Ymosodiadau 11 Medi 2001

ymosodiadau terfysgol yn Unol Daleithiau America

Cyfres o bedwar cyrch terfysgol ar yr Unol Daleithiau oedd ymosodiadau 11 Medi 2001 (9:11). Fore Mawrth, 11 Medi 2001, meddiannodd 19 o aelodau al-Qaeda,[1][2][3] grŵp terfysgol Islamaidd, bedair awyren fasnachol – trawodd dwy ohonynt i mewn i Dŵr y Gogledd a Thŵr y De yng Nghanolfan Fasnach y Byd yn Efrog Newydd, un arall i mewn i'r Pentagon yn Swydd Arlington, Virginia a syrthiodd y llall ar gae yn Swydd Somerset ym Mhennsylvania. Bu farw tua 3,000 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys yr herwgipwyr. Cafodd 25,000 eu hanafu, ac achoswyd problemau iechyd hirdymor, yn ogystal â’r gost ariannol, gydag o leiaf $10 biliwn o ddifrod yn cael ei achosi i eiddo ac adeiladau.[4][5] Yr ymosodiad terfysgol hwn oedd yr ymosodiad mwyaf angheuol yn hanes dynoliaeth a’r digwyddiad mwyaf angheuol yn hanes y gwasanaethau brys, gyda 343 o ddynion tân a 72 o blismyn yn cael eu lladd.[6]

Ymosodiadau 11 Medi 2001
Enghraifft o'r canlynolherwgipio cerbyd awyr, llofruddiaeth torfol, ymosodiad terfysgol, ymosodiad gan hunanfomiwr Edit this on Wikidata
Dyddiad11 Medi 2001 Edit this on Wikidata
Lladdwyd2,996 Edit this on Wikidata
Rhan oterfysgaeth yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan1993 World Trade Center bombing Edit this on Wikidata
LleoliadArlington County, Manhattan, Shanksville, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAmerican Airlines Flight 11, United Airlines Flight 175, American Airlines Flight 77, United Airlines Flight 93 Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Herwgipiwyd pedair awyren teithwyr gan 19 o derfysgwyr al-Qaeda wedi iddynt adael meysydd awyr yng ngogledd-ddwyrain UDA ar eu taith draw i Galiffornia. Trawodd dwy o’r awyrennau, American Airlines Flight 11 ac United Airlines Flight 175, i mewn i dyrau Gogledd a De Canolfan Fasnach y Byd, oedd wedi ei lleoli yn rhan isaf Manhattan, Efrog Newydd. Cwympodd y ddau ddŵr, ill dau yn cynnwys 110 o loriau yr un, mewn 1 awr a 42 munud. Hedfanodd trydedd awyren, American Airlines Flight 77, i mewn i adeilad y Pentagon (pencadlys Adran Amddiffyn UDA) yn Swydd Arlington, Virginia. Roedd pedwaredd awyren, United Airlines Flight 93, yn hedfan tuag at Washington D.C, ond disgynnodd mewn cae yn Stoneycreek Township, Pennsylvania wedi i'r teithwyr geisio adennill rheolaeth ar yr awyren oddi ar yr herwgipwyr.

Ymateb yr Unol Daleithiau oedd dechrau "Rhyfel ar Derfysgaeth" gan oresgyn Affganistan i geisio diorseddu'r Taleban a oedd wedi rhoi lloches i derfysgwyr al-Qaeda, y mudiad y credwyd ei fod yn gyfrifol am yr ymosodiad. Roedd bwriad hefyd i estraddodi arweinydd al-Qaeda, sef Osama bin Laden. Mabwysiadodd llawer o wledydd ddeddfwriaeth wrth-derfysg a defnyddio gwasanaethau cudd er mwyn atal ymosodiadau terfysgol pellach. Er bod bin Laden wedi gwadu ar y cychwyn bod ganddo unrhyw gysylltiad â’r ymosodiadau, cyfaddefodd yn 2004 ei gyfrifoldeb a’i rôl yn yr ymosodiadau.[7] Dywedodd al-Qaeda a bin Laden mai presenoldeb milwyr UDA yn Sawdi Arabia, cefnogaeth UDA i Israel a sancsiynau yn erbyn Irac oedd y rhesymau pam lansiwyd yr ymosodiadau. Llwyddodd bin Laden i osgoi cael ei gipio am bron i ddegawd nes iddo gael ei ddarganfod ym Mhacistan yn 2011, a lladdwyd ef mewn cyrch milwrol gan UDA. Cafodd yr ymosodiadau effaith ddifrifol ar economi dinas Efrog Newydd ac ar farchnadoedd y byd. Bu ardal Wall Street ar gau tan 17 Medi a chaewyd gofod awyr UDA a Chanada tan 13 Medi oherwydd yr ofn y byddai ymosodiadau pellach yn digwydd. Erbyn Mai 2002, roedd y gwaith o glirio safle Canolfan Fasnach y Byd, a adnabuwyd erbyn hynny fel ‘Ground zero’, wedi cael ei gwblhau, a chafodd y gwaith o atgyweirio'r Pentagon ei gwblhau o fewn y flwyddyn. Dechreuwyd ailadeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd yn Nhachwedd 2006 ac agorwyd yr adeilad ym mis Tachwedd 2014.[8] Mae nifer o gofebion wedi eu hadeiladu yn Efrog Newydd, yn Virginia ac ym Mhennsylvania, i goffáu’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad.

Cefndir

Al-Qaeda

Mae modd olrhain gwreiddiau al-Qaeda i ymosodiad yr Undeb Sofietaidd ar Affganistan yn 1979. Teithiodd Osama bin Laden i Affganistan er mwyn helpu i drefnu’r mujahideen Arabaidd i wrthsefyll y Sofietiaid.[9] O dan arweinyddiaeth Ayman al-Zawahiri, trowyd bin Laden yn fwy radicalaidd[10] ac yn 1996, gorchmynnodd bin Laden ei fatwā cyntaf, gan alw ar filwyr America i adael Saudi Arabia.[11]

Yn ei ail fatwā, a gyhoeddodd yn 1998, dywedodd bin Laden ei fod yn gwrthwynebu polisi tramor UDA tuag at Israel a phresenoldeb milwyr Americanaidd yn Saudi Arabia ar ôl Rhyfel y Gwlff. Defnyddiai bin Laden destunau Mwslimaidd i ysgogi Mwslemiaid i ymosod ar Americaniaid, sef cynnal jihad neu ryfel sanctaidd, nes bod eu cwynion yn cael eu hateb.[12]

Osama bin Laden

Osama bin Laden yn 1997

Bin Laden oedd prif gynllunydd yr ymosodiadau, er iddo wadu yn y lle cyntaf, ond yna cyfaddefodd yn ddiweddarach bod ganddo law yn yr ymosodiadau terfysgol.[13][14] Dywedodd mewn cyfweliad â gorsaf ddarlledu Al Jazeera yn 2001 nad oedd cysylltiad rhyngddo â gweithredoedd terfysgol 9/11[15] ond dangosodd tystiolaeth fideo ddiweddarach fod ganddo wybodaeth am yr ymosodiadau.[16][17] Ond yn fuan cyn etholiadau arlywyddol UDA yn 2004 cyfaddefodd, mewn datganiad wedi ei dapio, bod al-Qaeda wedi chwarae rôl yn yr ymosodiadau a’i fod ef yn bersonol wedi chwarae rôl uniongyrchol wrth roi cyfarwyddyd i'w ddilynwyr i ymosod ar Ganolfan Fasnach y Byd a’r Pentagon.[18]

Er na wnaeth UDA erioed gyhuddo bin Laden o fod yn gyfrifol am ymosodiadau 9/11 roedd ar restr ‘Most Wanted’ yr FBI yn sgil y bomio terfysgol a ddigwyddodd yn Llysgenhadaeth UDA yn Dar es Salaam, Tansania ac yn Nairobi, Kenya.[19] Bu’r awdurdodau yn chwilio am tua 10 mlynedd, nes i Arlywydd America, Barack Obama, gyhoeddi bod bin Laden wedi cael ei ladd gan luoedd arbennig America yn ei guddfan yn Abbottabad, Pacistan, ar 1 Mai 2011.[20]

Khalid Sheikh Mohammed

Adroddwyd bod Khalid Sheikh Mohammed wedi cyfaddef yn Ebrill 2002 beth oedd ei ran yn yr ymosodiadau, ynghyd â Ramzi bin al-Shibh.[21][22] Dywedwyd yn Adroddiad Comisiwn 9/11, a gyhoeddwyd yn 2004, bod atgasedd Mohammed tuag at UDA yn deillio o’i ‘wrthwynebiad treisgar i bolisi tramor UDA oedd yn ffafrio Israel’. Roedd Mohammed hefyd wedi bod yn gynghorwr ac wedi cyllido ymosodiad Bomio Canolfan Fasnach y Byd yn 1993 ac roedd yn ewythr i Ramzi Yousef, prif fomiwr yr ymosodiad hwnnw.[23][24]

