Twristiaeth

Teithio er difyrrwch, hamdden neu fusnes yw twristiaeth. Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd yn diffinio "twrist" fel person "sy'n teithio i ac yn aros mewn lleoedd y tu allan i'w amgylchedd arferol am un flwyddyn neu lai er hamdden, busnes neu resymau eraill".[1] Mae twristiaeth yn weithred boblogaidd ar draws y byd. Yn 2011, roedd mwy na 983 miliwn o dwristiaid rhyngwladol, twf o 4.6% ar 2010 (940 miliwn).[2][3]

Mae twristiaeth yn bwysig, weithiau'n hanfodol i nifer o wledydd. Yn ôl Datganiad Manila ar Dwristiaeth Byd-eang (1980), mae twristiaeth yn "weithred sy'n hanfodol i fywyd cenhedloedd o ganlyniad i'w heffeithiau uniongyrchol ar sectorau cymdeithasol, diwylliannol, addysgol, ac economaidd cymdeithasau cenedlaethol ac ar eu cysylltiadau rhyngwladol".[1][4] Cynhyrcha twristiaeth incwm wrth i unigolion dalu am nwyddau a gwasanaethau, sy'n cyfrif am fwy na 30% o allforion gwasanaethau'r byd, a 6% o holl allforion nwyddau a gwasanaethau.[2] Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn creu swyddi yn y sector wasanaethau,[3] mewn cludiant, llety, ac adloniant.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd