SpaceX
Mae'r Space Exploration Technologies Corporation, neu SpaceX, yn gwmni awyrofod a chludiant a sefydlwyd gan Elon Musk yn 2002 er mwyn gwladychu planed Mawrth drwy ddatblygu rocedi a thechnoleg newydd. Sefydlwyd pencadlys SpaceX yn Hawthorne, Califfornia. Mae'r cwmni'n cynhyrchu'r Falcon 9, y Falcon Heavy, a cherbydau lansio Starship, sawl injan roced, llong ofod Cargo Dragon a Crew Dragon, a lloerennau cyfathrebu Starlink.
Falcon 9 yn 2016 | |
Enghraifft o'r canlynol | diwydiant awyrofod, launch service provider |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 14 Mawrth 2002 |
Perchennog | Elon Musk |
Prif weithredwr | Elon Musk |
Sylfaenydd | Elon Musk |
Gweithwyr | 12,000 |
Ffurf gyfreithiol | Delaware corporation |
Cynnyrch | autonomous spaceport drone ship, Draco, Dragon SpaceX, Falcon, Kestrel, Merlin, Octagrabber, Raptor, Starhopper, SuperDraco |
Pencadlys | Hawthorne |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://spacex.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym Mai 2012, yn dilyn lansiad llwyddiannus y Dragon cyntaf i'r orsaf (heb griw), dechreuodd NASA dalu am ei defnyddio er mwyn cludo deunyddiau i'r Orsaf Ofod Rhyngwladol.[1]
Llwyddodd SpaceX i danio roced a yrrwyd gan danwydd allan o afael y ddaear ac i'r gofod (Falcon 1 in 2008), ac yn ei ôl yn gyfan (Dragon yn 2010).[2]. Dyma'r tro cyntaf i rocedi preifat gwbwlhau'r campau hyn yn llwyddiannus. SpaceX hefyd yw'r unig gwmni preifat hyd yma (2018) i yrru roced i'r Orsaf Ofod Ryngwladol (Dragon yn 2012)[3] a hyd at 2018 roedd wedi gwneud hynny ddeg o weithiau ar gytundeb masnachol gyda NASA.[4].Rhoddodd NASA gytundeb arall i SpaceX yn 2011 - i gludo pobl i'r orsaf a'u dychwelyd yn ddiogel i'r Ddaear. [5]