Cymhellion

Roedd cyhoeddiad bin Laden am ‘ryfel sanctaidd’ yn erbyn UDA a’r fatwā, a lofnodwyd gan bin Laden ac eraill yn 1998 yn galw am ladd Americaniaid, yn cael ei weld gan ymchwilwyr fel tystiolaeth o’r rhesymau pam lansiwyd yr ymosodiadau terfysgol. Yn ei ‘Lythyr i America’, yn Nhachwedd 2002, mae bin Laden yn amlinellu’n glir beth oedd rhesymau al-Qaeda am yr ymosodiadau:

  • Cefnogaeth UDA i Israel
  • Cefnogaeth i'r ‘ymosodiadau ar Fwslemiaid’ yn Somalia
  • Cefnogaeth i’r Philipinau yn erbyn Mwslemiaid yng ngwrthdaro Moro
  • Cefnogaeth i erledigaeth Israel yn erbyn Mwslemiaid yn Lebanon
  • Cefnogaeth i weithredoedd Rwsia yn erbyn Mwslemiaid yn Tsetsnia
  • Llywodraethau yn y Dwyrain Canol oedd yn ochri gydag America yn erbyn buddiannau Mwslemiaid
  • Cefnogaeth i ormes India yn erbyn Mwslemiaid yn Kashmir
  • Presenoldeb milwyr America yn Saudi Arabia
  • Sancsiynau yn erbyn Irac[25]

Cynllunio

Pensaer yr ymosodiadau oedd Khalid Sheikh Mohammed, a gyflwynodd y trefniadau a’r cynlluniau ymosod i Osama bin Laden yn 1996 yn y lle cyntaf.[26] Yn 1998, rhoddodd bin Laden sêl bendith i Mohammed fwrw ymlaen â threfnu’r ymosodiadau. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd yn gynnar yn 1999 rhwng Mohammed, bin Laden a dirprwy bin Laden, sef Mohammed Atef. Atef oedd yn darparu cymorth gweithredol, fel helpu i ddewis targedau’r ymosodiadau a helpu gyda threfniadau teithio'r herwgipwyr.

Diagram yn dangos yr ymosodiad ar Ganolfan Fasnach y Byd

Darparodd bin Laden arweinyddiaeth a chefnogaeth ariannol a chwaraeodd ran wrth ddewis yr unigolion a fyddai’n cyfrannu at yr ymosodiadau.[3] Tua diwedd 1999, daeth grŵp o ddynion o gell Hamburg yn yr Almaen i Affganistan. Roedd y grŵp yn cynnwys Mohammed Atta, Marwan al-Shehhi, Ziad Jarrah a Ramzi bin al-Shibh.[27] Dewisodd bin Laden y dynion hyn oherwydd eu bod yn addysgedig, yn medru siarad Saesneg ac wedi cael profiad o fyw yn y Gorllewin.[3] Byddai recriwtiaid newydd yn cael eu hasesu’n rheolaidd am sgiliau arbennig a sylweddolwyd yn fuan bod Hani Hanjour yn dal trwydded peilot masnachol yn barod. Dywedodd Mohammed yn ddiweddarach ei fod wedi helpu’r herwgipwyr i ymdoddi i gymdeithas y Gorllewin drwy ddysgu iddynt sut i archebu bwyd mewn bwytai a gwisgo dillad Gorllewinol. Roedd al-Qaeda wedi defnyddio rhwydwaith byd-eang wrth drefnu’r ymosodiadau – o Faleisia yn Asia, i UDA, i Hamburg yn yr Almaen i gysylltiadau yn Dubai yn y Dwyrain Canol.[26]

Cyrhaeddodd Hanjour San Diego ar 8 Rhagfyr 2000, gan ymuno â Nawaf al-Hazmi. Gadawodd y ddau yn fuan am Arizona, lle bu Hanjour ar gwrs gloywi fel peilot. Cyrhaeddodd Marwan al-Shehhi ddiwedd mis Mai 2000, tra cyrhaeddodd Atta a Jarrah ym Mehefin 2000. Gwrthodwyd cais bin al-Shibh am fisa i ddod i UDA sawl gwaith ac felly arhosodd yn Hamburg, yn cydlynu rhwng Atta a Mohammed. Cafodd aelodau cell Hamburg hyfforddiant peilotiaid yn Ne Fflorida gyda chwmni Huffman Aviation. Yng ngwanwyn 2001 dechreuodd yr ail reng o herwgipwyr gyrraedd UDA[28] Llwyddodd rhai o’r herwgipwyr i gael pasport gan swyddogion llygredig o Saudi oedd â chysylltiadau teuluol gyda nhw neu dderbyn pasport ffug er mwyn cael mynediad i America.

Damcaniaeth rhai yw bod y dyddiad 9/11 wedi cael ei ddewis oherwydd ei debygrwydd i rif argyfwng UDA, sef 9-1-1. Er hynny, dywed Lawrence Wright bod yr herwgipwyr wedi dewis y dyddiad oherwydd pwysigrwydd hanesyddol 11 Medi 1683. Dyma’r dyddiad pan wnaeth Brenin Gwlad Pwyl gychwyn brwydr a wnaeth wrthdroi byddinoedd Mwslimaidd yr Ymerodraeth Otomanaidd rhag cipio Fienna, Awstria. Yng ngolwg bin Laden, dyma’r dyddiad pan wnaeth y Gorllewin ennill y llaw uchaf dros dros Islam, a thrwy gynnal yr ymosodiadau ar y dyddiad hwn, roedd yn gobeithio y medrai Islam wneud cam pwysig yn y rhyfel i ennill dylanwad a phŵer byd-eang.[29]

Roedd yr NSA, y CIA a’r FBI yn ymwybodol ers diwedd 1999 bod trefniadau terfysgol yn cael eu cynllunio gan unigolion a oedd â chysylltiadau â mudiadau terfysgol.

Yr ymosodiadau

Y[dolen marw] Pentagon wedi i'r awyren ffrwydro ar ôl gwrthdaro â'r adeilad.

Am 8:46 y bore trawodd American Airlines Flight 11 a'r pum herwgipiwr ar yr awyren i mewn i ochr ogleddol Tŵr Gogledd Canolfan Fasnach y Byd (1 WTC). Am 9:03 y bore trawodd pum herwgipiwr arall ar awyren United Airlines Flight 175 i mewn i ochr ddeheuol Tŵr y De (2 WTC).

Hedfanodd pum herwgipiwr arall awyren American Airlines Flight 77 i mewn i’r Pentagon am 9:37 y bore. Disgynnodd pedwaredd awyren, United Airlines Flight 93, ger Shanksville, Pennsylvania, i'r de-ddwyrain o Pittsburgh, am 10:03, wedi i’r teithwyr ar yr awyren ymladd yn ôl yn erbyn y pedwar herwgipiwr. Targed tebygol yr awyren hon oedd naill ai’r Adeilad Capitol neu’r Tŷ Gwyn, yn Washington D.C, prifddinas yr UDA. Ceisiodd y teithwyr adennill rheolaeth o'r awyren oddi wrth yr herwgipwyr ar ôl iddynt glywed drwy alwadau ffôn bod Awyrennau 11, 77 a 175 wedi taro i mewn i adeiladau’r bore hwnnw. Unwaith y sylweddolodd yr herwgipwyr y medrent golli rheolaeth yr awyren, gwnaed penderfyniad bwriadol ganddynt i gwympo’r awyren.[30][31]

Defnyddiodd rhai teithwyr ac aelodau’r criw wasanaeth ffôn yr awyren i ddarparu manylion - er enghraifft, bod nifer o herwgipwyr ar fwrdd pob awyren; defnyddiwyd pastwn, nwy dagrau, neu chwistrelli pupur i ffrwyno cynorthwywyr yr awyren ac yn ôl rhai adroddiadau, roedd peilotiaid, rhai o gynorthwywyr yr awyren a rhai teithwyr wedi cael eu trywanu gan yr herwgipwyr.[32][33]

Cwympodd tri adeilad yng Nghanolfan Fasnach y Byd. Dymchwelodd Tŵr y De am 9:59 y bore wedi iddo losgi am 56 munud gan dân a achoswyd gan awyren United Airlines Flight 175 a’r ffrwydrad oherwydd tanwydd yr awyren. Dymchwelodd Tŵr y Gogledd am 10:28 y bore wedi iddo fod ar dân am 102 munud.[34]

Mwg[dolen marw] Canolfan Fasnach y Byd

Am 9:42 y bore cyhoeddodd FAA (Federal Aviation Administration) na fyddai awyrennau mewnol, sifilaidd yn hedfan oddi mewn i ofod awyr UDA, a gorchmynnwyd awyrennau a oedd yn hedfan yn barod i lanio yn syth. Trowyd neu ail-gyfeiriwyd pob awyren dramor sifiliaidd i feysydd awyr yng Nghanada neu Fecsico, a gwaharddwyd hwy rhag glanio ar dir UDA am dri diwrnod.[35] Mewn cyfweliad yn Ebrill 2002, dywedodd Khalid Sheikh Mohammed a Ramzi bin-al Shibh mai targed Awyren 93 oedd y Capitol ac nid y Tŷ Gwyn. Roedd y terfysgwyr ar un adeg wedi ystyried targedu adeiladau lle cedwid arfau niwclear.[26]

Lladdwyd 2,996 o bobl (gan gynnwys 19 o’r herwgipwyr) ac anafwyd mwy na 6,000.[36] Roedd cyfanswm y marwolaethau yn cynnwys 265 ar y pedair awyren (ni oroesodd yr un o'r teithwyr ar yr awyrennau), 2,606 yn adeilad Canolfan Fasnach y Byd a’r ardal gyfagos, a 125 yn y Pentagon.[36] Roedd y rhai a fu farw yn sifiliaid, ynghyd â 343 o ymladdwyr tân, 72 o blismyn, 55 personél milwrol a’r 19 herwgipiwr. Collodd mwy na 90 o wledydd ddinasyddion yn yr ymosodiadau. Collodd 67 o Brydeinwyr eu bywydau yn yr ymosodiadau. Lladdwyd 500 yn rhagor o bobl yn ymosodiadau 9/11 na’r nifer a laddwyd yn ymosodiad Pearl Harbor adeg yr Ail Ryfel Byd ar 7 Rhagfyr 1941. Ymosodiadau 9/11 oedd yr ymosodiadau terfysgol mwyaf angheuol yn hanes y byd.[26]

Yn ninas Efrog Newydd bu farw mwy na 90% o weithwyr ac ymwelwyr oedd yn y ddau dŵr pan drawodd yr awyrennau yn erbyn yr adeiladau. Yn Nhŵr y Gogledd, bu farw 1,355 o bobl oedd yn uwch na’r lefel lle trawodd yr awyrennau, gyda phobl yn cael eu dal ac yn marw oherwydd eu bod wedi anadlu mwg, wedi cwympo neu wedi neidio oddi ar y tŵr er mwyn ceisio dianc rhag y mwg a’r fflamau, a bu farw eraill wrth i’r adeilad ddymchwel. Roedd y ffaith bod y grisiau yn y tŵr wedi cael eu dinistrio yn golygu ei bod hi’n amhosib i unrhyw un oedd uwchben y lefel lle trawodd yr awyrennau ddianc. Bu farw 630 o bobl yn Nhŵr y De. Roedd y nifer a fu farw neu a gawsant anafiadau dipyn llai yn y tŵr hwnnw oherwydd roedd pobl wedi dechrau dianc o’r adeilad pan glywsant fod Tŵr y Gogledd wedi cael ei daro. Neidiodd neu cwympodd o leiaf 200 o bobl i’w marwolaeth wrth geisio dianc o’r ddau dŵr oedd yn llosgi, gan ddisgyn ar y strydoedd neu ar doeau adeiladau is gerllaw. Ceisiodd rhai pobl o’r ddau dŵr ddianc i’r toeau y ddwy tŵr, ond nid oedd hyn yn bosib oherwydd y faint o fwg a gwres a oedd wedi cyrraedd y to.[37] Nid oedd unrhyw gynllun ar waith ychwaith ar gyfer achub pobl drwy ddefnyddio hofrenyddion, ac roedd y gwres ofnadwy yn rhwystro hofrenyddion rhag glanio.

Wythnosau ar ôl yr ymosodiad, amcangyfrifwyd bod nifer y marwolaethau dros 6,000, sef mwy na dwbl y nifer a gadarnhawyd yn y lle cyntaf.[38] Roedd darnau o esgyrn yn cael eu canfod ar y safle mor ddiweddar â 2006 pan oedd gweithwyr yn paratoi i ddymchwel hen adeilad Deutsche Bank. Mae cyrff 1,111 o bobl a oedd yng Nghanolfan Fasnach y Byd ar ddiwrnod yr ymosodiad terfysgol yn dal heb eu canfod.[39]

Canlyniadau

Canolfan Fasnach y Byd newydd yn Efrog Newydd yn 2013

Bu ymateb uniongyrchol i ymosodiadau 9/11 yn UDA ac ar draws y byd. Pasiodd Cyngres UDA raglen gynhwysfawr a oedd yn rhoi iawndal i’r dioddefwyr a’u teuluoedd.[40]

Yn syth wedi’r ymosodiadau, cynyddodd poblogrwydd Arlywydd UDA, George W. Bush, i 90%.[41] Ar 20 Medi 2001, darlledodd neges i’r wlad a Chyngres UDA am ddigwyddiadau 9/11, lle disgrifiodd ymateb arfaethedig y wlad i’r ymosodiadau. Enillodd ymateb Rudy Giuliani, Maer Efrog Newydd, lawer o ganmoliaeth yn Efrog Newydd ac yn genedlaethol, wrth iddo gymryd rôl flaengar yn yr ymateb i’r digwyddiad.[42]

Sefydlwyd nifer o gronfeydd cymorth i helpu i roi cymorth ariannol i'r rhai a oedd wedi goroesi'r ymosodiadau ac i deuluoedd y rhai a laddwyd. Erbyn 11 Medi 2003, roedd 2,833 o geisiadau wedi eu derbyn gan deuluoedd pobl a laddwyd yn yr ymosodiadau.

Yn 2002 sefydlwyd Comisiwn 11 Medi gan yr Arlywydd Bush, a ddaeth i’r casgliad bod diffygion yn y modd roedd y CIA a’r FBI yn monitro terfysgwyr honedig.[43] Yn 2002 crëwyd adran newydd yn Llywodraeth UDA, sef Adran Diogelwch y Famwlad (Department of Homeland Security). Pasiwyd Deddf Gwladgarwyr UDA hefyd gan y Gyngres, a fyddai’n helpu i ddarganfod a chyhuddo pobl o derfysgaeth a throseddau cysylltiedig. Rhoddwyd pwerau ehangach i’r NSA (National Security Agency) er mwyn brwydro yn erbyn terfysgaeth a rhoddwyd mwy o bwerau i wasanaethau cudd UDA wrth gyfrannu a rhannu gwybodaeth am ddinasyddion UDA a dinasyddion gwledydd eraill ar draws y byd.[44]

Troseddau casineb

Yn fuan wedi’r ymosodiadau, ymwelodd yr Arlywydd Bush â Chanolfan Islamaidd fwyaf Washington D.C. a chydnabod cyfraniad enfawr miliynau o Fwslemiaid i UDA a galw ar bobl i'w parchu.[45] Bu nifer o enghreifftiau o erledigaeth a throseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid, pobl o Dde Asia ac yn erbyn Siciaid.[46][47] Bu ymosodiadau eraill ar fosgiau ac adeiladau crefyddol eraill, ymosodiadau ar bobl a bu un llofruddiaeth hefyd. Cofnodwyd sawl adroddiad o droseddau fel fandaliaeth, llosgi bwriadol, ymosodiadau, saethu, erledigaeth a bygythiadau mewn nifer o lefydd.[48][49]

Ymateb Mwslemiaid UDA

Beirniadwyd yr ymosodiadau yn syth gan fudiadau a sefydliadau Mwslimaidd, gan alw ar Fwslemiaid Americanaidd i gynnig eu sgiliau a’u hadnoddau i helpu’r bobl a’r teuluoedd a effeithiwyd.[50] Darparodd llawer o’r mudiadau hyn gymorth ariannol a meddygol, bwyd a llety i ddioddefwyr yr ymosodiadau.[51]

Ymateb rhyngwladol

Condemniwyd yr ymosodiadau gan y wasg a llywodraethau ar draws y byd. Dangosodd gwledydd yn fyd-eang eu cefnogaeth a’u hundod gydag UDA.[51] Beirniadwyd yr ymosodiadau gan y mwyafrif o arweinyddion gwledydd y Dwyrain Canol, a chondemniwyd yr ymosodiadau gan Affganistan. Condemniwyd yr ymosodiadau gan Lywydd a Phen Goruchaf Iran.[52][53] Roedd ymateb Irac yn eithriad i’r ymateb hwn.[54] Cynyddodd y tensiynau rhwng Mwslemiaid a phobl eraill yn UDA a gwledydd eraill ar draws y byd.[55]

