Volkswagen

isgwmni Volkswagen Group

Gwneuthurwr ceir o'r Almaen yw Volkswagen, (VW; ynganiad Almaeneg: [ˈfɔlks.vaːɡən]) sydd a'i bencadlys yn Wolfsburg, Yr Almaen ac a sefydlwyd yn 1937. Volkswagen yw cwmni craidd Grŵp Volkswagen (a sefydlwyd yn 1975) ac a oedd yn Awst 2015 yr ail gwneuthurwr ceir mwyaf yn y byd, ar ôl Toyota.[1] Yn 2012 roedd proffid y cwmni'n 21.7 biliwn. Ymhlith y ceir a werthir gan Grŵp Volkswagen mae: Audi, Bentley, Bugatti, Lamborghini, Porsche, SEAT, Škoda yn ogystal â'u brand (VW) eu hunain.

VolksWagen
Math
cynhyrchydd cerbydau
Math o fusnes
Aktiengesellschaft
Diwydiantdiwydiant ceir
Sefydlwyd28 Mai 1937
PencadlysWolfsburg
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
CynnyrchVolkswagen Golf
Refeniw279,232,000,000 Ewro (2022)
Incwm gweithredol
22,124,000,000 Ewro (2022)
Rhiant-gwmni
Volkswagen AG
Gwefanhttps://www.vw.com/, https://www.volkswagen.de/, https://www.volkswagen.com/, https://www.volkswagen.ru/ Edit this on Wikidata

Mae'r enw'n golygu "car y bobl" mewn Almaeneg, hen arwyddair y cwmni oedd "Aus Liebe zum Automobil" sef cyfieithiad o: "am gariad tuag at y car", slogan newydd y cwmni ydy "Volkswagen - Das Auto" sef "Volkswagen - y Car".

Yn Awst 2015 roedd gan VW dri char yn y rhestr 10-gorau'r byd erioed, yn ôl y wefan 24/7 Wall St. sef: Golf, Volkswagen Beetle, a'r Volkswagen Passat.

Hanes a cheir

Hyd at 1937 roedd ceir y byd yn eitemau drud iawn a dim ond y cyfoethog oedd yn medru eu fforddio; un Almaenwr o bob 50 oedd yn medru fforddio car. Newidiodd hyn pan awgrymodd Hitler y dylid creu ceir fforddiadwy, a datblywgyd y Volkswagen Käfer (neu'r 'chwilen') gan Erwin Komenda, un o weithwyr Porche. Yn 2015 roedd y Chwilen yn dal i gael ei werthu gan y cwmni. Cychwynwyd eu cynhyrchu yn 1938 yn Wolfsburg, ond ataliwyd y gwaith pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel, dan arweiniad un o swyddogion y fyddin Brydeinig, Ivan Hirst, cynhyrchwyd 20,000 Chwilen i bersonel y fyddin. Erbyn 1946, roedd y ffatri'n cynhyrchu 1,000 o geir y mis. Newidiwyd enw'r car i "Volkswagen" ac enw'r dref i "Wolfsburg".

prototeip o'r W30; cynlluniwyd gan Porsche. 1937.
Y "Kraft-durch-Freude-Wagen" ("Cryfder Drwy Hapusrwydd"); car teulu. 1938
Volkswagen Schwimmwagen a gynhyrwchyd yn ystod y Rhyfel. 1942–44.
Math 1, diwedd y Rhyfel, dechrau'r "Beetle". 1945.
Volkswagen Karmann Ghia. 1955–1974.
Rhai o'r ceir cynnar a gynhyrchwyd gan Volkswagen dros y blynyddoedd 1937-1955.

Cynigwyd trosglwyddo'r cwmni am ddim i gynhyrchwyr ceir Americanaidd (Ford) a Phrydeinig (Rootes) ond troi eu trwyn wnaethant gan ddweud fod y Chwilen yn gar hyll. Cymerwyd y ffatri drosodd gan Lywodraeth yr Almaen dan reolaeth Heinrich Nordhoff un o weithwyr Opel. Aethpwyd ati i ddylunio cerbyd mwy a adnabyddwyd yn swyddogol fel y 'Transporter', 'Kombi' neu 'Microbus'; yng ngwledydd Prydain, galwyd ef yn 'Camper' a daeth y cyntaf allan o'r ffatri yn 1950.

Twyll allyriad tocsig ceir diesel

Ym Medi 2015 ymddiheurodd Martin Winterkor, Cadeirydd Volkswagen am dwyll gan y cwmni a oedd yn effeithio dros 11 miliwn o'u ceir.[2] Daeth y cyhuddiad yn wreiddiol gan Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchfyd Unol Daleithiau America ar 18 o Fedi, fod y cwmni wedi gosod meddalwedd o fewn yr Uned Reoli a oedd yn lleihau'r allyriad o NOx (mono-nitrogen ocsid NO a NO2) yn ystod profion dan reolaeth.[3] Ar deithiau arferol, roedd y ceir yn allyru hyd at 40 gwaith yn fwy nag a ganiateir gan ddeddfau UDA ac Ewrop.[4] Ar ddiwrnod cynta rhyddhau'r cyhuddiad hwn, dirywiodd bris cyfranddaliadau'r cmwni 20%.[5]

Yn ystod yr wythnosau dilynol profwyd ceir eraill a sylweddolwyd fod ceir sawl cwmni arall yn allyru nwyon tocsig i'r amgylchedd. Yn Leeds profodd Uned Astudiaethau Cludiant y Brifysgol bedwar car a gwelwyd fod allyriant y ceir hyn hefyd llawer uwch na chyfyngiad y Comisiwn Ewropeaidd. Mewn cymhariaeth, roedd car Golf VW sawl gwaith uwch na'r cyfyngiad hwn o 0.08 gram o NOx y cilometr (km).

CwmniLogoNOx y cilometr (km)Sawl gwaith dros y cyfyngiad Ewropeaidd?
Mercedes-Benz 0.425.3 gwaith mwy
BMW 0.455.6 gwaith mwy
Mazda 0.496.1 gwaith mwy
Ford 0.546.8 gwaith mwy

Ceir cyfredol Volkswagen

Ewrop

  • Volkswagen Caddy
  • Volkswagen Eos
  • Volkswagen Fox
  • Volkswagen Golf Mk6
  • Volkswagen Golf Mk5
  • Volkswagen Golf Mk5
  • Volkswagen Jetta
  • Volkswagen Multivan
  • Volkswagen New Beetle
  • Volkswagen New Beetle
  • Volkswagen Passat]
  • Volkswagen Passat CC
  • Volkswagen Phaeton
  • Volkswagen Polo
  • Volkswagen Scirocco
  • Volkswagen Sharan
  • Volkswagen Touran
  • Volkswagen Tiguan
  • Volkswagen Touareg
  • Volkswagen Routan

Cyfeiriadau