Treialon Nuremberg

Treialon Nuremberg neu Brofion Nuremberg yw'r enw a ddefnyddir am nifer o achosion llys a gafodd eu dwyn gan lywodraethau yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn erbyn arweinwyr y llywodraeth Natsiaidd yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd y profion yn ninas Nuremberg yn yr Almaen rhwng 1945 y 1949. Y prif brawf oedd yr un a ddechreuodd ar 20 Tachwedd 1945, yn erbyn y prif arweinwyr. Nid oedd y diffinyddion yn cynnwys yr arweinwyr oedd wedi eu lladd eu hunain i osgoi cael ei dal, megis Adolf Hitler ei hun, Heinrich Himmler, Joseph Goebbels ac eraill, ond rhoddwyd Martin Bormann ar ei brawf yn ei absenoldeb, gan nad oedd sicrwydd a oedd wedi ei ladd neu wedi dianc. Rhoddwyd 24 o bobl ar eu prawf yn yr achos hwn.

Treialon Nuremberg
Delwedd:Defendants in the dock at nuremberg trials.jpg, Nuremberg Trials. Looking down on defendants dock, circa 1945-1946. - NARA - 540127.jpg
Enghraifft o'r canlynolwar crimes trial Edit this on Wikidata
Mathtrial Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Olynwyd gansubsequent Nuremberg trials Edit this on Wikidata
LleoliadPalace of Justice Edit this on Wikidata
Map
Gwefanhttp://museen.nuernberg.de/memorium-nuernberger-prozesse/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y cyhuddedig ym mhrif brawf Nuremberg. Ar y chwith: Hermann Goering, Rudolf Hess, Joachim von Ribbentrop, Wilhelm Keitel. Ar y dde: Karl Doenitz, Erich Raeder, Baldur von Schirach a Fritz Sauckel.

Y cyhuddiadau

Roedd pedwar cyhuddiad, er na chyhuddwyd pob un o'r diffinyddion o bob un o'r pedwar:

  1. Troseddau rhyfel
  2. Troseddau yn erbyn dynoliaeth
  3. Hil-laddiad
  4. Rhyfel ymosodol


Y cyhuddedig a'r dedfrydau

EnwSwyddDedfryd
Martin BormannOlynydd Hess fel Ysgrifennydd y Blaid NatsiaiddMarwolaeth (yn ei absenoldeb)
Hans FrankLlywodraethwr Gwlad PwylMarwolaeth
Wilhelm FrickGweinidog CartrefMarwolaeth
Hermann GöringPennaeth y Luftwaffe ac arlywydd y ReichstagMarwolaeth
Alfred JodlPennaeth Gweithrediadau y WehrmachtMarwolaeth
Ernst KaltenbrunnerPennaeth yr RSHA a'r einsatzgruppenMarwolaeth
Wilhelm KeitelPennaeth y WehrmachtMarwolaeth
Joachim von RibbentropGweinidog TramorMarwolaeth
Alfred RosenbergIdeolegydd hiliaethMarwolaeth
Fritz SauckelPennaeth y rhaglen gweithwyr dan orfodMarwolaeth
Arthur Seyss-InquartLlywodraethwy yr IseldiroeddMarwolaeth
Julius StreicherGolygydd y cylchgrawn gwrth-semitig Der StürmerMarwolaeth
Walter FunkGweinidog EconomaiddCarchar am oes
Rudolf HessDirprwy HitlerCarchar am oes
Erich RaederPennaeth y llyngesCarchar am oes
Albert SpeerGweinidog Arfogaeth20 mlynedd
Baldur von SchirachPennaeth Ieuenctid Hitler20 mlynedd
Konstantin von NeurathLlywodraethwr Bohemia a Morafia15 mlynedd
Karl DönitzPennaeth y llynges, olynydd Hitler10 mlynedd
Hans FritzscheDirprwy Joseph Goebbels yn y Weinyddiaeth BropagandaDieuog
Franz von PapenIs-ganghellorDieuog
Hjalmar SchachtCyn-bennaeth y ReichsbankDieuog
Gustav KruppDiwydiannyddDim yn gymwys i'r roi ar ei brawf
Robert LeyPennaeth y Corfflu GwaithLladdodd ei hun yn ystod yr achos