Sain Fflwrens

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Sain Fflwrens neu St Florence[1] (Saesneg: St. Florence).[2] Saif yn ne'r sir ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o dref Dinbych-y-pysgod ac i'r de o briffordd yr A477. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd, i'r Santes Florentius.

Sain Fflwrens
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.676°N 4.776°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000468 Edit this on Wikidata
Cod OSSN0808901170 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Gumfreston. Roedd poblogaeth y gymuned yn 751 yn 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]

Bwthyn traddodiadol yn Sain Fflwrens


Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Sain Fflwrens (pob oed) (756)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Sain Fflwrens) (77)
  
10.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Sain Fflwrens) (426)
  
56.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Sain Fflwrens) (110)
  
36.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau