Casacheg

iaith Tyrcaidd

Iaith Dyrcaidd yw Casacheg a siaredir yn frodorol gan y Casachiaid, sydd yn byw yng Nghasachstan a mewn lleiafrifoedd yn rhanbarth Xinjiang, Tsieina, ac yn Wsbecistan, Mongolia, ac Affganistan. Mae Casacheg yn perthyn i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i Girgiseg, Karakalpak, a Nogay.

Casacheg
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathKipchak–Nogai Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTafodiaith Gasach y Gorllewin, Tafodiaith Gasach y Gogledd-Orllewin, Tafodiaith Gasach y De Edit this on Wikidata
Enw brodorolқазақ тілі Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 12,900,000 (2019),[1]
  •  
  • 13,161,980 (2009)[2]
  • cod ISO 639-1kk Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2kaz Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3kaz Edit this on Wikidata
    GwladwriaethCasachstan, Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia, Wsbecistan, Tyrcmenistan, yr Almaen, Cirgistan, Twrci, Iran, Aserbaijan, Wcráin Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuYr wyddor Gyrilig, Yr wyddor Arabeg, yr wyddor Ladin, Kazakh Braille Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioMinistry of Culture and Information of Kazakhstan, Ministry of Culture and Sports of Kazakhstan Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Fideo o ddyn ifanc yn siarad Casacheg.

    Ysgrifennwyd yr iaith Gasacheg drwy gyfrwng yr wyddor Arabeg hyd at yr 20g. Yn sgil sefydlu'r Undeb Sofietaidd, defnyddiwyd llythrennau Lladin yn y cyfnod 1929–40 cyn newid i'r wyddor Gyrilig. Yn 2017 datganodd llywodraeth Casachstan y byddai'r iaith yn dychwelyd at lythrennau Lladin a chyda diwygiadau sillafu.[3]

    Mae'r dafodiaith Kipchak-Wsbec yn debyg iawn i Gasacheg, a fe'i ystyrir yn aml yn dafodiaith Gasacheg er bod ei siaradwyr yn defnyddio'r iaith lenyddol Wsbeceg.[4]

    Cyfeiriadau