Beirniadwyd yr ymosodiadau gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, a ddangosodd ei barodrwydd i weithredu yn erbyn unrhyw fath o derfysgaeth yn unol ag amodau ei Siarter.[56] Cyflwynodd nifer o wledydd ddeddfwriaeth gwrth-derfysgaeth a rhewyd cyfrifon banc unigolion a ddrwgdybiwyd o fod â chysylltiadau ag al-Qaeda.[57] Arestiwyd nifer o derfysgwyr honedig mewn nifer o wledydd gan y gwasanaethau cudd ac asiantaethau'r gyfraith.[58][59]

Bu Prif Weinidog Prydain, Tony Blair, yn gadarn ei gefnogaeth i’r UDA gan hedfan i Washington D.C. ychydig ddiwrnodau wedi’r ymosodiadau.[60]

Tua mis wedi’r ymosodiadau, arweiniodd UDA glymblaid o wledydd rhyngwladol i geisio dymchwel cyfundrefn y Taliban yn Affganistan oherwydd bod al-Qaeda wedi cael lloches yno.[61] Rhoddodd Pacistan yr hawl i UDA gael mynediad i’w chanolfannau milwrol ac arestiwyd a throsglwyddwyd dros 600 o aelodau honedig al-Qaeda i UDA.[62][63] Yn sgil hynny, yn Rhagfyr 2001 sefydlodd UDA wersyll carchar Bae Guantánamo, yn ne-ddwyrain Ciwba, er mwyn carcharu unigolion oedd yn cael eu diffinio fel unigolion a oedd yn codi arfau yn erbyn cyfreithiau’r wlad. Mae cyfreithlondeb y gwersylloedd hyn wedi cael ei gwestiynu gan yr Undeb Ewropeaidd a sefydliadau hawliau dynol.[64][65][66]

Rhyfel Affganistan

Milwyr yr Unol Daleithiau yn Afghanistan

Er i Lywodraeth Bush benderfynu mewn cyfarfod yn Camp David ar 15 Medi 2001 na fyddai UDA yn ymosod i ddial ar Irac, penderfynodd yn ddiweddarach, gyda chefnogaeth cynghreiriaid eraill, ei bod am ymosod ar y wlad, gan nodi mai cefnogaeth Saddam Hussein i derfysgaeth oedd y rheswm dros wneud hynny.[67] Roedd 7 allan o bob 10 o bobl America yn credu ar y pryd bod Arlywydd Irac wedi chwarae rhan yn ymosodiadau 9/11[68], er i'r Arlywydd Bush gyfaddef dair blynedd yn ddiweddarach nad oedd hyn yn wir.

Cyhoeddodd Cyngor NATO bod yr ymosodiadau terfysgol ar UDA yn ymosodiad ar bob un o wledydd NATO. Cyhoeddodd Llywodraeth Bush ‘Ryfel ar Derfysgaeth’ a datgan mai ei fwriad oedd dwyn bin Laden ac al-Qaeda i gyfiawnder a rhwystro rhwydweithiau terfysgol eraill rhag datblygu.[69] Byddai hyn yn digwydd drwy osod sancsiynau economaidd a milwrol ar wledydd oedd yn llochesu terfysgwyr, cynyddu monitro byd-eang ar derfysgaeth a rhannu cudd-wybodaeth.

Ar 14 Medi 2001, pasiodd Cyngres UDA Ddeddf Awdurdodi Grym Milwrol yn Erbyn Terfysgwyr (Authorization for Use of Military Force Against Terrorists), a roddai’r awdurdod a’r pŵer i’r Arlywydd ddefnyddio'r grymoedd angenrheidiol yn erbyn y rhai oedd wedi cynllunio, trefnu, helpu a gweithredu ymosodiadau 11 Medi, neu a oedd wedi rhoi lloches i unigolion yn gysylltiedig â 9/11.

Ar 7 Hydref 2001, dechreuodd y Rhyfel yn Affganistan pan ddechreuodd lluoedd UDA a Phrydain gynnal cyrchoedd bomio o’r awyr yn targedu gwersylloedd y Taliban ac al-Qaeda. Goresgynnwyd Affganistan drwy ddefnyddio milwyr tir y Lluoedd Arbennig. Arweiniodd hyn yn y pen draw at chwalu rheolaeth y Taliban yn Affganistan gyda Chwymp Kandahar ar 7 Rhagfyr 2001 o dan arweiniad UDA a lluoedd clymbleidiol. Mae’r gwrthdaro yn Affganistan rhwng cefnogwyr y Taliban a lluoedd Affganistan, sy’n cael cefnogaeth gan NATO, yn parhau hyd heddiw.[70]

Atgyweiriwyd y rhannau o’r Pentagon a ddifrodwyd o fewn blwyddyn i’r ymosodiadau[71] a dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Canolfan Fasnach y Byd newydd yn 2006, gyda'r adeilad hwnnw'n cael ei ailagor ar 3 Tachwedd 2014. Ailadeiladwyd nifer o dyrrau eraill hefyd ar y safle.[72]

Cofebion

Mae nifer o gofebion wedi eu hadeiladu hefyd i gofnodi beth ddigwyddodd ac enwau’r bobl a fu farw. Agorwyd Cofeb ac Amgueddfa Genedlaethol 11 Medi gyferbyn â safle Canolfan Fasnach y Byd yn 2011 a 2014.[43] Mae ysgoloriaethau ac elusennau wedi cael eu sefydlu gan deuluoedd yr unigolion a fu farw a dioddefwyr yr ymosodiadau, gyda sefydliadau ac unigolion preifat yn cyfrannu at eu creu a'u sefydlu.[73]

Yn Efrog Newydd, mae enwau’r unigolion a fu farw yn yr ymosodiad yn cael eu darllen yn gyhoeddus yn flynyddol yno. Mae Arlywydd UDA yn mynychu gwasanaeth coffa yn y Pentagon[74] ac mae Arlywydd UDA yn gofyn bod Diwrnod Gwladgarwyr yn cael ei goffáu bob blwyddyn gyda munud o dawelwch.

Marwolaethau yn ôl gwlad

GwladMarwolaethauCyfeirnod(au)
 Antigwa a Barbiwda3[75]
 Yr Ariannin4[76]
 Armenia1
 Awstralia11[77]
 Awstria1
 Aserbaijan1
 Bahamas1
 Bangladesh6[78]
 Barbados3[75]
 Belarws1[79]
 Gwlad Belg1[80]
 Belîs1
 Bermiwda3[75][81]
 Bolifia1
 Brasil3[82]
 Canada24[83][84][85][86]
 Tsile3[87][88]
 Tsieina3[87]
 Colombia18[88]
 Costa Rica1
 Ciwba1
 Cyprus1
 Gweriniaeth Tsiec1
 G.D. Congo1
 Dominica2[75]
 Gweriniaeth Dominica47[88][89]
 Ecwador13[88]
 Yr Aifft1
 El Salfador2[87]
 Ethiopia3[90]
 Ffrainc4[91]
 Gambia1
 Georgia1
 Yr Almaen11[87]
 Ghana2[87]
 Gwlad Groeg39[92]
 Grenada1
 Gwatemala1
 Guyana22[75]
 Haiti7[75]
 Hondwras1
 India41[93]
 Indonesia1[94]
 Iran1
 Gweriniaeth Iwerddon6[95][96]
 Israel5[97]
 Yr Eidal10[98][99]
 Arfordir Ifori1
 Jamaica19[75][100]
 Japan24[85][101]
 Gwlad Iorddonen2[102][103][104]
 Casachstan1
 Cenia1
 Libanus3[87]
 Liberia1
 Lithwania1
 Lwcsembwrg1
 Maleisia3[105]
 Mali1
 Mecsico16[87][88]
 Moldofa1
 Yr Iseldiroedd1
 Seland Newydd2[106][107]
 Nicaragwa1
 Nigeria1
 Norwy1
 Pacistan8[108]
 Panama1
 Paragwâi1
 Periw5[87]
 Y Philipinau16[109][110]
 Gwlad Pwyl6[87]
 Portiwgal5[111]
 Rwmania4[112]
 Rwsia1
 Sant Kitts-Nevis1
 Sant Lwsia2[75]
 Sant Vincent a'r Grenadines1
 Slofacia1
 De Affrica2[87]
 De Affrica28[85][113]
 Sbaen1[114]
 Sri Lanca1[115]
 Sweden1[116][117]
 Y Swistir2[87]
 Taiwan1
 Gwlad Thai2[118]
 Togo1
 Trinidad a Tobago14[75]
 Twrci1
 Wcráin1
 Y Deyrnas Unedig67[85][119][120]
 Wrwgwái1[121]
 Wsbecistan1
 Feneswela1
 Fietnam1
 Yemen1[122]
 Sambia1
 Simbabwe1

Cyfeiriadau

Dolenni allanol