Y Groes Fictoria (VC) yw'r addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig[1]. Mae'r VC yn cael blaenoriaeth ar unrhyw urdd, anrhydedd neu fedal arall. Gall person o unrhyw reng milwrol yn unrhyw un o'r lluoedd arfog, yn ogystal ag unrhyw aelod sifil sy'n gweithio o dan reolaeth milwrol, ennill y VC[1].
Cyflwynwyd y VC am y tro cyntaf ar 29 Ionawr1856 gan Brenhines Fictoria er mwyn anrhydeddu gweithredoedd arwrol yn ystod Rhyfel y Crimea. Cyn hyn dim ond swyddogion oedd yn gymwys i dderbyn yr anrhydedd uchaf, sef Urdd y Baddon. Roedd nifer o wledydd Ewropeaidd yn cyflwyno anrhydeddau nad oedd yn gwahaniaethau ar sail eu rheng nag ar sail dosbarth cymdeithasol; roedd gan Ffrainc y Légion d'honneur (Lleng Anrhydedd) ac roedd Yr Iseldiroedd yn cyflwyno Militaire Willems-Orde (Urdd William).
Cafwyd y seremoni cyntaf ar 26 Mehefin1857 wrth Frenhines Fictoria urddo 62 o'r 111 milwr o Ryfel y Crimea yn Hyde Park, Llundain. Bellach, mae'r fedal wedi ei chyflwyno 1,358 o weithiau i 1,355 o unigolion. Dim ond 15 medal sydd wedi eu cyflwyno ers Yr Ail Ryfel Byd, 11 i aelodau Byddinoedd Prydain a phedwar i aelodau Byddinoedd Awstralia.
Credir fod y medalau wedi eu bathu o fetal canon Rwsiaidd a gafodd ei gipio yn ystod Gwarchae Sevastopol, ond mae ymchwil diweddar yn awgrymu mai canonau Tsieneiaidd yw tarddiad metal nifer ohonynt[2].
Mae'r addurn yn groes pattéeefydd, 41mm (1 39/64") o uchder, 36mm (1 27/64") o led, yn dangos coron Sant Edward gyda llew uwchben a chyda'r arysgrif FOR VALOUR. Y geiriau FOR THE BRAVE oedd i fod i ymddangos yn wreiddiol hyd nes i'r Frenhines Fictoria ofyn am y newid rhag awgrymu nad oedd pob person mewn brwydr yn ymddwyn yn ddewr[3]. Mae'r addurn, y bar crog a'r ddolen yn pwyso tua 27g (0.87owns)[4]
Mae'r groes wedi ei chrogi ar gylch sy'n cysylltu â "V" ar far sydd wedi'i haddurno â dail llawryf. Ar gefn y bar, llae mae'r rhuban yn cael ei bwydo, ceir enw, rheng, rhif ac uned y derbynnydd[5]. Ar gefn y medal mae panel crwn lle torrir dyddiad y weithred arwrol[5].
Mae'r rhuban yn rhuddgoch, 38mm (1 1/2") o led. Yn wreiddiol (1856) roedd y rhuban i fod yn goch i aelodau'r fyddin ac yn las tywyll i aelodau'r llynges, ond diddymwyd y rhuban glas tywyll wedi ffurfio'r Llu Awyr Brenhinol ar 1 Ebrill1918. Ar 22 Mai1920 arwyddodd Sior V warant yn cyhoeddi y byddai pob derbynnydd o hyn ymlaen yn derbyn rhuban coch a bod angen i pob aelod o'r llynges oedd eisoes wedi derbyn VC i gyfnewid eu rhuban glas tywyll am un coch[6].
Er fod gwarantau'r fyddin yn datgan mai "coch" yw lliw y rhuban, fe'i ddigrifiwyd yn swyddogol fel rhuban "rhuddgoch".[7]
Nid oes modd dod i gasgliad pendant am y nifer o Gymry sydd wedi eu hurddo â'r VC gan fod nifer o filwyr di-Gymraeg gyda chatrawdau Cymreig a hefyd nifer o filwyr di-Gymraeg oedd yn byw yng Nghymru wedi eu cynnwys gan sawl cyfeirlyfr ymysg y rhestrau o Gymry gafodd eu hurddo. Syr Hugh Rowlands oedd y Cymro cyntaf i gael ei urddo yn dilyn gweithred yn ystod Rhyfel y Crimea, er i Robert Shields o Gaerdydd - yr ail Gymro i gael ei urddo - dderbyn ei fedal cyn Syr Hugh.
Yr un weithred filwrol y mae pawb yn ystyried ei fod yn Gymreig yw'r amddiffyniad o Rorkes Drift yn ystod Rhyfel y Zulu ym 1879 - lle enillwyd 11 VC gan aelodau o gartrawd Cyffinwyr De Cymru ac a anfarwolwyd yn y ffilm Zulu ond dim ond tri o'r unarddeg sy'n cael eu hystyried yn Gymry, bellach.
Dyma restr o rai o'r Cymry sydd wedi eu hanrhydeddu trwy ddyfarnu Croes Fictoria iddynt[8][9]
(Mae'r rhestr yn anghyflawn gellir helpu Wicipidia trwy ychwanegu ato)