Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān
Plaid wleidyddol a mudiad chwyldroadol parafilwrol Iranaidd mewn alltudiaeth sy'n credu mewn sosialaeth Islamaidd yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān (Perseg سازمان مجاهدين خلق ايران "Mujahedin y Bobl Iran"), a adwaenir hefyd fel y PMOI (People's Mojahedin of Iran) neu'r MEK neu MKO. Ei nod yw dymchwel llywodraeth bresennol Iran. Ei arweinydd yw Maryam Rajavi, aSeddigheh Hosseini yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol. Lleolir ei phencadlys yn Ashraf, de Irac. Cyfeirir at y mudiad yn aml fel "(Mojahedin-e) Khalq".
Enghraifft o'r canlynol | terrorist organization, plaid wleidyddol, mudiad gerila, private army, carfan bwyso, Intelligence gathering network, troll farm, Cwlt |
---|---|
Idioleg | Islamic socialism |
Label brodorol | سازمان مجاهدين خلق ايران |
Dechrau/Sefydlu | 5 Medi 1965 |
Pencadlys | Auvers-sur-Oise, Ashraf-3, Camp Liberty, Dinas Ashraf |
Enw brodorol | سازمان مجاهدين خلق ايران |
Gwladwriaeth | Iran |
Gwefan | http://www.mojahedin.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y PMOI yn 1965 i ymladd yn erbyn llywodraeth y Shah Mohammad Reza Pahlavi, cyfalafiaeth, ac imperialaeth Orllewinol.[1] Rhoddodd y mudiad orau i ymgyrchu arfog yn swyddogol yn 2001[2] ac erbyn heddiw y PMOI yw'r prif fudiad yng Nghyngor Cenedlaethol Gwrthsafiad Iran (National Council of Resistance of Iran: NCRI), mudiad ymbarel neu senedd-mewn-alltudiaeth sy'n honni gweithio am sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, seciwlar yn Iran. Mae gan/bu gan y PMOI asgell arfog o'r enw Byddin Rhyddhau Iran (National Liberation Army of Iran NLA). Cyfeiria llywodraeth Iran at y PMOI a'i cyngreiriaid fel Monafeqin (yn llythrennol, "Rhagrithwyr") yn hytrach na "Mojahedin", gan faentumio nad ydynt yn blaid Islamaidd mewn gwirionedd.[3]
Ond yn ôl yr Unol Daleithiau, Canada, Irac, y DU, ac Iran, a'r Undeb Ewropeaidd, mae'r NCRI yn ffrynt yn unig i weithgareddau terfysgol y PMOI[4] ac felly mae'r PMOI yn fudiad terfysgol[5] Rhoddodd y PMOI a'r NCRI wybodaeth am raglen niwclear llywodraeth Iran yn 2002 a 2008 sydd wedi poeni rhai o wledydd y Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Perseg) (Saesneg) Gwefan swyddogol y PMOI Archifwyd 2008-04-18 yn y Peiriant Wayback.