Caeriw

pentref yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Caeriw[1] (Saesneg: Carew). Saif rhyw 7 km i'r dwyrain o dref Penfro. Gerllaw, saif Melin Lanw Caeriw, yr olaf o'i math yng Nghymru.

Caeriw
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,532 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,236.93 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6983°N 4.83°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000416 Edit this on Wikidata
Cod OSSN045038 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Tyfodd y pentref o amgylch y castell Normanaidd gerllaw. Mae Croes Caeriw, croes Geltaidd 4 medr o uchder yn dyddio o'r 11g, yn coffáu Maredudd ab Edwin, aelod o deulu brenhinol Deheubarth (bu farw 1035. Mae'r groes yng ngofal Cadw, ac mae logo Cadw wedi ei seilio arni.

Croes Maredudd ab Edwin, Caeriw
Melin lanw Caeriw

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caeriw (pob oed) (1,532)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caeriw) (179)
  
12.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caeriw) (1001)
  
65.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Caeriw) (188)
  
30.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau