniad cyfochrog o organau'r corff dynol, felly hefyd yr organyn i'r gell.

Mewn celloedd Ewcaryotig mae nifer o'r organynnau pilen (reticwlwm endoplasmig, y cnewyllyn, cyfarpar Golgi, y lysosom, y wacyn (mewn planhigion), y bilen blasma a mân fesiclau eraill) yn rhan o un gyfundrefn, cyd cysylltiol, Endobilen. Nid yw'r gyfundrefn endobilen yn cynnwys y mitocondrion na'r cloroplast. Dengys tystiolaeth bod yr organynnau annibynnol hyn yn tarddu o baleo-endo-symbiotau, sef cyfuniad o gelloedd Procaryotig.[2]

Cyfeiriadau