Dubai

Mae Dubai (Arabeg: إمارة دبي) yn un o'r saith o Emiradau, yn brifddinas Emiradau Dubai a hi yw'r dinas fwyaf poblog yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (EAU), gyda phoblogaeth o tua 3,331,420 (Ionawr 2020). Lleolir y ddinas ar arfordir gogleddol y wlad ar y Penrhyn Arabaidd. Weithiau gelwir Bwrdeistref Dubai yn ddinas Dubai er mwyn medru gwahaniaethu rhyngddo a'r Emiradau.[1][2][3]

Dubai
Mathdinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr, dinas global, metropolis, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,331,420 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Mehefin 1833 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEmirate of Dubai Edit this on Wikidata
GwladBaner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig
Arwynebedd35 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEmirate of Sharjah Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.2697°N 55.3094°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMohammed bin Rashid Al Maktoum Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganAl Maktoum Edit this on Wikidata

Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl Abu Dhabi. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r pŵer i veto ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Daw prif incwm y ddinas o dwristiaeth, masnach, gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol[4] yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd.[5][6][7][8]

Lleolir twr fwyaf y Byd sef y Burj Khalifa yno, ac fe'i agorwyd yn swyddogol yn 2010. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.

Geirdarddiad

Yn ystod y 1820au, cyfeiriwyd at Dubai fel Al Wasl gan haneswyr o'r DU. Fodd bynnag, prin yw'r cofnodion sy'n ymwneud â hanes diwylliannol yr EAU neu'r Emiradau cyfansoddiadol yn sgîl traddodiadau llafar yr ardal wrth gofnodi a throsglwyddo chwedlau a straeon. Ceir anghydweld hefyd ynglŷn â tharddiad ieithyddol yr enw 'Dubai', wrth i rai credu ei fod yn tarddu o Bersia tra bod eraill o'r farn mai gwreiddiau Arabaidd sydd i'r enw. Yn ôl Fedel Hanadl, ymchwilydd ar hanes a diwylliant yr EAU, mae'n bosib fod y gair Dubai wedi dod o'r gair Daba (amrywiad o Yadub), sy'n meddwl cripian; gallai'r gair gyfeirio ar lif Cilfach Dubai i mewn tua'r tir, tra bod y bardd a'r ysgolhaig Ahmad Mohammad Obaid yn credu fod tarddiad y gair yr un peth, ond mai ei ystyr yw locustiaid.[9]

Hanes

Mae hanes anheddiad dynol yn yr ardal sydd bellach wedi'i ddiffinio gan yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn gyfoethog a chymhleth, ac yn tynnu sylw at gysylltiadau masnachu helaeth rhwng gwareiddiadau Dyffryn Indus a Mesopotamia, ond hefyd mor bell i ffwrdd â'r Lefant.[10] Mae darganfyddiadau archaeolegol yn emirate Dubai, yn enwedig yn Al-Ashoosh, Al Sufouh a chyfoethog nodedig Saruq Al Hadid yn dangos fod yma anheddiadau dynol trwy'r cyfnodau Ubaid a Hafit, cyfnodau Umm Al Nar a Wadi Suq a'r tair Oes Haearn. Roedd yr ardal yn hysbys i'r Sumeriaid fel "Magan", ac roedd yn ffynhonnell ar gyfer nwyddau metelaidd, yn enwedig copr ac efydd.[11][12]

Gorchuddiwyd yr ardal â thywod tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl wrth i'r arfordir gilio i mewn i'r tir, gan ddod yn rhan o arfordir presennol y ddinas.[13] Cafwyd hyd i serameg cyn-Islamaidd o'r 3g a'r 4g. Cyn cyflwyno Islam i'r ardal, roedd pobl y rhanbarth hwn yn addoli Bajir (neu Bajar).[14] Ar ôl i Islam ledaenu yn y rhanbarth, goresgynnodd Umayyad Caliph (o'r byd Islamaidd dwyreiniol) dde-ddwyrain Arabia a gyrru'r Sassaniaid allan. Daeth gwaith cloddio gan Amgueddfa Dubai yn ardal Al-Jumayra (Jumeirah) o hyd i sawl arteffact o gyfnod Umayyad.[15]

Ceir sôn cynnar am Dubai yn 1095 mewn llawysgrif a elwir yn Llyfr Daearyddiaeth gan y daearyddwr Andalusaidd-Arabaidd Abu Abdullah al-Bakri. Ymwelodd y masnachwr perlau Fenisaidd Gasparo Balbi â'r ardal ym 1580 a soniodd fod Dubai (Dibei) yn enwog am ei ddiwydiant perlau.[15]

