Proxima Centauri b

Planed allheulol yw Proxima Centauri b (gelwir hefyd yn Proxima b[1][2]) sy'n cylchdroi o fewn parth trigiadwy'r seren corrach coch Proxima Centauri, y seren agosaf i'r Haul. Mae wedi ei leoli tua 4.25 blwyddyn golau (1.3 parsec, neu 40,140,000,000,000 km) i ffwrdd o'r Ddaear yng nghytser Centaurus. Hwn yw'r blaned allheulol agosaf i Gysawd yr Haul, yn ogystal â'r allblaned agosaf rydym yn gwybod amdano a allai gynnal bywyd.

Proxima Centauri b
Enghraifft o'r canlynolplaned allheulol Edit this on Wikidata
Màs0.00337 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod24 Awst 2016 Edit this on Wikidata
CytserCentaurus Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.02 +0.04 -0.02 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)768.5004 ±0.2 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun artist o dirlun Proxima Centauri b, wedi ei bortreadu fel planed debyg i'r Ddaear

Darganfuwyd y blaned gan dîm wedi ei arwain gan Guillem Anglada-Escudé o Queen Mary, Prifysgol Llundain a cyhoeddwyd y darganfyddiad yng nghylchgrawn Nature ar 24 Awst 2016.[3][4][5]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.