UNESCO

Asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig yw Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (Saesneg: United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization, Ffrangeg: L'Organisation des Nations unies pour l’éducation, la science et la culture) neu UNESCO. Sefydlwyd ym 1946 er mwyn gwella cydweithrediad rhyngwladol. Mae'r pencadlys ym Mharis, Ffrainc, ac mae 195 o wledydd yn aelod o UNESCO.

UNESCO
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl, sefydliad rhyngwladol, sefydliad rhynglywodraethol, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata
Prif bwnclifestance organisation Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifUniversity of Maryland Libraries Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadDirector-General of UNESCO Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddInternational Committee on Intellectual Cooperation Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolGlobal Citizen Science Partnership Edit this on Wikidata
Isgwmni/auUNESCO Chair on Cyberspace and Culture, Scientific Committee on Problems of the Environment, UNESCO Institute for Statistics, Iranian National Commission for UNESCO, Hylean Amazon Institute Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadY Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
PencadlysParis Edit this on Wikidata
Enw brodorolUnited Nations Educational, Scientific and Cultural Organization Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://en.unesco.org, https://fr.unesco.org, https://es.unesco.org, https://ru.unesco.org, https://ar.unesco.org, https://zh.unesco.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o amcanion UNESCO yw cynnal rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r safleoedd hyn yn bwysig yn hanesyddol; yn naturiol y cred y gymuned byd-eang bod eu amddiffyn yn bwysig.

Y wladwriaeth ddiweddaraf i ymuno â hi yw Palesteina yn Nhachwedd 2011.[1]

Gweithgareddau

Swyddfeydd UNESCO yn Brasília

Mae UNESCO yn rhoi ei gynlluniau ar waith trwy rhaglen sy'n cynnwys y meysydd canlynol:

  • Addysg
  • Gwyddorau naturiol
  • Gwyddorau cymdeithasol a dynol
  • Diwylliant
  • Cyfathrebu a gwybodaeth
  • Mae UNESCO hefyd yn rhyddhau 'datganiadau' cyhoeddus er mwyn addysgu'r cyhoedd:
    • Datganiad Seville ar Drais: Datganiad a fabwysiadwyd gan UNESCO ym 1989 er mwyn gwrthbrofi'r syniad bod gan bobl dueddiad biolegol cynhenid i ryfela.
  • Dynodi prosiectau a llefydd o arwyddocâd diwylliannol a gwyddonol, megis:
  • Annog llif syniadau trwy ddelweddau a geiriau
  • Hybu digwyddiadau, megis:
    • Degawd Rhyngwladol er mwyn Annog Diwylliant Heddwch a Di-dreisedd ar gyfer Plant y Byd: 2001–2010
    • Diwrnod Rhyddid Gwasg y Byd, Mai'r 3ydd pob blwyddyn, er mwyn hybu rhyddid mynegiant a rhyddid y wasg fel hawl dynol ac elfennau creiddiol unrhyw gymdeithas iach, ddemocrataidd, rydd.
    • Criança Esperança ym Mrasil, trwy bartneriaeth gyda Rede Globo, er mwyn codi pres tuag at brosiectau cymunedol sy'n hybu cyfannu cymdeithasol ac atal trais.
    • Diwrnod Llythrennedd y Byd
    • Blwyddyn Ryngwladol dros Ddiwylliant Heddwch
  • Sefydlu ac ariannu prosiectau

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.