Canfod olew

Ar ôl blynyddoedd o archwilio yn dilyn darganfyddiadau mawr yn Abu Dhabi cyfagos, darganfuwyd olew o'r diwedd, mewn dyfroedd tiriogaethol oddi ar Dubai ym 1966, er ei fod y maes cyntaf yn fychani. Enwyd y maes olew cyntaf yn 'Fateh' neu 'ffortiwn dda'. Arweiniodd hyn at gyflymu cynlluniau datblygu seilwaith Sheikh Rashid a ffyniant adeiladu a ddaeth â mewnlifiad enfawr o weithwyr tramor, yn bennaf Asiaid a'r Dwyrain Canol. Rhwng 1968 a 1975 tyfodd poblogaeth y ddinas dros 300%.[16]

Porthladd Jebel Ali; 2007

Fel rhan o'r isadeiledd ar gyfer pwmpio a chludo olew o faes olew Fateh, sydd wedi'i leoli ar y môr gyferbyn ardal Jebel Ali, adeiladwyd dau danc storio 500,000 galwyn, a elwir yn lleol yn 'Kazzans', trwy eu weldio gyda'i gilydd ar y traeth ac yna'u harnofio a'u gollwng ar wely'r môr ym maes Fateh.[17] Adeiladwyd y rhain gan y Chicago Bridge and Iron Company, a roddodd ei enw lleol i'r traeth (Traeth Chicago), a Gwesty'r Chicago Beach, a gafodd ei ddymchwel a'i ddisodli gan Westy'r Jumeirah Beach ddiwedd y 1990au. Roedd y Kazzans yn datrus y broblem o sut i storio olew mewn ffordd arloesol, a olygai y gallai llong-danceri enfawr angori ar y môr hyd yn oed mewn tywydd gwael ac osgoi'r angen i bibellau olew ar y tir o Fateh, sydd tua 60 milltir allan i'r môr.[18]

Roedd Dubai eisoes wedi cychwyn ar gyfnod o ddatblygu ac ehangu isadeiledd. Ond roedd y refeniw olew hwn, a oedd yn llifo o 1969 ymlaen, yn ysgogiad i gyfnod o dwf aruthrol, gyda Sheikh Rashid yn cychwyn ar bolisi o adeiladu seilwaith, isadeiledd ac economi fasnachu amrywiol cyn i gronfeydd wrth gefn cyfyngedig yr emirate gael eu disbyddu. Roedd olew yn cyfrif am 24% o'r CMC yn 1990, ond roedd wedi gostwng i 7% o'r CMC erbyn 2004.[19]

Yn hollbwysig, un o'r prosiectau mawr cyntaf i Sheikh Rashid gychwyn arno pan ddechreuodd y refeniw olew lifo oedd adeiladu Port Rashid, porthladd rhydd, dŵr-dwfn a adeiladwyd gan y cwmni Prydeinig Halcrow. Y bwriad gwreiddiol oedd bod yn borthladd pedair angorfa, cafodd ei ymestyn i un ar bymtheg angorfa. Roedd y prosiect yn llwyddiant ysgubol, gyda chiwio llongau i gael mynediad i'r cyfleusterau newydd. Cafodd y porthladd ei agor yn swyddogol ar 5 Hydref 1972, er bod ei angorfeydd i gyd yn cael eu defnyddio cyn gynted ag y cawsant eu hadeiladu. Ehangwyd Port Rashid ymhellach ym 1975 pan ychwanegwyd 35 angorfa arall, cyn i borthladd mwy Jebel Ali gael ei adeiladu.[19]

Dubai fodern

Yn ystod y 1970au, parhaodd Dubai i dyfu o refeniw a gynhyrchwyd o olew a masnach, hyd yn oed wrth i'r ddinas weld mewnlifiad o fewnfudwyr yn ffoi rhag rhyfel cartref Libanus.[20] Parhaodd anghydfod am y ffiniau rhwng yr emiradau hyd yn oed ar ôl ffurfio'r Emiradau Arabaidd Unedig; dim ond ym 1979 y daethpwyd i gyfaddawd ffurfiol a ddaeth a'r anghytundebau i ben.[21] Sefydlwyd porthladd Jebel Ali, porthladd dŵr dwfn a oedd yn caniatáu i longau mwy angori, ym 1979. Nid oedd y porthladd yn llwyddiant i ddechrau, felly sefydlodd Sheikh Mohammed y JAFZA (Parth Rhydd Jebel Ali) o amgylch y porthladd ym 1985.[22] Parhaodd maes awyr Dubai a'r diwydiant hedfan i dyfu hefyd.

Cyfeiriadau