Llanusyllt

pentref and community yn Sir Benfro
(Ailgyfeiriad o Saundersfoot)

Pentref glan-môr a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Benfro, Cymru yw Llanusyllt[1][2][3][4][5][6] neu yn swyddogol fel Saundersfoot[7].

Llanusyllt
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,628 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd677 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7114°N 4.7°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000471 Edit this on Wikidata
Cod OSSN136048 Edit this on Wikidata
Cod postSA69 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Cyfeiria'r enw Cymraeg at eglwys gyfagos wedi'i chysegru i Sant Usyllt.[8][9] Gyda'i gymydog Dinbych-y-pysgod, 2 filltir i'r de, mae'n un o'r cyrchfeydd gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae'n enwog am ei draethau braf ar Fae Caerfyrddin.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[10] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[11]

Harbwr Llanusyllt

Hanes

Adeiladwyd yr harbwr yn 1829 ar gyfer allforio glo carreg (anthracite) o'r pyllau glo niferus yn yr ardal (e.e. yn ardal Stepaside), ond cyn hynny allforid glo o'r traeth ei hun am ganrifoedd. Tyfodd y pentref o gwmpas yr harbwr. Mae cwrs hen dramffordd o bwll Cwrt Bonville yn croesi'r pentref tra fod y yr hen dramffordd o bentref Amroth yn ffurfio'r promenad heddiw. Daeth y diwydiant glo i ben ar ddechrau'r 20g.

Manteisiodd y pentref ar y rheilffordd ger llaw i ddenu ymwelwyr o ardaloedd glofaol a dinesig De Cymru a gorllewin Lloegr a thyfodd i fod yn bentref glan-môr poblogaidd. Gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwyddo.


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[12][13][14][15]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanusyllt / Saundersfoot (pob oed) (2,628)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanusyllt / Saundersfoot) (269)
  
10.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanusyllt / Saundersfoot) (1486)
  
56.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanusyllt / Saundersfoot) (550)
  
45.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau