Hundleton

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Hundleton.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gorllewin o dref Penfro gerllaw glan Afon Penfro, sy'n rhan o aber Afon Cleddau.

Hundleton
Canol y pentref
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth908 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,075.37 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.67°N 4.95°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000943 Edit this on Wikidata
Cod OSSM960007 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Heblaw pentref Hundleton ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Maiden Wells, Pwllcrochan a Rhoscrowdder. Ceir purfa olew yn perthyn i Texaco yn y gymuned, gydag angorfa ar gyfer tanceri hyd at 280,000 tunnell fetrig. Bu'r naturiaethwr R. M. Lockley yn byw yn Orielton House. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 780.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hundleton (pob oed) (908)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hundleton) (98)
  
11.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hundleton) (602)
  
66.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hundleton) (127)
  
35.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau