Y Ddinas Waharddedig

Cyfadeilad palasaidd yng nghanol Beijing yn Tsieina yw'r Ddinas Waharddiedig (Tsieineeg: 故宫; pinyin: Gùgōng). Roedd yn balas imperialaidd Tseiniaidd o gyfnod brenhinlin Ming hyd ddiwedd brenhinlin Qing (1420 i 1912). Mae bellach yn gartref i Amgueddfa'r Palas. Bu'r Ddinas Wahardiedig yn gartref i ymerawdwyr a'u teuluoedd yn ogystal â chanolfan seremonïol a gwleidyddol llywodraeth Tsieina am bron i 500 mlynedd.

Gât Shenwumen, Y Ddinas Waharddiedig, Beijing

Wedi'i adeiladu rhwng 1406 a 1420, mae'r cyfadeilad yn cynnwys 980 o adeiladau[1] ac mae'n gorchuddio 72 hectar (dros 180 erw).[2][3] Mae'r palas yn enghraifft o bensaernïaeth Tsieineaidd draddodiadol,[4] ac mae wedi dylanwadu ar ddatblygiadau diwylliannol a phensaernïol yn Nwyrain Asia a mannau eraill. Cyhoeddwyd y Ddinas Waharddedig yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1987,[4] ac mae wedi ei rhestru gan UNESCO fel y casgliad mwyaf yn y byd o strwythurau pren hynafol sydd dan gadwraeth.

Mae'r Ddinas Waharddedig wedi bod dan ofal Amgueddfa'r Palas ers 1925. Mae ei chasgliad helaeth o waith celf ac arteffactau yn seiliedig ar gasgliadau imperialaidd y brenhinlinau Ming a Qing. Mae rhan o hen gasgliad yr amgueddfa bellach yn Amgueddfa Genedlaethol y Palas yn Taipei. Daw'r ddwy amgueddfa o'r un sefydliad, ond fe'u rhannwyd ar ôl Rhyfel Cartref Tsieina. Ers 2012, mae'r Ddinas Waharddedig wedi croesawu 15 miliwn o ymwelwyr ar gyfartaledd bob blwyddyn, a chafodd dros 16 miliwn o ymwelwyr yn 2016 [5] a 2017.

Mae'r enw "Y Ddinas Waharddedig" yn gyfieithiad o'r enw Tsieineaidd Zijin Cheng (Tsieineeg: ; pinyin: Zǐjìnchéng). Ymddangosodd yr enw Zijin Cheng yn ffurfiol yn 1576.[6] Mae'r enw yn yr iaith wreiddiol yn golygu, yn llythrennol, 'Y Ddinas Waharddedig Borffor'. Mae'r 'porffor' yn cyfeirio at Seren y Gogledd, cartref nefol yr Ymerawdwr Nefol mewn astroleg Tsieiniaidd. Y Ddinas Waharddedig oedd cartref yr ymerawdwr daearol. Roedd yn 'waharddedig' am nad oedd unrhyw un yn cael dod i mewn na gadael heb ganiatâd yr ymerawdwr.

Heddiw, mae'r safle yn cael ei adnabod mewn Tsieinëeg fel Gùgōng ( ), sy'n golygu y "Palas [yn y dyddiau] gynt".[7]

Cyfeiriadau