Hook, Sir Benfro

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro, Cymru, yw Hook.[1] Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r de o dref Hwlffordd ar lan Afon Cleddau Wen. Gelwir tro yn yr afon gerllaw yn Hook Bight.

Hook
Capel Mynydd Seion, Hook
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.762°N 4.929°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000942 Edit this on Wikidata
Cod OSSM979111 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Ar un adeg roedd glo carreg o lofa Hook, un o'r rhai olaf fu'n gweithio yn Sir Benfro, yn cael ei allforio o Hook Quay. Defnyddid tramffordd i ddod a'r glo at y cei.

Dim ond yn 1999 y daeth Hook yn gymuned; cyn hynny roedd yn rhan o gymuned Llangwm.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 656.


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hook, Sir Benfro (pob oed) (838)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hook, Sir Benfro) (106)
  
13.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hook, Sir Benfro) (568)
  
67.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Hook, Sir Benfro) (119)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau